Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
PREPAID 4 U/ANTS. Every Advertisement must be accompanied with remittance in full. initials count as one word, and names and address Charged for. 'Replies may be sent to the Office of this paper and wjll be duly forwarded to Advertiser. Eemittances should be made by P. Order or Halfpenny Stamps. *■" 12 words; Once 6d. Three times 1 20" 3d. „ „ 1/3 .28" „ t/- „ 1/6 36 „ 1/3 „ 1/9 44" 1/6 >, tt 2/- Every additional 8 words 3d. G. ENERAL wanted, must be respectable, able to do IG Plain Cooking, age 18 to 20.—Apply Mrs. Jones "88, High Street, Marylebone, London, W. YOUNG Lady (17) desires Situation in Dairy; jL experienced and used to quick trade.-Write to :.M. J. 2, Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. A LARGE Front Well-furnished Bed-sitting Room to Let (West End).—42, J. A., Kelt Office, 211, -Gray's Inn Road, W.C. D. AIRY.-Young Lady seeks Situation, able to manage Branch; highest references.-Apply &3, L., Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, -W.C WANTED, immediately, a Strong Girl for House- tt work.-Apply Avenue Stores, St. John's Wood. YOUNG Lady wanted for two or three months to serve in a Dairy; experience necessary.—Apply -t)y letter to 41, Cymro, Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. AR OSOD.—Ty Capel Cymreig Lewisham.— Ymofyner a William Jones, 124, Lewisham High TRoad, S.E. WANTED.—A Young Woman for Housework in a 'W Dairy, and to assist occasionally in shop. (Good reference required.-Apply 105, Goldsmith Row, Hackney Road, E. WANTED by Second Week in June by a lady out during day; first floor, front two small Unfurnished rooms (Welsh people preferred), 3 minutes to Highbury Station.-E. B., 211, Kelt •Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. GOOD General Servant of cheerful disposition, not under 23, wanted in a northern suburb, for family of 4 (no young children), plain cooking, help given; facilities for Welsh services. Wages up to P-20, according to capacity.-Apply by letter, 38," "Cartref, Kelt Offioe, 211, Gray's Inn Road, W.C. WANTED.-Girl (Welsh) for Shop, S E., also Girl for Shop and Housework; good wages.-Apply -Junius, Kelt Office, 211, Gray's Inn Road, W.C. YOUNG LADY seeks situation as Manageress in Dairy.—Apply Miss Davies, 45, York Road, forest Gate. MILK.—Metropolitan Dairymen's Employment lU Association have a large number of men on their suitable for every branch of the trade. Employers suited free—42, Gray's Inn Road, Holborn. DAIRY.—Situation wanted as manageress.—S. L., 59, Rhodeswell Road, Limehouse, E. \\7ELL-PURNISHED Bed and Sitting-room, '» suitable for two young men, with or without hoarding.—For terms, &c., apply 272, Gray's Inn Rd.
HEDDWCH!
HEDDWCH! TERFYN CADGYRCH AFFRICA. Dydd Sul diweddaf, y dydd cyntaf o Fehefin, daeth y newydd boddhaus i Brydain fod rhyfel Affrica wedi gorphen, lie fod y Bauwyr wedi cydsynio i roddi eu harfau i lawr a derbyn telerau Prydain y rhai a gynygiwyd iddynt ychydig ddyddiau yn ol yng Nghynad- ledd Pretoria. Ni chafodd y wlad er's amser maith newydd mwy derbyniol, a phan hys- byswyd ef yn swyddogol prydnawn Sul di- weddaf, aeth dinas Llundain a'r wlad drwyddi yn ferw gwyllt gan faint y llawenydd wrth glywed fod cadgyrch mor ddinystriol bellach wedi gorphen ei gyrfa. Am dros ddwy flynedd a haner o amser bu Deheubarth Affrica yn faes celanedd a Hid, ac y mae'r gelynion a lwyddasant mor effeith- iol i'n cadw draw am y fath ysbaid hirfaith yn hawlio ein hedmygedd; ac yn goffi oesol beth all nifer fechan o fobl diewr waeyd dros ryddid pan fo cyifiwnder o'u tu. Gwir eu bod wedi eu trechu, ond nid wedi eu diraddio. Mewn gair, dewrion y Bluwyr fel De Wet a Botha fydd yr enwau a goffheir gan haneswyr yr oesiu a ddel, canys hwynt- hwy ydynt arwyr y gadgyrch hon ac nid byddin gref Lloegr, er mor dlewr yr ymladd- odd hono, Wedi enill y fuddugoliaeth y m3.e'n deg cydnabod fod Lloegr wedi dangos ar y diwedd well ysbryd Rhyddfryiig, nag a feddyliodd llawer o gefnogwyr y weinyddiaeth, a diau pe buasent wedi cynyg y fath delerau i'r Bauwyr yn y gynhadledd a gaed dwyddyn yn ol y buasai y cyfan drosodd y pryd hyny. Nis enillasom ddim drwy ein hystyfnigrwydd, ac y mae'r gadgyrch a barhawyd gan y Bluwyr wedi ei chyflawn gyfiawnhau yn y telerau teg a lwyddasant i gael oidiwrth Chamberlain yn y cytundeb presenol. Bellach, wedi sicrhau heddweh, y mae'r gwaith mawr ar ein hysgwyddau o uno y pleidiau yn Neheudir Affrica fel ag ym Mhry- dain ei hutian, a hyderwn y gwna pob un sydd wedi dioddef yn y gadgyrch bresenol geisio anghofio y gorphenol a byw er dyr- chafiant dynoliaeth yn y dyfodol a llwyddiant y wlad sydd bellach wedi sicrhau ei hamcan- ion yn Neheudir Affrica.
SWYDDFA PRIFYSGOL CYMRU.
SWYDDFA PRIFYSGOL CYMRU. Ar ol blynyddau o ddadleu, y mae Llys y Brifysgol o'r diwedd wedi penderfynu ar leol- iad Swyddfeydd Prifysgol Cymru. Ar hyn o bryd, y mae'r Swyddfa yn Aberhonddu, a'r rheswm paham yr aeth yno oedd, am fod tair neu ragor o drefi yng Nghymru yn awyddus iawn am gael yr anrhydedd o lochesu y swyddfa ganolog hon, ac nid oedd y Llys ar y dechreu yn ddigon cadarn ei farn i benodi yn mha le y dylid trefnu man canolog Addysg Uwchraddol Cymru. Pan ddaeth y mater o flaen yr awdurdodau yr wythnos ddiweddaf, gwelid ar unwaith fod teimladau cryfion yn bodoli dros y naill dref a'r llall, ond yr oedd gwahoddiad Caerdydd yn hynod o ddeniadol. Addawai Corphoraeth Caerdydd roddi tir pwrpasol i adeiladu y swyddfeydd arno yn rhad ac am ddim, a mwy na'r oil, yr oeddynt yn barod i gyfranu chwe' mil o bunau tuagat godi yr adeilad. Gan fod angen cynorthwy arianol ar y llys, yr oedd cael y fath wahoddiad yn anorchfygol bron, a'r canlyniad oedd i dref Caerdydd gael ei dewis fel y lleoliad swyddogol o hyn allan. Î Ar amryw ystyriaethau, y mae'r penodiad yn un doeth gan fod llawer o ragoriaethau yn perthyn i Gaerdydd fel tref fasnachol, a'r unig wrthwynebiad iddi yw y pellder anffodus a fydd rhwng y swyddfa a choleg Bangor a phe buasid wedi penodi ar Aberystwyth neu Llandrindod, ni fuasai mor anghyfleus, feallai, a thref Caerdydd. O'r ochr arall, gan mai gwaith trefniadol yn unig fydd gan y swyddfa i'w gyflawni y mae ei lleoliad ar y brif rheilffordd ac yn mhrif dref y Deheudir yn sicr o fod yn fantais yn y pen draw. Hyderwn, bellach, yr adeiledir swyddfeydd teilwng o'r Brifysgol ac o'r genedl ar ol yr holl ymladd a dadleu sydd wedi bod ar y pwnc.
MARWOLAETH MR. WILLIAM JONES,…
MARWOLAETH MR. WILLIAM JONES, BOW. —— Cymerodd yr amgylchiad galarus uchod le boreu dydd Gwener, Mai 30ain, yn ei bres- wylfod, yn 51, Gordon Road, Wanstead, i'r hwn le y symudasai y teulu ddiwedd Medi diweddaf. Bu Mr. Jones yn gwaelu yn hir, ond ni thybiai ef na'i gyfeillion fod y diwedd mor agos hyd o fewn ychydig wythnosau yn ol. Bydd ei ymadawiad yn golled fawr iawn i'r achos Methodistaidd yn Mile End Road, Yr oedd Ilwyddiant yr eglwys hon yn agos iawn at ei galon, ac aberthodd lawer er ei mwyn. Y mae y wedd lewyrchus sydd arni yn awr i'w phriodoli, i raddau helaeth, i'w ymdrechion a'i ffyddlondeb ef. Ymdrechodd ymdrech deg," gorffenodd ei yrfa," cad- wodd y ffydd," ac yn ddios y mae erbyn hyn yn gwisgo'r (l goron"—ucoron y bywyd -aniflanedig goron y gogoniant." Ganwyd Mr. Jones mewn tyddyn bychan yn ymyl Blaenpennal, sir Aberteifi, yn agos i 60 mlynedd yn ol. Daeth i Lundain pan yn 19 oed, ac am gyfnod bu yn gwasanaethu fel un o genhadon Cymreig y Genhadaeth Ddinesig. Wedi priodi, gadawodd y genhad- aeth, ac ymroddodd i fasnach. Gellir dyweyd am dano ei fod mewn modd nodedig wedi llwyddo i wneyd y goreu o'r ddiu fyd." Ni fu ei lwyddiant bydol yn rhwystr ond yn help iddo gyda chrefydd. Gwasanaethodd yr Achos Mawr fel blaenor doeth a medrus am 30 mlynedd-yn Poplar yn gyntaf, Stepney ar ol hyny, ac yn ddiweddaf oil yn Mile End Road. Duw pob diddanwch fyddo yn gysur ac yn nerth i'w briod oedranus a'i blant anwyl yn eu galar a'u tristwch. Cymerodd y gladd- eddedigaeth le prydnawn dydd Iau yn Abney Park Cemetery.
[No title]
Mae y Parch. W. Tudwal Williams, gwein- idog eglwys Anibynol nth Street New York, yn dod ar ymweliad a Chymru yn ystod y mis hwn, a Mrs. Williams gydag ef. Brodor a Abersoch yw Mr. Williams; cafodd ei ddysg yng ngholeg Anibynol y Bala, aeth i America tua ddeuddeng mlynedd yn ol, a bu yn un o'r gweinidogion mwyaf llwyddianus yno. Yn ddiweddar claddasant eu dau blentyn, ac afiach iawn yw y fam. Collod Cymry Lerpwl weinidog addawol arall yn ddiweddar ym mherson y Parch. S. Lloyd Jones, gweinidog y Bedyddwyr yn Edge Lane. Brodor o Caergybi oedd Mr. Jones, a gwr ieuanc 25ain mlwydd oed, hynod o addawol yn y weinidogaeth. Ymsefydlodd yn Lerpwl yn 1900, ac edrychid ym mlaen am dymor maith a llwyddianus o dan ei ofal, ond wele tra yr oedd yn ddydd fe fachludodd ei haul! Deallwn fod perthynasau y diweddar Barch Hugh Parry Thomas, Lerpwl, wedi pender- fynu cyflwyno ei lyfyrgell, yr hon sydd yn gasgliad gwerthfawr o weithiau duwinyddol ac eraill, i'w rhanu rhwng llyfrgelloedd Ysgol- ion Sul Eglwysi Park Road, Lerpwl, a Clifton Road, Birkenhead-y ddwy eglwys i ba rai y bu yn weinidog.