Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Y CORONIAD.
Y CORONIAD. WYTHNOS Y RIALTWCH MAWR. CYNRYCHIOLWYR POB GWLAD YN LLUNDAIN. Mae Llundain, bellach, yn llawn. I ba gyfeiriad bynag yr edrychwn, nid oes ond dieithriaid i'w canfod ar bob congl o'r heol. Deuant o bob cwr o'r byd, a gellir gweled wrth eu gwisgoedd a lliw eu croen eu bod yn dod o bob gwlad tan haul. Am y parotoadau, y maent yn aneirif. Addurnir yr heolydd gyda'r fath haelfrydedd fel nad oes dim ond banerau a seddau i'w gweled ymhob cyfeiriad. Codir prisiau ar- uthrol am y seddau hefyd, ond sibrydir fod nifer luosog eto heb eu gosod i'r cyhoedd. Os na ddaw gwell argoel am dywydd bodd- haol, diau y bydd amryw filoedd o honynt yn weigion ar ddydd y gorymdeithio. BETH A WNEIR? Dechreuir y rialtwch ar Ddydd Llun, pryd y croesawir y gwahanol gynrychiolwyr drwy giniaw ym Mhalas Buckingham, gan y Brenin. Dydd Mawrth derbynir nifer o anerchiadau gan y Brenin a'r Frenhines oddiwrth gyn- rychiolwyr tramor. Dydd Mercher. Diwrnod i'r Trefedigaethau fydd hwn, oherwydd prif-weinidogion y Tref- edigaethau a gant eu gwledda ar y dydd hwn, Dydd Iau. Dyma ddydd y Coroni. Cych- wynir am 10.30 o Balas Buckingham, a chymer y seremoni a'r teithio tua tair awr o amser. Dydd Gwener. Dyma'r diwrnod i deithio trwy y ddinas, a ffurfir gorymdaith fawr ar y dydd hwn gan ddechreu ym Mhalas Bucking- ham am 10.30 o'r gloch, a chymer y daith rhyw bum' awr i'w chyflawni. Dydd Sadwrn. Ar y dydd olaf o'r wyth- nos y cynhelir yr arddangosfa arbenig ynglyn a'r llynges yn Spithead, ac aiff miloedd i Ian y mor er gweled hon. YR WYTHNOS GANLYNOL. Parheir y rialtwch am wythnos yn ychwaneg —ond gan y bydd y masnachwyr erbyn hyny wedi cael digon ar y miri, diau m li ychydig fydd nifer yr ymwelwyr yn ystod yr wythnos hono. Y mae'r trefniadau oil wedi eu cwblhau, a thrueni o bsth fydiai eu cwtogi oherwydd y tywydd neu anhwylded y Brenin. Yr ARCHDDERWYDD. Blin genym ddeall na fydd Hwfa MOn yn ddigon cryf i gymeryd rhan yn y rialtwch y tro hwn fel y gobeithid ar y cyntaf. Y mae ei f 2ddyg wedi dymuno arno dori pob cy- hoeddiad am y presMol, ac na wnaethai un lies iddo fyned oddicartref am rai wythnosau eto. Chwith yw meddwl am hyn, oherwydd yr oedd pawb yn edrych ymlaen gyda bodd- had wrth ganfod fod un o'n cydgenedl yn cael y fath anrhydedd.
Bwrdd y g Gelt*'
Bwrdd y g Gelt*' Gan fod gwyr y CELT yn oymeryd rhan bwysig yn rialtwch y coroni, bydd y Swyddfa yng nghau o nos Eercher nesaf hyd foreu y dydd Llun oan- ly Oyhoeddir y rhifyn nesaf o'r CELT ddydd Mawrth cyn y coroniad, ac os oesrhaigohebwyr am le ynddo rhaid i'w cynyrchion fod mewn llaw erbyn boreu dydd Llun nesaf. Ma.e amryw ysgrifau mewn llaw, ac ar ol gorphen a gwaith y Brenin rhoddir sylw iddynt. I
CYFARFOD BLYNYDDOL CYMDEITHAS…
CYFARFOD BLYNYDDOL CYMDEITHAS CYMRU FYDD LLUNDAIN. Cynhaliodd y Gymdeithas hon ei chyfarfod blynyddol yn y Conference Room," National Liberal Club ar nos Wener ddiweddaf. Yr oedd Mr. William Jones, A.S., yn y gadair, a cheid cynrychiolaeth dda o Gymry Llundain. Y gwaith cyntaf a wnaed oedd ethol swyddogion a phwyllgor. Ail etholwyd Mr. William Jones yn llywydd, a Mr. R. O. Davies (Ealing), Timothy Davies, L.C.C., T. H. W. Idris, T. Woodward Owen, J. Arthur Price, Ernest Rhys, Howell J. Williams, L.C.C., a W. Llewelyn Williams yn is-Iywyddion am y tymhor. Ymddiswyddodd Mr. Glyn Evans o'r ysgrifenyddiaeth, ac etholwyd Mr. D. R. Hughes i gymeryd ei le gyda Mr. Arthur Griffith. Etholwyd Mr. John Hinds, Black- heath yn drysorydd, a'r personau canlynol yn bwyllgor:—Parch. Richard Roberts, Mri. J. T. Lewis (cyfreithiwr), Evan Griffiths (Chelsea), T. W. Glyn Evans, Watkin Jones, Edward Owen (Chelsea), J. R. Jones, R. O. Edwards, Will Jenkins, ynghyd a Mrs. D. Lloyd George, Mrs. Llewelyn Williams, Miss Ellen Williams, Castle Street, a Miss Jennie Vaughan, Jewin. Yna cafwyd anerchiad rhagorol gan Mr. Herbert Lewis, A.S. ar y Bil Addysg dinystriol sydd o flaen y Senedd ar hyn o bryd. Dilynwyd ef gan Mr. William Jones, A.S., a Mr. J. Arthur Price a'r Parch. Richard Roberts, a phasiwyd pen- derfyniad cryf yn ei erbyn yn unfrydol. Diolchwyd i Mr. Herbert Lewis a'r Cadeirydd am eu hareithiau godidog ac yna terfynodd y cyfarfod.
EMYN CENADOL NEWYDD.
EMYN CENADOL NEWYDD. (Efelychiad mewn rhan). 0 lanau'r Yukon enfawr, 0 gyrau China draw, 0 ganol llwythau Affric Sy'n dywyll ar bob llaw Oddiwrth bob gwlad baganaidd Sy'n gaeth gan Satan gas, Daw llefau'r gorthrymedig Am Grist a'i ddwyfol ras. Os yw eu gwlad yn hyfryd, A natur yno'n dlws, Eu calon sy'n caledu Heb obaith wrth eu drws; Er i law Duw brydferthu Y ddaear dan eu traed. Mae'r pagan heb y goleu, A rhinwedd pur y gwaed. A allwn ni fendithiwyd A'r Beibl yn ein hiaith, A swyn y gair tragwyddol A ddaeth o'r gwynfyd maith Anghofio'r Negro truan Sy'n dioddef dirfawr loes, Heb glywed am Galfaria, A'r iawn gaed ar y groes. Hawddgarol wyntoedd nefol, 0 cludwch ar eich hynt Newyddion iechydwriaeth I gyrau'r pedwar gwynt Boed i holl lwythau'r ddaear Gael clywed am drefn Duw, I godi deiliaid Eden O'r dyfnder eto'n fyw. MaRIEN MON.
[No title]
ANRHEGU PENCERDD GWALIA. Cafodd y cyhoedd gyfleusdra pwy ddydd i wrando ar gor y telynorion, ond nid pawb sydd yn gwybod y Ilafur a'r gofal a gymer eu har- weinydd (Pencerdd Gwalia) ynglyn a'r rhianod teg hyn. Er mwyn datgan eu parch i'w hathraw a'u harweinydd, penderfynodd y telynorion ei anrhegu a baton arian ar derfyn y tymhor eleni, a gwnaed hyny yn y cynulliad olaf a gaed (Mai 30ain), pryd y darllenodd un o'r merched anerchiad ar ran y disgyblion yn cyflwyno yr anrheg i Mr. Thomas, ynghyd I, a diolchgarwch y disgyblion am y gofal a'r llafur oedd wedi gymeryd ynglyn a hwy. Dymunent iddo eto hir oes i wasanaethu ei .1. genedl a'i dalentau disglaer. CHELSEA, PRIODAS MR. THOMAS EVANS.—- Dydd Iau cyn y diweddaf, yng Nghapel Rad- nor Street, ymunwyd Mr. Thomas Evans, Upcerne Road, mewn glan briodas a Miss Annie Jones, Kensington. Cyflawnwyd y gwasanaeth priodasol gan y Parch J Machreth Rees y gweinidog. Daeth lluaws mawr ynghyd i'r capel i groesawu a dymuno yn dda i'r par ieuainc, a mawr oedd y swm o'r peth a elwir yn confetti oedd wedi cael ei ddefnyddio i ddathlu yr achlysur. Brodor ydyw Mr Evans o a.rdal Aberhosan, ger Machynlleth, a brawd i'r enwog Maldwyn Evans, un o'r Chelsea Boys." Genedigol o ardal Llanerchymedd ydyw Mrs. Evans, ac y mae'r ddau yn aelodau ffyddlon a dichlynaidd o eglwys Radnor Street. Y mae Mr. Evans yn fasnachwr llwyddianus yn y fasnach laeth, yn Chelsea. Ymgynullodd nifer fawr yn y ty lie yr oedd danteithion o'r fath oreu wedi eu parotoi, ac ar ol gwneyd cyfiawnder a'r rhain, ymadawodd Mr. a Mrs. Evans am Ogledd Cymru i dreulio eu mis mel, ynghanol banllefau o ddymun- iadau goreu. Da genytn feddwl y byddant yn parhau yn eu cysylltiad a Radnor Street. Llwyddiant iddynt.— C.
Advertising
"Heb Genedlaetholdeb, heb Gelf, heb Hanfod- aeth, heb Fywyd, heb Ddim." CYMDEITHAS Y BRYTHONWYR (SEFYDLWYD CHWEF. 1901.) CYMDEITHAS WERINOL I I DDATBLYGU CYMREIGAETH. Cynhelir Cyfarfodydd y Gym- deithas hon bob yn AIL NOS IAU, YN 63, Chancery Lane, (ARBITRATION ROOM) Am 8 o'r gloch yn brydlon. Am fanylion ynghylch Aelodaeth, &c., ym- oheber a'r Ysgrifenyddion, Mr. J. WINTON EVANS, 98, Marlborough Road, Brompton Road, S.W. Mr. G. GRIFFITHS, 42, King's Road, Chelsea, S.W. ¡ CYHOEDDIADAU Y GYMDEITHAS. i. Ymneillduaeth a Bywycl Cenedlaethol I Cymru." Gan y Parch. J. MACHRETH REES 2. "Cenhadaeth Cymru." Gan W. LLEWELYN WILLIAMS, Ysw., B.C.L. 3. Talbaiarn." Gan TREBOR ALED. 4. Y Cymro Llenyddol." Gan y Parch. J. MACHRETH REES. Pris ic. yr un. Y 4 drwy y post 6c. Oddiwrth yr Ysgrifenyddion, neu o SWYDDFA'R CELT, 2ii, GRAY'S INN ROAD, LONDON, W.C., l