Hide Articles List

3 articles on this Page

LLYFRAU NEWYDDION.

News
Cite
Share

LLYFRAU NEWYDDION. Mewn ymgom a gefais y dydd o'r blaen a Hlyfrwerthwr poblogaidd yn un o brif drefi 'Cymru, gofidiai nad oedd y Cymry llengar yn y dyddiau hyn yn rhoddi y gefnogaeth ddyladwy i gynyrchion y wasg Gymreig, ac ^od mwy o lawer o alw am weithiau Seisnig yn ymdrin ar bynciau Cymreig nag oedd am iiyfrau Cymreig hollol. Yr oedd llawer i ddyweyd dros y syniad a'r cwyn ar y cyntaf, ond erbyn myned i fanylion addefai mai nid diffygr iaithgarol wedi'r oil oedd wrth wraidd y mater, eithr diffyg cyflenwad o lyfrau o'r "safon a'r nodwedd a ofynid am danynt gan y wlad. Duwinyddol, i fesur, a chofiantol ydyw ffrwyth y wasg wedi bod i raddau pell yn "ddiweddar, tra mai gofyn am yr hanesyddol a'r llenyddol yr oedd y darllenwyr. Y mae ambell i gofiant, fel eiddo Elfed i'r diweddar Berber Evans, yn, ac wedi cael derbyniad ipoblogaidd, ac y mae llyfrau duwinyddol yn Jlanw ami i fwlch enwadol, tra y mae'r beirdd pan yn canu'n farddonol ac yn unoi a gofyn- ,Jon cenedlaethol-yn cael clust y genedl yn lied gyffredin. O'r ochr arall, yr hyn a geisir -an, danynt gan y darllenwyr cyffredin yw yr -addysgiadol, yr hanesyddol a'r llenyddol- tnegis y nofel a'r cymeriadau lleol ynddi, ac y ^e llawer o'r rhai hyny fel y sylwyd genym yr wythnos ddiweddaf wedi ymddangos yn Y Saesneg eisoes: ac y mae llyfrau ^afon°l fel eiddo Mr. O. M. Edwards ar Hane§ C> mru,'—yr hwn sydd eisoes wedi "Cyrhaedd ei wythfed fil-yn hawlio cefnog- -aeth am nad oes waith cyffelyb i'w roddi yn flwylaw ein hefrydwyr ieuainc. Fel y gellir, ^n briodol, tynu'r casgliad mai nid bai'r cy- .°edd, wedi'r cyfati, yw'r diffyg cefnogaeth, .elthr mai bai'r awduron yw nad ydynt yn ^ynyrchu gweithiau i gyfarfod ag anghenion ,Y dydd. V mae un achos arall i gwyno o'i herwydd, hefyd, ynglyn a'r cyhoeddwyr neu'r awduron Cymreig. Y maent yn hynod o anwadal yn £ ygiad allan ac yn nosbarthiad eu cyfrolau. "a sawl llyfr sydd wedi ei hysbysebu dair a thagor o flynyddau yn ol nad ydynt eto heb weled goleu dydd ? Os bydd rhywun ar fedr Jasglu defnyddiau at ryw gyfrol Gymraeg, ydd y peth yn cael ei hysbysu led-led Cym- ^eig-dod, a'r canlyniad yw fod cymaint o siarad am y gwaith tra y byddis yn ei barotoi nes y diflasir arno erbyn iddo weled goleu dydd. Edrycher ar hanes y gymdeithas yna a elwir yn Urdd y Graddolion, er esiampl:- Y mae eu cyfrolau hwy wedi eu rhagfynegu oddiar y ganrif o'r blaen, ond hyd yn hyn nid oes ond un gyfrol wedi gweled goleu dydd. Y mae amryw o weithiau hefyd o dan ofal cymdeithasau ereill a llenorion Cymreig ad- nabyddus, fel y blinir siarad am danynt gan nifer yr addewidion y maent wedi osod o flaen y cyhoedd. Yr unig lenor anturiaethus yn y dyddiau hyn yw y Proffeswr O. M. Edwards o Ryd- ychen. Mae y gwaith a gyflawna efe yn aruthrol ac nis boddlona ar gynyrchu yn unig, eithr ychwanega at ei lafur y gorchwyl an- hawdd o gyhoeddi hefyd. A gwaith anhawdd sydd gan y cyhoeddwr yng Nghymru. Beth amser yn ol addawodd gyfres fechan o ad- argraffiadau i ni, ac y mae nifer o'r cyfrolau swllt hyn eisoes ger ein bron, a gwelwn fod derbyniad gwresog wedi ei roddi iddynt ar y cyfan er mai ad-argraffildau oeddynt. Yn ychwanegol at ei gyfres Gymreig gwelwn yn awr fod yn ei fryd i roddi i'r darllenydd Seisnig gipdrem ar gyfoeth llen- yddiaeth ein gwlad. Yr wythnos hon cy- hoeddir y gyfrol gyntaf o tan yr enw— THE MABINOGION, VOL. i a bwriedir cyf- lawni'r gwaith mewn dwy gyfrol ddilynol. Argraffiad poblogaidd yw hwn o waith y ddi- weddar Gwenynen Gwent. Fel y gwyddis, rhoddodd hi gyfieithiad i'r byd Seisnig, rhyw haner can' mlynedd yn ol, o'r hen chwedlau Cymreig, a mawr y siarad fu am danynt gan lenorion pob gwlad. Yn wir, y maent wedi bod yn agoriad llygaid i lengarwyr Celtaidd o'r adeg hono hyd yn awr, ac yn destynau c&n i brif-feirdd y Victorian age. Yn eu diwyg Cymreig y mae y rhamantau hyn yn glasuron y genedl, a llwyddodd y lenores hono gyda'i chynorthwywyr nid yn unig i roddi cyfieithiad cywir o honynt, ond hefyd i drosglwyddo y safon lenyddol drosodd i iaith arall nes ei cyfrifir heddyw fel campwaith clasurol y byd Seisnig ar wahan i'w gynwys dyddorol. Yr oedd y gwaith yn gostus, a'r canlyniad oedd na chafodd y werin-bobl gyfleusdra i ymgyd- nabyddu a'r hanesion rhyfedd hyn i'r graddau ag yr hoffai llengarwyr ein cenedl. Er's blyn- yddau, y mae'r gwaith wedi myned yn brin ac anhawdd dod o hyd i gyfrolau Gwenynen Gwent ond am bris uchel, a gwaith da felly yw cyflwyno argraffiad poblogaidd fel hyn i efrydwyr ieuainc ac i'r darllenwyr hyny a hoffant lenyddiaeth bur a dyrchafol. Ceir tair o'r Mabinogion yn y gyfrol hon, ac y mae wedi ei throi allan yn hynod o ddestlus gan Mr. Unwin y cyhoeddwr, a chan nad yw'r pris ond deuswllt y mae'n sicr y ca'nt dderbyniad rhagorol gan ein cydwladwyr. Y mae Mr. Edwards wedi dilyn cyfieithiad yr Arglwyddes Charlotte Guest drwy y gyfrol gan ychwanegu nodion o'i eiddo ei hun ar y rhanau lie y tybia ef fod y Saesneg yn gwa- haniaethu oddiwrth y gwreiddiol (Cymraeg), a diau y bydd hyn yn dderbyniol iawn gan y lienor ieuanc. Wedi gorffen a'r Mabinogion yn y tair cyfrol gyntaf, addawa y cyhoeddwyr gynwys yn nesaf gyfrolau ar Hanes Cymru, Llawlyfr ar Lenyddiaeth Cymru, Telynegion Mrs Hemans a gweithiau Dyer a Henry Vaughan. Hyderwn y caiff y gyfres hon gylchrediad helaeth, ac y gwna pob Cymro sy'n awyddus am barhad o'r diwygiad llenyddol yng Nghymru eu gwneyd yn hysbys i bawb o'i gydnabod. [Prof. 0. M. Edwards, Welsh Library. Cloth, 2s; paper, Is. Published by T. Fisher Unwin, London.]

Advertising

HEN LUNDEINWYR ENWOG