Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Y TAFARNDY GWLEDIG.

LLENYDDIAETH Y MIS.

News
Cite
Share

LLENYDDIAETH Y MIS. Cymric Mai. Un o'r haneswyr craffaf sydd genym y dyddiau hyn ydyw y Parch. T. Shankland, Rhyl, ac yn y ddau rifyn diweddaf o'r Cymru y mae wedi bod yn ceisio profi nad Tomos Charles o'r Bala yw tad yr Ysgolion Sabothol Cymreig, fel y myn rhai pobl gredu. Nid hanesydd damcaniaeth a phen-bawd yw Mr. Shankland, eithr chwilotwr di-ail i ffeith- iau a dyddiadau, a thipyn o gamp fydd i neb fynel y tuhwnt iddo yn hyn o faes. Profa yn eglur yn y rhifyn presenol mai Morgan John Rhys oedd y gwr a ddihunodd Cymru i'r pwysigrwydd o sefydlu yr ysgolion yma, ac y mae darllen y dyfyniadau a roddir o weithiau ac anerchiadau Rhys yn dangos yn eglur ei fod yn teimlo i'r byw dros anwybodaeth. Cymru yn yr oes hono. Tystia Mr Shankland ymhellach mai 11 nid yn unig yr oedd Morgan John Rhys yn rhagflaenydd i Charles gyda mudiad yr Ysgolion Sabothol, ond yr oedd ei wasanaeth i addysg genedlaethol yn fwy a phwysicach na gwasanaeth Charles." Ar ol hyn, ni synem et.) weled rhyfel enwadol tebyg i eiddo Beriah Evans a John Morgan Jones ar j y pwnc Pwy a sefydlodd yr Ysgolion Sui