Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

HEDDWCH!

SWYDDFA PRIFYSGOL CYMRU.

News
Cite
Share

SWYDDFA PRIFYSGOL CYMRU. Ar ol blynyddau o ddadleu, y mae Llys y Brifysgol o'r diwedd wedi penderfynu ar leol- iad Swyddfeydd Prifysgol Cymru. Ar hyn o bryd, y mae'r Swyddfa yn Aberhonddu, a'r rheswm paham yr aeth yno oedd, am fod tair neu ragor o drefi yng Nghymru yn awyddus iawn am gael yr anrhydedd o lochesu y swyddfa ganolog hon, ac nid oedd y Llys ar y dechreu yn ddigon cadarn ei farn i benodi yn mha le y dylid trefnu man canolog Addysg Uwchraddol Cymru. Pan ddaeth y mater o flaen yr awdurdodau yr wythnos ddiweddaf, gwelid ar unwaith fod teimladau cryfion yn bodoli dros y naill dref a'r llall, ond yr oedd gwahoddiad Caerdydd yn hynod o ddeniadol. Addawai Corphoraeth Caerdydd roddi tir pwrpasol i adeiladu y swyddfeydd arno yn rhad ac am ddim, a mwy na'r oil, yr oeddynt yn barod i gyfranu chwe' mil o bunau tuagat godi yr adeilad. Gan fod angen cynorthwy arianol ar y llys, yr oedd cael y fath wahoddiad yn anorchfygol bron, a'r canlyniad oedd i dref Caerdydd gael ei dewis fel y lleoliad swyddogol o hyn allan. Î Ar amryw ystyriaethau, y mae'r penodiad yn un doeth gan fod llawer o ragoriaethau yn perthyn i Gaerdydd fel tref fasnachol, a'r unig wrthwynebiad iddi yw y pellder anffodus a fydd rhwng y swyddfa a choleg Bangor a phe buasid wedi penodi ar Aberystwyth neu Llandrindod, ni fuasai mor anghyfleus, feallai, a thref Caerdydd. O'r ochr arall, gan mai gwaith trefniadol yn unig fydd gan y swyddfa i'w gyflawni y mae ei lleoliad ar y brif rheilffordd ac yn mhrif dref y Deheudir yn sicr o fod yn fantais yn y pen draw. Hyderwn, bellach, yr adeiledir swyddfeydd teilwng o'r Brifysgol ac o'r genedl ar ol yr holl ymladd a dadleu sydd wedi bod ar y pwnc.

MARWOLAETH MR. WILLIAM JONES,…

[No title]