Hide Articles List

3 articles on this Page

Bgd y -- - - --- C, IBan.

News
Cite
Share

Bgd y C, I Ban. Gan PEDR ALAW. [" PENDENNIS," LOUGHTON.] Y DECHREUWR CANU. Pa bryd y daeth y ribrawd hwn i'w swydd, nis gwyddom; ond y mae yn hawdd dod i'r casgliad pa fodd y daeth i'r amlwg ymhlith ei gyd-addolwyr. Diau iddo gael ei ddewis i arwain y gan oblegid rhagoriaeth ei lais: byddai gwr a chanddo gyflawnder o lais yn debyg o gadw rhyw gymaint o drefn ar y canu cynulleidfaol. Gwyddom ei fod wedi llwyddo yn dda yn liyny, ac felly na fu ei lafur yn ofer. Yr ydym ni yn ddigon hen i gofio y canu yn ein hoff bentref (Rhuddlan) pan nad oedd offeryn 0 fewn un o'r capeiau; ac er fod y canu yn ddigon di-lun—gan mai digon anllythrenog ydoedd y dechreuwyr canu; ac yn enwedig .gan ei bod yn rhyw fath o gredo ymhlith crefyddwyr y dylid canu yn araf-yr oedd y dechreuwr canu yn wr mwy pwysig y pryd iiiyny nag ydyw yn awr. Yr oedd y gwr da hwn yn bur foddlawn ar ei stock fach o donau yn wir, gwyddom am fwy nag un nad allent ddarllen ond y nesaf i ddim o gerddor- iaeth o unrhyw fath; ond y mae yn ddiogel dyweyd eu bod yn byw yn llawer agosach i awyrgylch yr emyn nag a wna ei frodyr yn y ,dyddiau prysur hyn Ah! dyddiau hyfryd ydoedd y rhai hyny pan y byddem, yn hogyn ?pur ieuanc, yng nghwmni y dechreuwr canu a rhyw dri neu bedwar ereill yn yr ystafell ger y Capel Mawr, yn Rhuddlan, am bump o'r gloch brydnawn Sul ac am wyth o'r gloch y nos yn nhy y dechreuwr, yn ceisio, drwy fawr lafur, cael gol w g ar degwch hen donau —yn ceisio trwsio ein tannau! Yn sicr, y mae yr hen frawd Thomas Davies yn mwyn- hau cerddoriaeth berffaith y nefoedd er's llawer blwyddyn bellach, a'i 'Ie yma nid edwyn mo hono mwyach.' Yn wir, yr oedd ef, a'i debyg, yn bur gymmwys i'w ddydd, ac ni fuasent ond ar y ffordd y dyddiau hyn! Dywedasom uchod fod yr hen ddechreuwyr 'Canu yn byw yn agosach i awyrgylch yr emyn nag a wneir yn awr. Credwn hyny, gyda phob parch i'r dechreuwr canu presenol. Os nad oedd ei ragflaenwr ddeugain mlynedd yn -01 yn gallu prin ddarllen ton gynulleidfaol, yr oedd yn astudiwr campus o'r emyn: byddai yn ceisio elfenu hono wrth ei waith yn y caeau ac yn ystod yr awr giniaw; a rhoddai es- boniad bychan arni yn ystod ei weddi. Ond pan y deuai i arwain y gan yn y capel, yno y ceid ganddo yr eglurhad cyflawn Byddai yn ail-adrodd wrth ei fodd, ac wrth eu bodd y byddai ei gyd-addolwyr yn ei ddilyn! Os cafwyd hwyl trwy lawer i bregeth, cafwyd yr un peth lawer gwaith drwy ganu yr hen ;:bobl. Rhyw fath o faeth-weddiau gaed gan yr hen dadau cerddorol a'u cyd-addolwyr, ond yr oeddynt yn cyrhaedd y cymylau- addewidion Duw—ac yn dod a'r gwlaw i'r enaid Bellach, y mae y dechreuwr canu yn wr sydd wedi derbyn addysg gerddorol da, fel rheol, ac y mae ei gynulleidfa yn gwybod cryn lawer am gerddoriaeth ac y mae har- nioneg neu organ yn allu o'r tu ol i'r canu. Ond a fyddai yn ormod dyweyd, tybed, nad yw y canu "diweddar" hwn agos mor fen- dithiol ag ydoedd y canu ddeugain mlynedd yn ol ? Peidier tybied ein bod yn dibrisio y canu presenol, mewn un modd. Nid ydym ond yn ceisio dyweyd ein profiad yn ol yr hyn ydym yn ei gofio am y canu pan oeddym yn Aogyn ieuanc, o'i gyferbynu a'r canu presenol. Nid ar y canu, fel y cyfryw, y mae y bai y rnae yr achos i'w olrhain i ysbryd di-weddi, di-grefydd yr oes. Y mae cerddoriaeth y <:apel yn allu, ond rhaid iddo fod yn ellu Duw yn allu a weithreda am fod cariad Duw tai a'r Hwn a anfonodd Efe, yn "fotif power iddo, cyn y ceir yr II hwyl y gwyddai ein hen dadau mor dda am dani. I Pa le y saif y dechreuwr canu yn bresenol, I fel arweinydd ? Credwn fod perygl iddo ddod i wrthdarawiad a'r organydd yn fynych Y cwestiwn ydyw, pwy sydd i arwain, yr organ ynte y dechreuwr canu? B wrier fod y naill yn anghytuao a'r llall ynghylch y modd y dylid canu Ilinell, neu linellau-ac y mae hyny yn beth pur bosibI-pwy sydd i gael ei ffordd ? Ymddengys i ni fod yr organydd, oherwydd y gallu sydd wrth ei law, yn rhwym o gael ei ffordd ei hun, ac nad yw y "dechreuwr" druan ond o wir gymhorth i'r canu yn y cyrddau wythnosol pan na ddefnyddir yr organ. Fel hyn (os ydym yn iawn) ceir ar- wyddion fod yr organ yn gwneyd i ff wrdd a'r dechreuwr canu. 1 A garai rhai o'n dechreuwyr canu yn 1 Llundain draethu ar hyn yn ein colofn ? Bydd yn dda genym glywed oddiwrthynt; ac, os dewisant, ni chyhoeddwn eu henwau. CYNGHERDD MR. JOHN THOMAS. Yn rhinwedd ei swydd fel telynor i'r Brenin ac oherwydd ei allu fel chwareuwr ar y delyn-offeryn cenedl- aethol y Cymry—haeida y gwr hwn ein parch a'n hedmygedd ond y mae lie i wel'd bai arno ynglyn a'i gyngherddau blynyddol: ) y maent mor llawn o'i hoff bethau ef, a'r naill flwyddyn ar ol y llall, John Thomas ydyw bron bobpeth ynddynt. Gwir fod yn angenrheidiol cael cerddoriaeth arbenig i'r delyn, ac nad yw y cyfryw mor hawdd i'w chael a cherddoriaeth i'r berdoneg; ond tybed nas gellid dod o hyd i ddarnau-os nad yn Lloegr, yna o'r Cyfandir-rhai pwr- pasol i'r delyn, neu rhai y gellid eu trefnu iddi ? Credwn fod ac y mae yn hen bryd cyflwyno'r cyfryw i fynychwyr y cyngherddau hyn. Oddigerth dwy alaw (a gadael allan ddarnau y cor merched), yr oedd yr oil yn y cyngherdd yn waith John Thomas, neu wedi eu trefnu ganddo. Pe buasai lie i fawr gan- mol ei ddarnau ef, da; ond nid oes—addigerth Echoes of a waterfall a rhan o'i Ymdeith- gan Goronog. Cymerer y "Bardic Fantasia," y mae'r ychydig famau agoriadol yn urdd- asol ond ar ol y cyfryw ceir y gerddoriaeth fwyaf cyffredin hyd y diwedd o'r bron, fel y cawsom d jig-on ar y darn hwn cyn ei derfyn. Nid oedd y chwareuad ychwaith mor gryno ag y dylasai fod tua'i ddiwedd-bai yr ar- weinydd oedd hyn yn ddiau. Clywsom y gan There be none of beauty's j daughters yng nghystadleuaethau Eisteddfod Genedlaethol L'.undain flynyddol yn ol; a dylasai fod wedi ymbriodi er's amser. Ni thybiem ei bod yn gan wreiddiol iawn y pryd hyny, a barnwn felly eto, er yn addef fod tlysni ynddi, Nid dyma'r tro cyntaf ini ei chlywed yng nghyngherddau Mr. Thomas ychwaith, ac y mae hyn yn brawf ei fod am j wthio ei ddarnau ei hun i'r amlwg ar bob cyfle. Nid bai y telynor ydyw fod y weddi o ló Moses in Egypt" (Rossini) mor enbydus o fydol—fel y rhan fwyaf o'i ddarnau cyssegr- edig ef—ond credwn ini glywed y trefniant hwn o'r blaen yng nghyngherddau Mr. Thomas. Os na ellir gormod o'r hyn sydd dda, nid oes lie i rwgnach; ond credwn fod rhai pethau da y gelhr cael gormod o honynt. Canwyd amryw alawon Cymreig-yr oil yn ol trefniad Mr. T homas; a dylasem enwi y gan "I Home and Love (John Thomas), a j ♦ ganwyd gan Mr. Emlyn Davies. Yma eto, nid oedd y gan yn deilwng o'r cantor. Rhagorol ydoedd dadganiad Signorina Ravogli o'r gfia Spiagge Amate (Gluck). Canodd cor merched Miss Rees amryw o'u darnau adnabyddus yn ei ddull goreu fel y tystiwyd gan y dorf, yr hon a fynai encores. Y mae Miss Rees yn gallu gwneyd i'r merched gyflawni ei holl ofynion, yn ol pob arwydd; a chan ei bod hi yn foneddiges sydd yn meddu chwaeth dda, y canlyniad yw fod y canu yn dda. Y mae yn bryd, modd bynag, dwyn darnau newyddion i sylw'r cyhoedd. Gyda'r fath allu ag sydd yn y cór hwn, dylasai fod ganddo ystor helaeth o gerddoriaeth flasus.

CYMRU YN Y FFUGCHWEDL SEISNIG-

Advertising