Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
EGLWYS Y BEDYDDWYR ELDON STREET, MOORFIELDS. DALIER SYLW. Bydd yr Eglwys uchodyn cyfarfod I addoli o'r SUL CYNTAF (6fed) YN GORPHENAF ymlaen yn yr Young Men's Christian Association 186, ALDERSGATE ST. (Yn ymyl y General Post Office). CYNHELIR CYFARFODYDD NEILLDUOL Y SUL CYNTAF, GORPH. 6fed, ( Ceir manylion yr wythnos nesaf. VISITORS TO ABERYSTWYTH SHOULD STAY AT THE CrEANYILLE (PRIVATE HOTEL) NORTH PARADE, ABERYSTWYTH Spacious Rooms, Electric Light throughout. Terms Moderate. Proprietress-Miss A. JENKINS. THE DENTAL INSTITUTE, 168, UPPER STREET, ISLINGTON, (Corner of Barnsbury Street). Principal H.O.HUGHES. MIGH-CLASS ARTIFICIAL TEETH AT STRICTLY MODERATE FEES. rThe most modern and scientific researches in English and American methods by skilled operator (late manager of one of the largest practices in London). 'CONSULTATIONS FREE. HOURS 10 TILL 8. And by Appointment. I Dymuna Mr. HUGHES, y perchenog, roddi ar ddeall i'w gyd-genedl y bydd yn ofalus i arolygu yn bersonol bob gwaith a ymgymerir yn y lie.
Y SENEDDWYR A'R MESUR ADDYSG.
Y SENEDDWYR A'R MESUR ADDYSG. Yr ydym yn llawenhau wrth weled y wlad yn dihuno i bwysigrwydd y Mesur hwn. Hir iawn y bu cyn datgan ei barn yn groyw arno; ond bellach, nid oes le i gwyno fod y gwrth- wynebiad yn hanerog nac yn ddigamsyniol. Mewn cyfarfod yn Llundain, yr wythnos hon, caed adlewyrchiad rhagorol o beth yw barn ein harweinwyr goreu ar y mater, a bellach nid oes ond disgwyl y gwna ein Seneddwyr eu rhan drwy wrthwynebu hyd eithaf eu gallu bob adran anheg o hono (ac y mae liawer o honynt), tra ar yr ochr arall wneyd eu goreu i ddiwygio y rhanau mwyaf rhyddfrydig o hono fel ag i liniaru ychydig ar ei anhegwch a'i greulondeb. Nid oes disgwyl y llwyddir i'w lwyr ddifodi. Yn wir, y mae pob arwyddion y caiff ei anfon drwy y Ty, yn lied debyg i fel y saif ar y papur ar hyn 0 bryd ac os gwneir hyny, ni ddylai yr Ymneillduwyr ar un cyfrif hwylusu dim ar ei daith drwy y rhan sydd yn ol o'i yrfa drwy'r Senedd. Y mae'r wlad wedi dangos yn ddigon clir beth yw ei barn hi ar y mater, a dyledswydd ein haelodau bellach yw rhoddi adlais teilwng o'r farn yna ar lawr Ty'r Cyffredin. Mae'n wir mai difudd y gall pob gwrthwynebiad fod, eto, dylid ar bob cyfrif ei wrthwynebu. Gwaith anhawdd, feallai, yw gwynebu plaid gref o gefnogwyr fel sydd gan y Mesur pre- senol; ond y mae digon o frychau y gellid siarad arnynt fel nad oes eisieu astudio cyf- leusderau y Llywodraeth pan fo egwyddorion a beiau yn cael eu hesgeuluso a'u cadarnhau mor ddigywilydd. Brwydr fer, feallai, fydd yr ornest gan fod y Llywodraeth wedi gwneyd ei meddwl i fyny i'w wthio drwy y Ty. Ond bydded i'n Seneddwyr wneyd y frwydr hono yn un a hir-gofir gan bawb a edmygant bob ymdrech o blaid cyfiawnder ac egwyddorion rhyddid.
EISTEDDFOD SEISNIG.
EISTEDDFOD SEISNIG. Caed efelychiad dyddorus o'r hen Eistedd- fod Gymreig mewn rhanbarth o ddinas Llun- dain yr wythnos ddiweddaf. Cofus gan y darllenydd weled yr hysbysiadau yn ein colofnau am yr wythnosau cyn yr wyl; a deallwn fod yr holl gyfres wedi troi allan yn llwyddiant arianol, oherwydd dyna oedd prif amcan yr wyl hon, ac nid meithrin talentau lleol. Ynglyn ag Eglwys St. Saviour, Shepherd's Bush, y cynhaliwyd y cyfarfodydd, ac am dri diwrnod caed cryn hwyl a difyrwch yn y lie. Yr oedd yno gystadleuaethau mewn canu a choginio, chwareu piano a golchi dillad, traethodu a gwnio, a llawer o bethau ereill nas gwelwyd hwy erioed yn y cynulliadau Cymreig; ond rhaid peidio beirniadu gan mai ymgais gyntaf y Saeson yn y lie ydoedd. Dechreuwyd y dydd cyntaf gydag araeth gan Arglwydd Aberdare, a Mabon yr wyl oedd y Parch. Benjamin Thomas, Eglwys Dewi Sant, a chadwai ef y bobl yn dra hapus hyd yn oed pan oedd y cystacleuaethau yn lied ddifywyd ac anyddorol. Agorwyd gwaith yr ail ddydd gan offeiriad o'r enw Ridgway, ac ar y trydydd dydd caed araeth gan Mr. Osmond Williams, A.S. Beirniadwyd rhan o'r adran gerddorol gan Pencerdd Gwalia, a'r adroddiadau gan Mr. R. A. Davies, "Ymdeithydd"; a bu amryw o gystadleuwyr Cymreig yn II wyddianus i gipio rhai o'r gwobrwyon. Yn eu plith gellir enwi Mr. David Jones, unawd bass; adroddiad, Mr. Leslie Price; Miss Carrie Jones, unawd i ferched; traethawd, Mr. Moses, Roberts, Gothic Hall; gwnio, Miss D, Evans ac ereill.
HYN A'R LLALL.-
HYN A'R LLALL. Yr ydym yn llongyfarch Mr. John Llewelyn Thomas-mab Pencerdd Gwalia-ar ei safle anrhydeddus yn rhestr ysgolheigion llwydd- ianus Caergrawnt. Pan gyhoeddwyd y rhestr ddydd Mawrth, gwelwyd fod enw Mr. Thomas yn bumed yn y u Wrangler list." Mae Mr. Thomas yn 22 mlwydd oed, ac wedi cael gyrfa lwyddianus yn Harrow ac wedi hyny yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Y mae dau o chwarelwyr Bethesda eisoes wedi eu lladd yng nglofeydd y Deheudir. Yno y maent wedi gorfod cilio oherwydd tra- hausder un teyrn lleol. Pan ddygwyd cyrff dau o'r trueiniaid a laddwyd yn y Fochriw i'r Gogledd y dydd o'r blaen, yr oedd cydym- deimlad cenedl gyfan a theulu yr anffodusion. Nid syndod, hefyd, fod y digwyddiad wedt chwerwi y teimladau sydd eisoes yn bodoli yn erbryn y bradwyr ydynt wedi gwrthgilio o Undeb y chwarelwyr. Oddiar adeg cyhoeddiad Heddwch y mae'r Bauwyr. wedi gosod eu harfau i lawr yn lied gyffredinol, ac y mae amryw filoedd eisoes wedi eu cofrestru gan yr awdurdodau yn y Transvaal. Y gwaith nesaf fydd cludo y carcharorion nol i'w hen ardaloedd, a chymer hyny amryw fisoedd i'w gyflawni. Bydd i'r Llywodraeth gynorthwyo llawer o'r teuluoedd sydd wedi eu tylodi trwy y rhyfel hwn. Gwaith olaf Undeb yr Anibynwyr yng Nghaernarfon, y dydd o'r blaen, oedd dad- orchuddio colofn goffa ar fedd y diweddar Ddr. Herber Evans yn mynwent Glanadda, Bangor. Siaradwyd ar yr amgylchiad gan Dr. Probert, Parch. Stanley Jones, a'r Parch. Elfet Lewis, Llundain, ynghyd ag amryw ereill. Fel yr oedd Miss Williams, athrawes gyn- orthwyol yn Ysgol Sir Llanfair, yn cerdded i'r Trallwm nos Iau cyn diweddaf, tua chwecb o'r gloch, darfu i grwydryn ymosod arni a hawlio arian ganddi. Wrth iddi addo arian iddo cafodd lonydd ganddo, ac ar ol cael sofren ymaith ag ef. Hysbyswyd yr hedd- geidwaid o'r peth yn ddiatreg; a chafodd y carcharor ei ddal yr un noson a'i ddwyn i garchar y Trallwm. Un o'r pregethwyr mwyaf hyawdl yng Nghymru yw'r Parch. Towyn Jones, Cwm- aman, a chaiff y Llundeinwyr gynemdra i wrando arno y Sul olaf o'r mis hwn, oblegid efe sydd i lanw pwlpud King's Cross ar y dydd hwfiw. Nid oes sicrwydd eto pa ui a fydd yng ngwyl y coroniad ai peidia-feallai nad yw'r Brenin wedi clywed y bydd yn LIlln- dain ar y diwrnod. Yr ydym wedi ymhyfrydu cymaint mewn rhyfel a son am ryfel yn ddiweddar fel mai nid syndod ydoedd clywed mai'r emyn a genid bron ymhob capel ac eglwys drwy y wlad ar y Sul Heddwch oedd, Rhagom filwyr Iesu Awn i'r gad yn hyf," &c. Gallem feddwl, pan yn dathlu heddwch, y baasid yn alltudio pob awgrym rhyfelgar a wasanaeth y cysegr. Ond beth dal siarad, onid ffurfiaeth oedd y cyfan ? Cred rhai pobl y ceir etholiad cyffredinol yIJt fuan wedi'r coroniad, ond nid yw hyny yn debyg. N'd oes angen apelio at y wlad pan fo Brenin newydd yn esgyn i'r orsedd; ac yn sicr, nid oes galw am un wrth ddathlu ei goroniad. Peth arall, hefyd, nid ydyw y Llywodraeth yn rhyw awyddus iawn i fyned o flaen y wlad ar ol pasio y mesurau anheg diweddar, ac unwaith yr apeliant diau y bydd yr ateb yn debyg o foi yn dra anfoddhacl iddynt. Swn gwleddoedd y coroni sydd ymhob man, ac y mae plant pob ardal yng Nghymru i g-af I mwynhau o de a theisienau ar y dydd hwny, Mewn rhai ardaloedd, rhoddir anrhegion coffa o gwpanau heirdd, ac yn Llanbedr, Ceredighy ion, bwriedir gyru'r ddanoid ar y rhai bach drwy eu llanw a blychau o chocolates.