Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Bwrdd y * Celt.9

DR. MORGAN DAVIES A'R BEIRDD.

HIRAETHGAN MAIR AR OL EI CHARIAD,…

News
Cite
Share

HIRAETHGAN MAIR AR OL EI CHARIAD, A DYBIAI OEDD WEDI BODDI. (Allan o Bryddest Bdramadyddol Gwilym Pennant, 'rhon a ju yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Llan- dudno, yn y flwyddyn 1864). Mawr yw'm haeth, af i'r traeth helaeth i holi Y mor cryf, pa le bu f Owen gu foddi, CeiBia'n daer gan fy chwaer Wylan glaer aden, Ddwyn heb ddig yn ei phig, ddarn o wisg Owen O, for hallt, peth o'i wallt im' heb ball dyro- Du wallt glan, lliw y fran eirian sydd arno; Eang for, oil dy ddor agor heb wgu Im' cyn tranc wel'd fy llanc ieuanc yn oysgu. Donau'r lli, cariwch chwi, 'nagrau i ato, A thrwy barch gwnewch hwy'n arch-dwfrarch am dano Yn ddi-len yn y nen, safed pen 'r enfys, Arno'n hedd, golofn fedd aurwedd fawreddus Digon gwir nad oes cur yn ei bur ddwyfron Fel myfi sydd heb fri'n tori fy nghalon Mewn modd gwiw gyda Duw, byw yw ei enaid, Codwyd ef fry i'r nef cartref cerubiaid. Cefais y ddau benill uchod gan Gwilym flynyddau yn ol, ond buont ar ddisberod hyd yn awr. Maddeued y bardd i mi am fy niofalwoh. Nid wyf yn meddwl y gallai ef ei hun gofio y penillion godidog a serch. gynhyrfiol hyn yn bresenol. Felly, yr wyf yn cym- eryd y cyfleusdra a'r hyfdra o anrhegu darllenwyr y CELT a hwy. Y mae y rhain megis dwy fricaen yn awgrymu ansawdd yr adeilad barddonol clodwych a wnaeth efe erbyn Eisteddfod Llandudno. Pe cy- hoeddid y bryddest, yr hon a gynwysai unarbymtheg o wahanol gymeriadau, byddai arno'n hedd golofn fedd," gwell na'I un fynor allesid ei chael. CWCWLL. I

Advertising

LLENYDDIAETH Y MIS.