Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

r BYD A'R BETTWS.

News
Cite
Share

r BYD A'R BETTWS. Tarawyd y Brenin yn wael ddechreu yr wythnos hon, ac aeth pawb i ofni y buasai raid gohirio rialtwch y coroni. Myn rhai pobl gredu mai math o wers i'r Brenin oedd ei gystudd. Yr oedd i fod yn bresenol yn rasus ceffylau drwy yr wythnos hon, ond yn awr bu raid i'r rasus fyned heibio heb gefnogaeth a nawddogaeth y Teyrn. Dechreua'r tywydd, bellach, draethu fod yr haf wedi dod; ond hyd ddiwedd yr wythnos hon, yr oedd yr bin yn fwy nodweddiadol o Dachwedd nag o fis Mehefin. Mae y Llywodraeth ar ei heithaf yn gwthio Mesur Addysg drwy'r Ty Cyffredin, a diau y caiff y sel frehinol cyn diwedd y tymhor hwn. Er hyny, lleihau y mae mwyafrif y blaid yn yr ymraniadau arno; a gwelir llawer i ddadl chwerw eto cyn y caiff y trydydd darlleniad ei gario. Ar i lawr y mae cyflogau y gweithwyr yn Neheudir Cymru, ac mae'r glowyr wedi gor- fod gostwng deg punt y cant eto yr wythnos hon. A chan mai tuag i fyny yr aiff y trethi a'r costau byw, y mae golwg lied anymunol ar ddyfodol gweithwyr ein gwlad. Mae'r Parch. Elfet Lewis yn myn'd i ymuno a'r blaid sydd yn gwrthwynebu y Mesur Addysg presenol oherwydd gwelwn oddiwrth yr hysbysiad mai brwydrau y Tadau dros ryddhad crefydd fydd testyn ei bregeth nos Sul nesaf. Mae eisieu adgoffa i'r genedl bre- senol beth aberthodd y Tadau drosom yn hyn o beth, oherwydd yr ydym yn graddol lithro yn ol i'r pydew o'r hwn y codasant hwy ni. Yr oedd Madame Patti yn canu mor swynol ag erioed mewn cyngherdd yn Llundain dydd Mercher. Nid yw llais y gantores hon yn colli ond ychydig o'i swyn, a thyn y miloedd i'w glywed bob tro y daw i Lundain i ganu. Boed i'w nodau melus barhau yn hir yn ein mysg. Beth wna'r wasg Jingoaidd bellach am ddefnyddiau i'w difrio ? Y maent erbyn hyn yn gor-ganmol y Boeriaid, ac yn dyweyd mai pobl ddewr ydynt, ac nid oes gair o son am y Rhyddfrydwyr selog hyny a bardduwyd gan- ddynt fel Pro-Boers." Diau y chwiliant am rhyw flagardiaeth arall yn ol eu dull ar- ferol. Cred rhai pobl fod Tywysog Cymru wedi cymeryd peth dyddordeb yn helynt chwarel- wyr y Penrhyn oherwydd sonir fod perchenog chwarel Dinorwig, gyda'r hwn yr oedd y Tywysog yn lletya beth ainser yn ol, wedi dechreu agor chwarel newydd ar ochr Beth- esda. Os parheir yn hyn o beth, diau y ceir gwaith i tua mil o fobl yn lied fuan. Penodwyd Mri. Arthur Griffith a D. R. Hughes fel ysgrifenyddion Cymdeithas Cymru Fydd am y fiwyddyn ddyfodol, a sicr fod y penodiad yn un doeth hefyd. Ar ol gwasan- aeth maith ymneilldua Mr. T. Glyn Evans o fod yn gydweithiwr a Mr. Griffith, a diau mai i'w gweithgarwch hwy yn benaf y dvlid priod- oli bywiogrwydd y Gymdeithas hytï yn hyn. Beth fydd yr enw a osodir ar y wladfa new- ydd a fwriedir sefydlu yng ngogledd-barth Canada? Y mae llawer awgrym wedi ei roddi, ond hyd yn hyn, nid oes yr un enw wedi ei benderfynu.