Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Bwrdd y * Celt.9

News
Cite
Share

Bwrdd y Celt.9 Yr oedd llu mawr wedi dod ynghyd i'r cwrdd diweddaf i groesawu y Gol. yn oj, ac 'roedd y brwd- frydedd yn gymaint a phe buasai y Cadfridog Kitchener wedi glanio yn Battersea neu rbyw borth- ladd arall. Hawddamor, fecbgyn," meddai, yn ei lais tyneraf wrth esgyn i'r gadair urddaaol. "Da genyf eich gweled mor llawen, a diau genyf mai ffrwyth yr Heddwch yma yw gloywder eich gwynebau chwi." Heddwch wir I" ebe Cwcwll. Pa les a ddeillia D Heddwch ? Onid byd i ymladd brwydrau ag ef yw yr hen fyd hwn ? ac y mae rhywbeth swynol-yn enwedig i'r awen-yn y gair araB," Rhyfel"; a thyma fel y ffrydiau fy mheiriant i wrth feddwl am yr hyn a gaed ar faesdiroedd Affrica yn yatod y ddwy flynedd a haner diweddaf:— "RHYFEL. 0 ryfel, anwar fileinig-ingol Gawr angau, sychedig Am waed, dan ei draed e' drig, Ddewrion od yn ddarniedig. Ymwriawl ferwawl fariaeth-yw rhyfel Chwareufwrdd gormesiaeth, O'i wg du yn finiog daeth Dylif ofnadwy alaeth.—CWCWLL." "Ho, ho," chwarddai Gwynfryn. Os oedd y thyfel mor erchyll a dy englynion di, yr oedd yn enbyd." Be' wyddost ti y difarf, diawen, am englynion ?" torai yr hen fardd i fewn yn sarug wrth weled ei gynyrchion yn cael eu beirniadu." "Wei" ebe Gwynfryn. "Beth yw dy farn onest di at y peth yna sydd yn I ymwriawl ferwawl'—onid yw yn ofnadwy ?" Mae bonyna frawd atebai Cwcwll yn chwydd- edig, yn haeddawl o sylw edmygawl." Ho, wel, poed felly atebai Gwynfryn yn swta, ond gwell gen i ganu yn y cywair arall, sef i:— CI HEDDWCH. Hynaws wedd duwies heddwch-a luniwyd 0 lanwedd dynerwch Mawl a chan yw mel ei chwch Yn doddion o ddedwyddwch. GWYNFRYN." Ac wedi son am Heddwch daeth pawb i drefn eto am dro. P'le mae'r Crwydryn ?" yr wytbnos yma ym- holai Curli, "oherwydd y mae arnaf fi eisieu cael eglurhad ar y gair Bettws, yn ogystal ag ar y frawddeg yna Y Byd a'r Bettws.' Mae rhai enwau mor rhyfedd, wyddoch, yng Nghymru fel nad oes bosibl deall eu hystyron, a phrin y credaf fod neb ar wyneb clawr daear a all ddeongli rhai o honynt, a chredaf mai un o'r rhai anhawdd yw'r gair Bettws." "0, na," ebe'r Gol. "Y mae hwna yn hen air cyfarwydd, a 'does angen ymboeni uwch ei ben ac am y dywediad cyffredin, Y Byd a'r Bettws,' wel, y mae pawb yn gwybod ei ystyr trwy Gymru, Lloegr a Llanrwst. Ond gwrandewch ar ddoethawr arall yn egluro y gair i chwi:— Bettws. Nis gellir yn hawdd dderbyn unrhyw un o'r damcaniaethau ynghylch tarddiad y gair. Cyfrifir ef yn gyflredin fel yn gyf-ystyr a'r Seisnig, Bede- house'—ty gweddi: ac yna olrheinir ef i'r Lladin, Abbas.' "Beth bynag am hyny, ymddengys y gair yn fyn- ych yn nbrethiad y Pab Nicolas yn y drydedd ganrif ar cdeg. Cysylltir ef yn wastad ag enw rbyw sant. Yn yr ystyr yna ceir yr eglurhad yn yr ymadrodd Y Byd a'r Bettws.' [Eitha gwir. GOL.] Ar lafar gwlad rhoddir yr enw ar le rhwng pant a bryn-man tawel, achlesog. Ac mewn rhanau o Ogledd Cymru gelwir lie llethr wedi ei hulio a bedw a drain, yn Fettws." Ar ol cael hynyna aeth Curli i'w Ie, a diau y daw yn awdwr mawr ar darddiad geiriau yn y man.

DR. MORGAN DAVIES A'R BEIRDD.

HIRAETHGAN MAIR AR OL EI CHARIAD,…

Advertising

LLENYDDIAETH Y MIS.