Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Y Bra A'R BETTWS.

News
Cite
Share

Y Bra A'R BETTWS. Ceir rhagor o waeddi a rialtwch ar y 13eg o'r mis nesaf, oherwydd disgwylir y Cadfridog Kitchener yn ol i Loegr ar y dydd hwnw. Y mae eisoes wedi hwylio o Cape Town. Yr oeddem yn meddwl fod I gwledydd cred' -ac yn enwedig wlad ddiwylliedig fel Lloegr -wedi llwyr ymwadu oddiwrth bob math o ofergoeledd, ond ynglyn a choroni'r Brenin presenol fe fydd mwy o hen ddefodau ofer- goelus nag a gaed er's ugeiniau o flynyddau. Onid yw yn bryd i'r fath ffiloreg gael eu gadael dros gof ac allan o galendyr crefydd ein Heglwys Wladol ? Da genym weled enw y boneddwr twym- galon a'r Cymro caredig, Mr. T. W. Idris, ymysg Ynadon Heddwch sir Feirionydd. Yr oedd Mr. Idris er's rhai blynyddau yn ynad yn Llundain, a thelir parch mawr iddo yma gan ei gydnabod. Boed iddo gael yr un safle anrhydeddus ymysg ei gyd-ynadon yn yr hen wlad eto, yw ein dymuniad. Yn ol yr adroddiad blynyddol a gafwyd ynglyn a Chymdeithas y Brythonwyr, da genym ddeall fod y tymhor diweddaf wedi bod yn hynod o foddhaus. Yr oedd y cynull- iadau ar y cyfan yn dda a'r papyrau a gaed yn ymdrin a phynciau newydd i Gymry'r ddinas. Mae dros haner cant o aelodau sefydlog ar y rhol yn awr. Mae Mr. Goscombe John, y cerflunydd, wedi parotoi model o'r gofgolofn a fwriada wneyd o'r diweddar T. E. Ellis. Dangoswyd hi i rai pobl yng Nghymru y dydd o'r blaen, ond credent hwy ei bod yn rhy glasurol. Eisieu ei gael fel boneddwr gwledig oeddent hwy, a'r cut" diweddaraf ar ei lodrau os nad tipyn o batrwn yn y brethyn hefyd. Dyna safon beiriaid gwledig o beth ddylai cofgolofn fod. Ceir darlun rhagorol o Mrs. Timothy Davies (Maeres Fulham), yn y Gymraes am y mis hwn. Nid oes eisieu dyweyd fod Mrs. Davies yn enill mewn parch a phoblogrwydd, oherwydd y mae ei gwaith ynglyn ag achosion crefyddol a dyngarol ymysg y Cymry ac achosion dines g yn ardal Fulham yn eangu ei chlodydd o flwyddyn i flwydd yn H r oes iddi hi a'i phriod gweithgar yn eu gyrfa iwydd- ianus. Nos lau yn yr wythnos hon oedd noson y tanau mawrion ar benau mynyddoedd Cymru. Ar amryw ugeiniau o fryniau yr oedd y ffag- odau wedi eu casglu er's tro, a diau fod y golygfeydd o benau rhai o'r cribau uchel yn ardderchog i'r eithaf. Ar ben Cader Idris yr oedd Mr. T. H. W. Idris, Y.H., wedi trefnu i goelcerth fawr gyel ei danio a dylid gweled ei oleuni o dair sir ar ddeg Cymru.