Hide Articles List

3 articles on this Page

Oddeutu'r Ddinas.

Advertising

Y Bra A'R BETTWS.

News
Cite
Share

Gan fod y fath nifer o ddyddiau gwyl wedi bod yn ddiweddar, y mae'r Senedd mewn cryn benbleth ynglyn a'r gwaith sydd yno i'w gyflawni. Y mae'r rhyfel hyd yma wedi myn'd a llawer iawn o oriau'r Ty, a chan fod amryw fesurau dadleugar ger bron, ofnir nas gellir gorffen y gwaith cyn diwedd y tymhor ar Awst y 12fed. Os na wneir hyn, bydd raid wrth dymhor Hydrefol eto. Sonir gan rai personau fod argoelion y ceir heddwch heb fod yn bir yn ardal Beth- esda. Hyd yma, y mae'r dynion a'r meistri wedi bod yn bur ystyfnig, ond nid yw'r gwa- haniaeth rhyngddynt yn fawr iawn. Feallai pe cawsid dyn doeth fel canolwr, v gallesid oresgyn pob anhawsder a dwyn perffaith hedd eto i ardal sydd wedi myned yn druenus o dylawd. Mae Tywysog Cymru wedi rhoddi caniatad i bwyllgor Eisteddfod Bangor ddefnyddio ei enw fel noddwr yr Wyl. Bydd felly, o hyn allan, yn Eisteddfod Frenhino), pe waeth am hyny. Gan fod yr amser, bellach, wrth y drws, y mae pob ychydig o gynorthwy a nawddogaeth o werth; ond os am ei gwneyd i dalu yn dda, paham na ofalai y pwyllgor am sicrhau i lywyddu, dyweder, naill ai Kitchener neu De Wet. Rhyfedd y cyfnewidiad sydd wedi dod yn ddiweddar tros farn y papyrau Jingoaidd Y dyddiau hyn canmolir y Boeriaid fel dynion gcnest, dewr, a charedig; ac y bydd y genedl hon yn un o binaclau yr ymherodraeth o hyn aliaJ. Mor wahanol oedd hi dair blynedd yn ol pryd hyny, nid oedd yr un ddifriaeth yn rhy wael a chelwyddog i'w defnyddio. Mae Carnegie wedi ychwanegu at ei hael- ioni i Gymru. Y dydd o'r blaen addawodd chwe' mil o bunau i'r aelod Seneddol tros Ferthyr i'w rhanu yn y dosbarth tuagat adeil- adu nifer o fan lyfrgelloedd. Trueni fod yn rhaid gadael i Ysgotyn wneyd hyn drosom, pan y mae'r fath nifer o fawrion ein cenedl wedi gwneyd miliwnau o aur o ardal Merthyr yn unig! Cafodd Coleg Anibynol Bala-Bangor flwyddyn lied foddhaus y flwyddyn ddiweddaf. Yn yr adroddiad blynyddol a gyflwynwyd yng nghyfarfod y llywodraethwyr y dydd o'r blaen, hysbyswyd y trysorydd ddarfod iddynt ddechreu y flwyddyn gyda dyled o 9301, ond erbyn ei diwedd yr oeddynt wedi clirio yr oil a chanddynt 940 mewn llaw yn weddill. Yn ystod eu teithiau blynyddol, llwyddodd yr efrydwyr i gas^lu £ 1039. Yn ystod y tymhor diweddaf yr oedd 36 o efrydwyr yn y lie. Y GWR A'R DDWY WRAIG. Dyma stori ag sydd yn ergyd effeithiol i'r offeiriaid a'r pre- gethwyr hyny a honant fod yn bleidiol i Deyrnas heddwch :—" Clywsoch yr ystori am y dyn hwnw a briododd ddwy wraig. Rhyw ddiwrnod taflodd yr ail wraig y gwr i benbleth 4 Wei, John,' ebai hi, I deydwch chi'r gwir, prun ai fi ai y wraig gynta' ydi gora gynoch chi ?' Ond daeth John o'r anhawsder drwy ddyweyd, 'Wel, 'ngeneth i, y wraig gynta' pan oedd hi, ond y chdi rwan.' Cyffelyb yw llawer o bobl gyda rhyfel a heddwch pan oedd rhyfel, rhyfelgar oeddynt hwythau, a dadleuent dros ryfel. Yn awr, wedi i hedd- wch gael ei dro, canmolant yntau. Gewch chwi wel'd mai pur swil bellach fydd yr un efengylwr i geisio cyfiawnhau rhyfel, a bydd perorations areithiau a phregethau yn glod- foredd i heddwch. Bu ysbryd yr heddgar Henry Richard yn cysgu'n drwm hyd yn oed yng Nghymru'n ddiweddar; ond mi wnaf lw y bydd galw arno o'i gwsg yn awr, ac y bydd ei genadaeth gyflafareddol a heddychol mewn bri am ryw hyd eto. Bydd heddwch yn Gristionogol bellach—hyd nes y gwel Cham- berlain neu ei debyg, fod gan rhyw genedl fechan gloddfeydd aur a diamwnt y byddai yn ddymunol i Shon Bwl eu meddianu."—(O'r Cymro).