Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Y BrD A'R BETTWS.

News
Cite
Share

Y BrD A'R BETTWS. Bu'r Brenin ar ymweliad ag Eglwys Gadeir- iol St. Paul, dydd Sul diweddaf, i dalu diolch, meddir, am fod Heddwch wedi ei gyhoeddi. Gwledda a rialtwch o bob math geir am y gweddill o'r mis hwn, oherwydd y mae pen- aethiad Prydain yn addaw dathlu y Coroniad trwy wneyd duw o'r bol. j Ar ol gorphen a'r rhyfel yn Affrica y mae'r Weinyddiaeth yn awyddus am un arall, a cha'nt eu gwala eto yn y brwydro sydd gerllaw ar Fesur Addysg. Gwlad werinaidd, meddir, yw'r America, ond y mae ei phobl arianog yn awyddus iawn am gymdeithasu a mawrion ac urddasolion ein gwlad ni, a deuant drosodd wrth y canoedd y dyddiau hyn, er mwyn bod yn bresenol yn rialtwch y coroni. Bydd amryw o Gymry yn bresenol ym Mynachlog Westminster ar adeg seremoni'r coroniad, a chlywir lleisiau nifer o'n cerdd- orion gwychaf yn y cor am y diwrnod hwnw. Penderfynodd Ty'r Cyffredin yn derfynol yr wythnos hon i osod toll ar fara y bobl dylodion. Mae'n rhaid i bawb, meddent hwy, gymeryd rhan yn nhaliad costau y, rhyfel diweddar. "Os nad yw'r Ilafurwr," meddai Arglwydd Hugh Cecil yn Nhy'r Cyffredin nos Fawrth, "yn hoffi treth ar ei fara,-wel, boed iddo wario llai ar ei fara a defnyddio y gweddill er mwyn yfed rhagor o whisky." Dyna gyngor mab Salisbury. Bu tan ffyrnig mewn masnachdy yn Queen Victoria Street, Llundain, yr wythnos hon, a chyn y gellid dwyn ysgolion i'r lie, llosgwyd naw o ferched ieuainc oeddent yn gweithio yn ystafelloedd, uchaf yr adeilad. Un o hynodion dinas fawr fel Llundain yw y caniateir i fobl adeiladu tai mor uchel fel nas gall ysgolion y tan-ddiffoddwyr ddim cyr- haedd i'w ffenestri uchaf, ac ni orfodir y perchenogion i sicrhau dihangfa o honynt pe dlgwyddai tan dori allan. Un o ddynion cyfoethocaf Llundain yw Syr Thomas Lipton, ond y mae'n resyn meddwl mor lleied yw'r gyflog a rydd i lawer o'r gweithwyr sydd dan ei ofal. Ychydig amser yn ol, dygwyd cwynion i'w erbyn ynghylch cyflogau rhai o'r merched sydd yn pacio te a man nwyddau ereill iddo, ac ar ol ymgyng- horiad cytunodd i sicrhau iddynt gyflog wyth- nosol o hyn allan o ddeg swllt yr un. Trwy danchwa yn rr hyllau glo Fochriw- perthynol i Gwmni haiarn Dowlais-lladd wyd wyth o ddynion y dydd o'r blaen, a thybir yn lied gyffredin mai rhai o'r trueiniaid eu hunain fu yn achlysur y danchwa. Pan aed i ar- chwilio y cyrff, caed matches a cigarettes yn llogellau rhai o honynt, ac yr oedd lamp un o honynt hefyd wedi ei hagor. Rhyfedd fel y chwery rhai phobl a dinystr I Dywed arlunydd o Gaernarfon mai pobl wael yw trigolion y He hwnw ac eu bod yn waeth na'r Bauwyr. Wel, dyna, mewn gair, y mae Mr. Lloyd-George ei hun wedi ei ddyweyd. Mynai Mr. Geoage fod y Bauwyr cystal dynion a ninau; ac o'r ochr arall dywed, hefyd, fod pobl Gaernarfon yn well ac yn fwy diwylliedig na'r gweddill o'r Prydein- wyr. Digon gwir, onid hwy sydd wedi ei ddewis ef i'r Senedd-a phwy ond pobl gall a wnaethai hyny ? Bardd o fri lleol ac eisteddfodwr pybyr yw John Jones (Tydu), yr hwn a ddedfrydwyd i flwyddyn o garchar ym Mrawdlys Caerfyrddin y dydd o'r blaen am guro yn ddi-drugaredd un Cadben Griffiths o Langranog. Caiff Tydu hamdden bellach i ddofi yr awen yn ei oriau unig ac hefyd ddcfi ychydig ar ei dymher.