Hide Articles List

2 articles on this Page

Y TAFARNDY GWLEDIG.

News
Cite
Share

Y TAFARNDY GWLEDIG. [GAN Y PARCH. DAN EVANS, HAWEN.] Rhaid sylwi ar neillduolion y Tafarndy Gwledig cyn y gellir amgyffred neillduol- rwydd ei ddylanwad dinystriol. Lleoliad y tân, ynghyd a natur y tanwydd o'i gylch, sydd yn penderfynu maint y difrod a achosir ganddo. Felly, rhaid sylwi ar neillduolion y Tafarndy Gwledig a'i arcigylchoedd er mwyn cael dirnadaeth glir am ei ddylanwad dinys- triol mewn cymdeithas. i. Efe yw unig Dy Cyhoeddus yr ardal. Yn hyn, y mae yn wahanol iawn i'r tafarndy yn y dref. Ceir yno dai cyhoeddus ereill, megis y Neuadd Drefol, Neuadd y G%eithwyr, y Ddarllenfa Gyhoeddus, Tai Dirwestol, ac ystafelloedd cyfleus ereill. Fel arall y mae yn y wlad. Y tafarndy yw yr unig le mewn llawer iawn o ardaloedd i gynhal cyfarfodydd lleol, megis eiddo y Cymdeithasau Darbodol a Chyfeillgar, a phwyllgorau yr Arddangos- feydd Amaethyddol, a'r Ymdrechfeydd Ar- edig, a phethau cyffelyb. Yno y telir yr ardreth i'r landlordiaid, a'r degwm i'r offeir- iaid. Gwelir, felly, fod y Tafarndy Gwledig yn llanw cylch neillduol yn mywyd cymdeith- asol yr ardalwyr, a bod ganddo, drwy hyny, ddylanwad eang ar y trigolion. Mynychir ef gan ddynion crefyddol a parchus. Gwelir yn y wlad ddynion crefyddol, ie, swyddogion eglwysig, yn cysegru'r tafarndy a'u presenoldeb; a dywedir y byddant yn fynych yn trafod materion crefyddol uwchben y cwpan meddwol, heb feddwl eu bod yn dwyn Ilestri y deml i ystafell y wledd. Mor barchus yw y Tafarndy Gwledig, fel na byddai yn chwithdod mawr i weled ambell un yn troi i mewn iddo ar y ffordd adref o'r addoldy— o'r cwrdd gweddi neu y gyfeillach grefyddol. Teimlir rhwymedigaeth foesol i'w noddi. Nid yw hyny yn beth i ryfeddu llawer ato, gan mai efe, yn ymarferol, yw yr unig dy sydd bob amser at wasanaeth yr ardal. Y mae wedi dod yn fath o anghenraid yn y lie. Ceir yno ddrws agored i gynhal pob math o gyfarfodydd. Cedwir yr ystafelloedd yn lan a chynes er cysur yr ymwelwyr. Amlygir parodrwydd mawr i weini i gyfreidiau y cws- meriaid, a'r oil, yn ymddangosiadol, yn ddi-dal. Yng ngwyneb hyn oil, teimlir rhwymau moesol i noddi y ty, a chefnogi y fas-iach mewn ffordd o ddiolchgarwch am y caredigrwydd a'r sir- ioldeb a dderbynir yno yn wastad. Cedwir ef yn gymedrol weddus. Nid yw y Tafarndy Gwledig- yn agored mor hwyr a thafarndy'r dref. Nid oes cymeriadau mor isel a llygredig yn ei fynychu. Nid oes yno lawer o rialtwch ac afreoleidd-dra. Anaml y bydd achos gwysio y tafarnwr gwledig na'i gwsmer- iaid ger bron y fainc farnol i gael eu cospi am gamymddygiadau. Y mae eithriadau, wrth gwrs, ond ni wna y rhai hyny ond profi y rheol. Dyna rai o brif nodweddion y Taf- arndy Gwledig. Saif ar ei ben ei hun fel ty cyhoeddus, mynychir ef gan ddynion parchus, teimlir rhwymau i'w gefnogi mewn ad-daliad am ei wasanaeth, a chedwir ef yn weddus o'i gymharu a llawer o dafarndai y dref. Yn nesaf, ni geisiwn sylwi ar ddylanwad dinystriol y Tafarndy sydd yn meddu ar y nodweddion a nodwyd, a dywedwn fod y dy- lanwad hwnw yn tarddu o'i barchusrwydd. Pe yn llai parchus yn marn y wlad, buasai ei ddylanwad niweidiol yn llai, oblegid yn ei wisgoedd gwynion y mae y diafol fwyaf per- yglus. Er ei fod, ie, ant ei fod yn dy mor barchus y mae y Tafarndy Gwledig y fath ddylanwad dinystriol. Y mae yn dileu y ffin rhwng y Byd a'r Eglwys. Pwysig iawn yw cadw'r ffin yn amlwg, fel y galler gwybod bob amser pwy sydd ar du yr Arglwydd, oblegid y neb nid yw gyda Mi sydd yn fy erbyn." Drwy fod y T.§farndy Gwledig yn cael ei fynychu gan bobl grefyddol, mae y ffin. rhwng y byd a'r eglwys yn cael ei ddiddymu. Dygir materion eglwysig i fewn i barlwr y tafarndy, a dygir dylanwad afhch y tafarndy yn ol i'r eglwys Ymdodda y naill i'r llall. Collir felly y syn- iad fod yr addoldy a'r tafarndy yn cynrychioli dwy deyrnr s wrthwynebol a gelynol i'w gilydd ac mai i'r graddau y cynydda y naill y rhaid i'r llall leihau. Ni welir mwyach yr anghys- ondeb o eistedd wrth Fwrdd yr Arglwydd a bord y cythreuliaid. Ni welir y gwrthuni o dderbyn tafarnwyr yn aelodau o Eglwys Crist, tra ar yr un pryd yn ddeiliaid teyrngarol yn nheyrnas ang-Nghrist. Mae yn gwanychu yr Eglwys fel gallu diwygiadol. Mynychir y Tatarndy Gwledig gan ddynion crefyddol, a gedy y dafarn ddy- lanwad gwanychol arnynt hwythau. Mae yr eglwys i fod yn allu-y prif allu-i buro a dyrchafu cymdeithas. Ond mae y tafarndy yn cario y fath ddylanwad gwywol ar yr eglwys, fel nad yw yn gallu cario allan ei chenadaeth bwysig fel y dylasai. Ofer ydyw ceisio gwadu nad yw y tafarndy yn cario dylanwad anocheladwy ar y sawl sydd yn ei fynychu. Dichon y bydd y dylanwad yn an- weladwy am dymhor, ond y mae yn bod er hyny, a daw i'r golwg yn y man. A ddichon gwr ddwyn tan yn ei fynwes heb losgi ei ddillad ?" Bydd ei afael mewn gweddi wedi llaesu, bydd ei sel dros burdeb wedi oeri, bydd y min ar ei gynghorion a'i geryddon wedi pylu, a bydd ei ddylanwad moesol er daioni wedi pallu. Eto, yng nghysgod bobl grefyddol, huda bob ieuainc yr ardal i ben y ffordd sydd yn arwain i ddistryw. Nid yw y cysgod hwnw gan y tafarndy yn y dref, am nad oes llawer o bobl grefyddol yn arfer galw yno. Pan y mae dynion goreu yr ardal yn mynychu y tafarndy, ni bydd cywiiydd nac euogrwydd ar y bobl ieuainc i ddilyn eu hesiampl, ond yn hytrach yrrawyddant am fod yn debyg iddynt. Gan fod pdbl grefyddol yn galw yn y dafarn, tybiant ni fydd pechod arnynt hwythau i fyned yno, a dilynant yr esiampl a roddir o'u blaen. Mae dylanwad mawr iawn gan es- iampl, yn enwedig esiampl ddiffygiol. Dy- lanwad esiampl yn fwy na dim arall sydd yn cyfrif am waith ein pobl ieuainc yn arfer y myglys a'r diodydd meddwol. Nid oes dim yn eu natur yn gofyn am y naill na'r llall, ond arweiniwyd miloedd i'w defnyddio gan yr esiampl a gafwyd gan grefyddwyr yn y taf- arndy a manau ereill. Dyna ni wedi nodi rhai o agweddau y din- ystr a wneir gan y Tafarndy Gwledig yn y cylchoedd cartrefol, ond nid yw yn gyfyngedig i'r cylch hwnw. Llygra y trefi a'r dinasoedd hefyd. Y mae y trefi, y dinasoedd, a'r ardaloedd gweithfaol yn difa eu preswylwyr yn llythyr- enol, ond dylifa pob! o'r wlad i lanw eu lie. Symuda ein dynion ieuainc o'r ardaloedd gwledig yno, am y ca'nt uwch cyflogau, ac oriau gwell. Dygant arferiad cartref gyda hwynt-arferion yr addoldy, ac arferion y tafarndy hefyd. Parchant y Saboth a'r capel am dymhor, a gal want yn achlysurol hefyd yn y tafarndy, fel yr arferent wneyd yn y wlad, heb gofio fod y cwmni yn y lleoedd poblog yn waeth, a'r profedigaethau yn Iluos- ocach, a'r temtasiynau yn gryfach. Bydd y cyflogau uwch a'r oriau gwell yn troi yn fagl iddynt erbyn hyn. Trueni yw meddwl, ond y raie'n hollol wir, mai y bechgyn fagwyd yn anwyl yn y wlad, ac a ddysgwyd i arfer y diodydd meddwol yn y Tafarndy Gwledig, ydynt y meddwon mwyaf hyf a digywilydd yn ein hardaloedd gweithfaol a'n dinasoedd poblog. Magwyd llawer o honynt yn ofalus ar aeWydydd crefyddol. Arferent blygu yn ddefosiynol wrth yr allor deuluaidd, ond hud- wyd hwy i gellwair a'r diodydd meddwol yn y tafarndy lie yr arferai pobl grefyddol alw. Aethant yn gaethion i'w blys wedi gadael cartref, ymhell oddiwrth ddylanwad ataliol tad a mam a chydnabod. Y maent erbyn hyn yn fwy rhyfygus mewn anuwioldeb nag anuw- iolion penaf ein dinasoedd. Arswydus yw meddwl pa nifer o honynt sydd bob blwyddyn yn terfynu eu gyrfa ddaearol yn mynwent Cibroth Hatafah, heb son am y canlyniadau anarluniadwy yn y byd a ddaw, a hyn oil fel rhan o ddylanwad dinystriol y Tafarndy Gwledig yn eu bro enedigol. Wedi gweled y drygau, dylid ymegnio i'w symud. Rhaid darparu tai cyfleus i fod yn wrth- dyniadol i'r tafarndy. Dylai fod ysgoldy eang ac ystafelloedd cyfleus ynglyn a'n haddoldai, mewn lleoedd gwledig yn arbenig, fel na bo raid i'r ardalwyr fyned i'r tafarndai i gyfar- fod a'u gilydd. Sonir llawer am gael crefydd round, a darperir yn helaeth ar gyfer yr ochr ysbrydol i fywyd, ond y nesaf peth i ddim ar gyfer yr ochr arall. Bound fel haner lleuad yw crefydd felly. Rhaid i'r eglwys ddarparu ar gyfer yr ochr gymdeithasol i fywyd hefyd, neu golli tir yn y dyfodol agos. Hefyd, rhaid cael gwell syniadau yn y wlad ar bwnc y fasnach feddwol. Pan yn edrych ar dafarnwr parchus neu dafarndy gweddus, byddwn yn dueddol i golli golwg ar wir natur y fasnach ynddi ei hun. Nid wrth y mas- nachwr na'r masnachdy y mae barnu y fas- nach, ond wrth ei ffrwythau" yr adnabydd- wch hi, Ac o'i barnu hi wrth ei ffrwythau, pwy saif i fyny i'w chynawnhau ? Mae hanes y difrod a wnaed gan y ddaeargryn yn ynys- oedd yr India Orliewinol yn ddiweddar wedi taro yr holl fyd gwareiddiedig ag arswyd a braw, ac agorwyd Trysorfa Gyhoeddus yn y Mansion House, a manau ereill, i ro'i cyfleus- dra i dosturi y wlad ffrydio allan mewn cyd- ymdeimlad a'r trueiniaid sydd wedi eu gadael mewn newyn a noethni. Unwaith mewn oes y digwydd trychineb felly. Yn wir, dywedir ei fod yn ddigyffelyb-yn unparalleled. Beth am y galanas a wneir gan y fasnach feddwol yn flynyddol? Hyrddia nifer luosocach i dragwyddoldeb nag a wnaeth y ddaeargryn -a gwaeth na hyny, y mae yn dinystrio eu cymeriadau cyn eu hyrddio i wyddfod eu Barnwr. Wrth ei ffrwythau yr adnab- yddwch hi. Pan ddelo yr Eglwys i goleddu syniadau cywir am y fasnach felldigedig hon, bydd yn sicr o dori pob cysylitiad a hi, nid trwy rym gorchymyn cnawdol, ond drwy nerth bywyd anherfynol." Bydd y Tafarndy Gwledig wedi ei esgymuno am byth. Ni feiddia na thafarn- wr na diotwr fel y cyfryw ymofyn am le yn yr eglwys. "Ni bydd yno lew na bwystfil gor- mesol ni ddring iddi." Gwawried y dydd pan fyddo'r Eglwys ymhob man yn gallu dyweyd fel yr apostol, ei boi "yn lan oddiwrth waed pawb oil." Yna, aiff allan i'r rhyfel ysbrydol a'i gwisgoedd yn lan a'i harfau yn loew. Bydd yr olwg arni fel y wawr, yn deg fel y lleuad, yn bur fel yr haul, ac yn ofnadwy fel llu banerog. [Anerchiad a draddodwyd 0 flaen Undeb yr Anibynwyt, yng Nghaernarfon, Mehefin 1902.1

LLENYDDIAETH Y MIS.