Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

LLITH Y CRWYDRYN.

News
Cite
Share

LLITH Y CRWYDRYN. XII.—LLANBADARN FAWR, CEREDIGION. Ceir nifer o gof-feini heirddion o fewn sglwysdy Llanbadarn, fel y gallesid disgwyl, gan mai yma y mae claddfeydd Gogerddan, Nant Eos, a chyfoethogion ereill. Uno'r cof- feini tlysaf yma yw gwaith y cerflunydd enwog FIaxman er cadw yn wyrddlas gcffa- dwriaeth am Harriet, merch Is-iarll Ash- brook, a phriod i Pryse Pryse, Ysw., Goger- ddan. Gwelir yma gof-faen am Lewis Morus (Llywelyn Ddu o Fon), ond ni wyr neb pa le y mae ei fedd. Bu'm yn ceisio dod 0 hyd iddo ryw fodd, ond methais. Ganwyd ef yn y Tyddyn Melus, ym mhlwyf Llan- fihengel Tre'r Beirdd, dwy filldir a haner o Llanerchymedd yn sir Fori, Mawrth 12, 1702. Efe oedd mab hynaf Morus ab Risiard Morus, cylchwr wrth ei alwedigaeth yn y bwthyn Ilwyd diaddurn gyda tho gwellt ar fin y brif- ffordd. Symudodd ei rieni o'r Tyddyn Melus i Pentre-Eirianell ym mhlwyf Penrhos Llugwy uwch aberiad afon Dulas pan oedd Lewis yn ieuargc; ac yn fuan ychwanegodd ei dad y gorchwyl o fasnachu mewn yd at ei waith fel cylchwr, gan adael y gwaith o gylcho yn benaf i'w feibion Lewis, Risiard, a William. Yr cedd Lewis Morus erbyn hyn yn graddol ddadblygu fel bardd o gryn deilyngod, a dysgodd hefyd y gorch- wyl o fesuriaeth tir. Cawn iddo ef gael swydd berthynol i'r dollfa yng Nghaergybi dan nawdd y llywodraeth ym Mon. Casglu cyllid a threth yr halen oedd ar y cyntaf, ac wedi hyny gosododd y Morlys ef i wneud mesuriad arolygol o arfordiroedd Cymru. Cyhoeddwyd rhan o'i waith yng nglyn a hyn yn 1748. Cafodd wedi hyny ei benodi gan y Trysorlys i arolygu tir-gyllid y brenin, casglu porth-dollau yn Aberteifi, ac arolygu mwn- weithiau y brenin yng Nghymru. Gwnaeth lawer o arlenau gwerthfawr i'r llywodraeth y rhai oeddynt yn sylfaenau i'r rhai ydynt heddyw mewn arferiad gan Fwrdd Masnach. Bu Lewis Morus yn athraw a noddydd i feirdd a llenorion ei oes a'i wlad. Ei ddis- gyblion ef oeddynt Goronwy Owain, Ieuan Brydydd Hir, a John Parri y telynor, a'r cerddor byd adnabyddus wedi hyny. Gosod- odd Lewis Morus argraphwasg i fyny ym Modedeyrn ym Mon yn 1735. Gwelsom grybwylltiad yn dyweyd mai yng Nghaergybi y gosododd hi i fyny ac nid ym Modedeyrn. Gwerthwyd yr Argraphwasg hono i Dafydd Jones o Drefriw yna symudwyd hi oddiyno i Llangollen. Casglodd lawer o farddoniaeth, geiriau, ac enwau o'r hen oesodd, a galwodd hwy yn Weddillion Celtaidd." Trueni mawr nad argrephid hwy yn y dyddiau hyn. Mae cyfrolau lawer o'i weithiau mewn llaw- ysgrifen yn yr Amgueddfa Frytanaidd yn Llundain. Priododd Mawrth 29, 1729, ag Elizabeth <5ruffydd, Ty Wydrim, ger Caergybi. Bu fyw yn Allt Fadog yn Sir Aberteifi o 1737 hyd 1749 pan y priododd yr ail waith ag Anne Lloyd, Penbryn-y-barcud, ger Llan- badam Fawr, ac y symudodd yno i fyw, yno y bu farw Ebrill 11,1765, ac yn Llanbadarn y claddwyd ef. Ni wyr neb pa le y mae ei feddrod, ond y mae yma yn rhywle ym mysg y pentwr. Gwnaeth lawer iawn tuag at wella llenyddiaeth ei wlad a'i genedl. Darllenir ei weithau tra y pery y Gymraeg yn iaith pobloedd. Bu ei frodyr Risiard a William yn enwog iawn yn eu cylchoedd pwysig dan y Llywodraeth. Gresyn na fuasai diwygiadau Risiard wedi eu derbyn gan yr awdurdodau i orgraph y Beibl Cymraeg a'r Llyfr Gweddi Cyftredin. 9 Claddwyd Risiard yn 1779 yn St. George's in the East, Llundain. Buasai cael ohyd i fedd Lewis Morus (Llywelyn Ddu o Fon), a chael beddfaen arno, yn ysbrydiaeth newydd i ieuengctyd Llanbadarn i weithio gyda llenyddiaeth Gymreig. "Mae beddrod Lewis Morus ym mynwent Padarn Fawr, Yn galw arnom deithio'n 0], hyd risiau'r oes i lawr, l'r dyddiau pan oedd G'ronwy ym Môn yn hogyn bach, In nyddu cerdd, yn naddu can, wrth reol awen iach." Bu yr enwog Syr Hu Canolydref, Barwnig, yn arcs yn y lie hefyd rywtryd cyn 1606. Efe ddechreuodd weithio y cloddfeydd plwm yrg nghymoedd y Symlog a'r Rheidiol; a phan yn chwilio am blwm, daeth o hyd i wythienau cyfcethog o fwn arian. Yma y casglodd y cyfoe]th enfawr a wariodd yn amser Iago I. i ddwyn dyfrcedd yr Afon Newydd o Amwell a Ware i Islington er dwfrhau dinas Llundain. Pasiwyd gweithred Seneddol yn caniatau gwneyd hyny Ebrill 1, 1606. Chwef- ror 20, 1608, cychwynodd y gwaith, adugwyd yr Afon Newydd i Islington, Medi 29, 1613. Er i'r brenin Iago dalu haner y draul i ddwyn y dwfr i Lundain, eto collodd Syr Hu ddwy fil o bunau yn y mis o'r arian o'i fwngloddiau ym mhlwyf Llanbadarnfawr. Bu Syr Hu Canolydref farw yn 1631, ac y mae cofgolofn iddo yn Islington Green, Llundain. Genedigol o'r plwyf hwn oedd yr awenber Dafydd ab Gwilym. Ganwyd ef ym Mro Gynin, Llanbadarn Fawr, tualr flwyddyn 1340. [Myn rhai mai yn agos i Landaf Morganwg y ganwyd ef tua 1300, ac iddo farw ym Myn- achlog Tal-y-llychau, swydd Gaerfyrddin, lie ei claddwyd yn 1368]. Addysgwyd ef gan ewythyr iddo o ochr ei fam, sef Llywelyn ab Gwilym Fychan, perchenog Ilawer o diroedd yng Ngheredigion, gerllaw Castellnewydd-yn- Emlyn. Yno y treuliodd Dafydd ab Gwilym y rhan fwyaf o'i amser nes oedd tua phum- theg oed, pryd o herwydd rhyw amgylchiadau y daeth adref i Fro Gynin yn Llanbadarn Fawr. Wedi hyny aeth at ei gar, Ifor Hael, o Faesaleg ym Mynwy, yr hwn a'i gwnaeth yn arolygwr a'r ei etifeddiaethau yno, ac hefyd yn athraw i'w ferch ieuangc. Enillodd Dafydd serch y ferch, a gyrodd ei thad hi i leiandy ym Mon rhag iddi briodi Dafydd ab Gwilym. Yn fuan wedi hyny daeth Dafydd yn brif- fardd Morganwg. Efe oedd y gofynwr mewn gwleddoedd, y rhai a gynhelid yn nhai goreu- gwyr Cymru yn y dyddiau hyny yn gyffredin. Diau iddo fel llawer o'r beirdd o'i flaen ac ar ei ol syrthio i arferion yfol ac iselwael ar brydiau. Desgrifio pethau fel yr ymddangos- ant iddo ef yw gwaith y bardd, ac nid dilyn, na chredo, na chyffes ffydd; ac efallai fod bywyd direol mewn rbyw ystyr felly yn arwain i fywyd llws mewn moes dan ddylanwad cwmni llawen weithiau. Nid Robert Burns na Twm o'r Nant yw yr unig rai o'r beirdd ydynt wedi byw bywyd y buasid yn caru eu bod wedi byw yn well. Syrthiodd Dafydd ab Gwilym mewn cariad a Moifudd, merch Madog Lawgam o Fon, ac yr oedd hithau yn dra hoff o hono yntau. Gorfodwyd hi gan ei cheraint i briodi gwr hen o'r enw Cynfrig Cynin er mwyn ei gyfoeth yn unig. Ond er fod y bardd yn dylawd dygodd Morfydd oddiwrth Cynfrig Cynin ei gwr; daliwyd hwy pan yn ffoi, a gosodwyd dirwy drom ar Dafydd i'w thalu, yr hon, oherwydd ei dylodi, nis gallasai ei thalu. Taflwyd ef i garchar, ac yno y buasai hyd ei farwolaeth oni bae i'w gyfeillion ym Morganwg dalu y ddirwy a'i ddwyn o'r carchar. Cyfansoddodd yn agos i gant a haner o gywyddau i'r Forfydd hono. Goroesodd ei Noddwr hael a'i Forfydd gu: dychwelodd i Fro Gynin yn Llanbadarn Fawr, ac efallai iddo weled tylodi nid ychydig yr adeg hono. Tybir iddo farw tua'r flwyddyn 1400, ac iddo gael ei gladdu ym Mynachlog Ystrad Fflur, ac nid yn Tal-y-Llychau, fel y dywed rhai. Erys gweithiau barddonol Dafydd ap Gwilym i swyno calon Cymry tra y siaredir y Gymraeg. Ym mynwent Llanbadarn Fawr y mae dwy groes Frytanaidd henafol; ond nid oes arnynt arysgrifen i ddyweyd dim o'u hanes. Dywed Carlisle's Topographical Dictionary of Wales nad yw ceffylau na chnydau gwair y plwyf erioed wedi bod dan ddegwm. Saif y pentref mewn man tlws a chysgodol. Brodor oddiyma yw Mr. W. T. Jones, Peckham, Llundain, yr hwn sydd ddyn ieuanc rhagorol. Pob rhwyddineb i blant Llanbadarn Fawr i esgyn i sefyllfaoedd uchel mewn bywyd yn ninascedd manrion y byd. Dyma balasdy henafol ac enwcg GogErddan -cartrefle Syr Pryse Pryse, Barwnig. Deillia yr enw o Go-cerdd ac an. Hen ystyr y gair cerdd oedd rhodiad, mynedfa. Tueddu i lei- hau y rhodfa y mae y blaenddodyn go a'r 61-ddodyn an. Trwy y fan lie saif Palasdy Gogerddan yn awr yr oedd y ffordd i fyned„ yn yr oesoedd gynt, o gestyll Gwallter, 'Rhen Gaer, i'r Gaer a Phen-y-castell yn y myn- yddoedd. Gan mai y beirdd oedd y teithwyr a rodient o amgylch yn gyson i ganu yn yr oesoedd gynt, rhoddwyd yr enw cerdd i gan- iadaeth. Mae teulu y Prysiaid yn Gymraeg o waedoliaeth, ac wedi bod drwy yr oesau yn Rhyddfrydwyr pybyr. Uu o'r meistri tir goreu yn y deyrnas fu Syr Pryse Pryse,, Barwnig, gynt. Rhaid i fawrion ein gwlad fyw ymysg eu deiliaid, a gwario y rhan fwyaf o'r rhenti yn yr ardaloedd y codir hwy. Bydd enw hen deulu Gogerddan mewn coff- had yng Nghymru am oesau lawer ar gyfrif eu cydymdeimlad a gwerin Cymru. Hen air rhagorol yn yr ardal hon ydyw paith, a geir yn Nyffryn Paith, ac hefyd yn Peithyll. Paith, peithiau, yw agoriad yn rhoi gweledfa eang, helaeth, glir. Diphwys baith odwys." Gair perthynol i peithi yw Picts, sef preswylwyr y maes agored-y gwastadeddau llydain mewn cyferbyniad i rai oeddent mewn mynyddoedd cauedig. Peithynen yw peth gwastad, agored un felly oedd ysgrifeniadau y beirdd ar goed a ddyfeisiwyd o bosibl yn amser Owain Glyndyfrwyf pan oedd defn- yddiau ysgrifenu yn brfn iawn ac yn wa- harddedig i Gymry. Gosodwyd y prenau petryal mewn ffram lie y gallesid eu troi a darllen yr arysgrifen oedd ar eu pedwar wyneb. Peithynen y gelwid hwy, Gwelais un ragorol yn cael ei hanfon i fyny i'r Nod- achfa Undodaidd a gynhaliwyd dair blynedd yn ol yng Ngwesty yr Holborn gan Undodiaid Neuadd Essex, dan lywyddiaeth y brodyr da Mri. John Da vies, Hackney Road; Dr Evans, Cwrt Newydd; Dan Jones, Walthamstow; Joshua Davies, Regent Street, ac ereill. 'Roedd y ffordd Rufeinig, Sarn Helen, yn croesi'rplwyf hwn; gellir gweled peth o'r cyfryw hyd yn awr ar dir amaethdy Llwyn Rhingyll. Ystyr y gair rhingyll yw rhybuddiwr (ser- geant). Yma y preswyliai y swyddog uchod yn yr oesau gynt. Trueni na fuasid yn gwneyd ffyrdd mor dda a pharhaol yn awr ag a wnaed gynt. Ond y mae eisieu gwneyd ymaith a'u rhiwiau serth a'ent gynt ar eu hunion o le i le dros fynyddoedd ac i lawr i'r pantiau heb ofalu dim am riw nac afon, na throi ar y dde nac ar yr aswy i osgoi unrhyw rwystr. Dadwrdd y coroni sydd yn yr ardaloedd yma y dyddiau hyn. Teimla pawb yma ddyddordeb yn y peth, a Ilawer yn cwyno am fod y Brenin a'r Frenhines yn rhoi eu cefnog- aeth i redegfeydd ceffylau yn Epsom, Ascot, Newmarket, a. manau ereill. Nid oes dim allan o'i le mewn rhedegfa ceffylau mwy nag sydd mewn cystadleuaeth canu, ond fod cym- aint o hap-chwareu wedi dod ynglyn a'r rhedegfeydd hyn. Carwn yn fawr weled y Brenin a'n Seneddwyr yn gadael rhedegfeydd ceffylau ac yn rhoi eu dylanwad yn erbyn hap-chwareu sydd fel cancr yn ysu bywyd ein teyrnas.