Hide Articles List

2 articles on this Page

Bwrdd y g CeStm"1

News
Cite
Share

Bwrdd y g CeStm" 1 'Roedd gwyr y CELT wedi myned ar gyfeiJiorn, bob 1 un, yn ddiweddar. Ni wyddai neb ddim o'u hanes xia phaham nas daethant at eu gorchwylion fel ar- ferol. Gwnaeth hyn i'r Gol. fyn'd o'i go'; a chyn i'r Macwy gael amser i ymresymu ag ef, un boreu, wele ef yn myned i ffwrdd tua Chymru er ceisio dcd 0 hyd i'r giwed oeddynt yn cael tal am segura. 'Roedd Trebor Aled wedi canu fod y gog yn Nyffryn yr Elwy, a ffwrdd a'r Gol. yno er gweled a oedd rhai o'r beirdd wedi mentro i'r ardal i wrando ami, ond ni welodd yr un. Yr unig beth a gafodd oedd digllon- edd y bardd o lan yr Aled am fod y cysodydd wedi fceiddio gwella ei linellau prydfertb, a throi y gair "gnwd" yn "gwd," ac addawodd y Gol. er heddwch i roddi'r cwd i'r pechadur oedd wedi gwneyd y lath anfri. Wedi mwynhau glanau yr Aled a'r Elwy tieth y gwr doeth i chwilio glan y Wyre, er gweled a oedd xhai o honynt yno, ac er ei syndod gwelodd y Llinos yno yn casglu o flodau glan y ffrydlif, a thyma fel y eanai ynghanol swn y fronfraith a'r ehedydd per:— WYRE. Wyre lan, a Wyre loew, Wyre bur farddonol enw, Wyre Ion, a Wyre swynol Wyre hoff a'i bri'n anfarwol. Wyre glyd a Wyre serchog Wyre dyffryn tlwa meillionog, Wyre fwyn a Wyre hyglod Wyre'n gan ar dant a thafod. Wyre laith a Wyre dawel Wyre gain ac Eden awel, Wyre glir a Wyre hylon Wyre deg gorseddfa swynion. „ Wyre iach a Wyre siriol Wyre fraf llanerchau hudol, Wyre serch a Wyre lawen Wyre bardd a Gwalia dry Jen. Wyre ia a Wyre eira Wyre oer ei glenydd fiera, Wyre haf a Wyre gauaf Wyre gwanwyn teg anwylaf. Wyre lawn a Wyre ffyddlon Wyre cysur a bendithion, Wyre dderch a Wyre greigiog Wyre dlos y dolydd gwridog. Wyre gul a Wyre tonau Wyre gerddi a pherllanau, Wyre bri a Wyre urddas Wyre bwthyn gwyn a phalas. Wyre ser a Wyre huan Wyre lloer a nos pedryfan, Wyre dyn a Wyre pleser Wyre ddeil tra byd ac amser, Wyre nef a Wyre daear Wyre ddiwyd amyneddgar, Wyre Duw a Wyre rymus Wyre rad ein lor haelionua. Wyre swyn a Wyre lesol Wyre telyn her adlonol, Wyre pysg a Wyre bywyd Wyre 'nghalon Wyre hyfryd. Wyre hen a Wyre adar Wyre newydd Wyre gynar, Wyre Lledrod a Llanrhystyd Wyre mor a'i ddor yn weryd. Willesden. LLINOS WYRE. Wrth ei glywed yn canu dyma rhyw lane yn dod ymlaen, a phwy ydoedd ond Bardd yr Offls, ac yn ei ddiniweidrwydd gwaeddodd allan, Hawyr, fe wyr e'r cyfan." "Taw I" ebe'r Gol., oni wyddost ti mai enw ar yr afon yw Wyre, ac mai canu iddi hi y mae y bardd." Ar hyn wele fardd arall yn dod ymlaen ac aed i ddechreu son am enw yr afon a tharddiad y gair, ond gan nas cawd boddhad, torai'r Gol. i fewn gan ddyweyd, Wel, fe ofynaf fi i'r Crwydryn' pan ddof o hyd iddo." I b'le mae hwnw wedi myn'd yn awr ?" gofynai D. L. Fe'i gwelais pwy ddiwrnod ar ei daith ac y mae llawer o siarad am dano. Dyma fel ei gwelais ar ei ffordd tuag Aberystwyth ac yno, mae'n debyg, y mae ar hyn 0 bryd :— "CRWYDRYN Y 'CELT." Yn cychwyn o'i gartref cysurus, I fyned am dro i'r Hen Wlad. Canfyddais hen frodor tra pharchus A'i wenau yn Uawn o foddhad Ei wallt oedd yn dechreu llwydfritho, A'i farf yn drwsiadus bob tu, Gan fyn'd yn urddasol ei osgo Ar bwys ei umbrelo mawr du. Yn llogell ei got 'roodd dwy gyfrol Fawr drwehus o'r Gossiping Guide,' Ac 'Ordnance Map' Ymherodrol, Yn rholyn mewn cwd wedi'i wneyd; Mewn carped bag mawr, ganddo'n nghadw 'Roedd llyfrau rhyw Lexicon faith I olrhain ystyron pob enw A geiriau aneglur yr iaith. Ei ymgom bob pryd oedd yn ddiddan A llawn 0 hanesiaeth ei wlad, Pob brwydr, a brad, a chyflafan Oedd ganddo yn bur mewn cofihad; Ei gof oedd fel maelfa fawr addas 0 bob rhyw amrywiaeth yn llawn At agor meddyliau oymdeithaa Hyd fesur galluoedd ei dawn. Mae'n cyrhaedd hen ardal Llangranog Un bore yn barod i waith, Ar lyfr nodiadau mawreddog, Dechreuodd ddarlunio y daith Gofynai'r brodorion mewn syndod Pwy oedd y gwr hynod ei lun ?" Ond Dafydd y Crydd ddaeth i wybod Mai Crwydryn y Celt'" oedd y dyn. Odd'yno yr aeth i Lwyndafydd- Ei glodydd o'ent yno o'i flaen- Y CELT ar adenydd y wawrddydd Fu'n rhoddi ei hanes ar daen Auadlodd awelon Ceinewydd A Llanarth a'r hen Dderwengam, Ffoesffin, a'r Hen Fenyw, yn utydd, Wargryment i'n harwr dinam. Mewn lludded i dref Aberaeron Gwnaeth hwylio yn nghysgod yr hwyr, I'r Feathers' Hotel aeth yn eon, Ac yno gorphwysodd yn llwyr, Ond dranoeth—a'r BILL heb ei dalu- Fe'i gwelid yn rhedeg ar frys I fyny trwy bentref Llanddewi Heb amser i sychu ei chwys. 'Rol gadael Llanrhystyd mae eto Yn dechreu cael hwyl ar ei waith, Yn ffermdy Ffospilcorn cadd groeso A sucan, a llaeth, ar ei daith Aeth heibio Llanilar yn hwylus, Rhyd-felin a'r ben Figure Fowr, Yn nhref Aberystwyth yn hapus Eisteddodd ar Gastell y mor. Pa beth ddaeth 0 hono 'rol hyny Sydd gwestiwn aniddig a chas— Ai am fod y BILL heb ei dalu Mae'n cuddio gan ofn y got las ?" Mae'r CELT yn gyhoeddiad cyfoethog Ac arian yn stor yn y banc, 'Rwy'n sicr y tal ef bob ceiniog O'r ddyled sy'n blino y llanc. 0 Grwydryn, dos allan o'th guddfan, Paid byw mewn dinodedd yn hwy, Dy lithiau toreithiog, a diddan, I mi oeddynt felus—" moes mwy"; Dy lygad yn hir a barhao Yn dreiddgar, a'th bwyntyl yn llym, A'th feddwl yn glir i egluro Hen eiriau fy iaith gyda grym. D. L. EVANS. "Mistake wir" ebe'r Gol. "Ni wyddost tithau, chwaith, pwy yw Crwydryn y CELT. Rhyw lanc arall a welaist oherwydd 'dyw'r Crwydryn' byth yn anghofio talu, a phe nas gwnai hyny, y mae ei enw ef a'r papyr a gynrychiola yn ddigon o secttrity i holl westywyr Cymru, ac y maent hwy oil yn ei adwaen erbyn hyn." Wedi cael ymgom Penardd, yr hwn oedd ar ei daith tuag Ogof Twm Sion Catti i chwilio am ragor o hanes yr Hen Ddewiniaid, aeth y Gol. a'i was am dro i bentref Meidrim, a chyda eu bod yn myned i fewn yno pwy a'u cyfarfu ond y bardd J. L. Thomas, Pilmawr, yr hwn a ddesgrifiodd y lie mewn penill byrfyfr fel a ganlyn:— MEIDRIM. Un eglwys henafol, un'ffeirad rhagorol, Un athiaw Bwrdd Ysgol yn Meidrim y sydd Un ceidwad at heddwch, un meddyg at beswch A phob math 0 salwch a fydd Un felin i falu, un efail bedoli, Un capel addoli i'r Methodist clyd, Tra dau 0 dafarnau, a phedair o shopau- Ymh'le ceir gwell pentre' na Meidrim drwy'r byd ? Pilmawr. J. L. THOMAS. Oddiyno aed i ardal Penuwch, lie yr oedd y pen- trefwyr mewn llawn hwyl yn cynhal rialtwch fel pe baent yn dathlu cyhoeddi heddwch, ond erbyn chwilio caed yr holl, hanes gan yr hen Wilym, yr hwn ddaethai yno am dro, a dyma fel yr englynai:— ENGLYNION PRIODAS Mr. Daniel Williams, Cobourg Road, S.E., a Miss Martha Green, Llangeitho. Mai 21, 1902. Hyderus Penuwch dirion-dau dyngodd Hyd angau'n gyfreithlon A medr gras a'u modrwy gron 0 degweh wneyd eu digon. Mwy i'w werth ca'dd Daniel Martba-yn goeth 0 Langeitho yma Ar ei aelwyd rheola Eiddo'r doeth adroddwr" da. Enwog 0 dduwiol anian-yw y ddau Maent yn ddoeth eu hamcan, 0 fyw i lwydd y nef lan Yn hollol o hyn allan. Helaeth bo'u masnach hylwydd—i'w llondeb Yn Llundain yn ebrwydd Iachus blant a gant i'w gwydd Yn ddidwyll ac yn ddedwydd. Llawnder i'ch plant yn Llundain—wedd uche2- Ddaw ichwi yn gywrain, I hir-oes Duw a'ch arwain, Dod a wnewch yn daid a nain. Yn gryf addas byw'n grefyddol—cadarn Codwch yn fendithiol. Yn mhob man heb ran ar ol I'r Iesu Geidwad grasol. 2a, Temple Street, GWILYM PENNANT., St. George's Road, S.E. Erbyn hyn yr oedd yr haf wedi dod, ac; awelon balmaidd gwlad y gan mor dyner fel yr anghofiodd y Gol. ei ddyledswyddau a'r papyr. Bydd wedi cael ei alw adref erbyn y rhifynr nesaf, felly, caffed y gweddill o'n gohebwyr amynedd, a chaiff eu cynyrchion y sylw dyladwy.

Undeb Ysgolion Sabothol Methodistiaidi…