Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

UNDEB YR ANIBYNWYR CYMREIG…

[No title]

News
Cite
Share

Bu'r Brenin a'r Frenhines, a Ilu o urddas- olion y wlad, yn gwylio rhedegfeydd ceffylau y Derby dydd Mercher diweddaf, a chafwyd diwrnod urd.lasol iawn yn y lie. Fel y bu'r digwydd, diwrnod gwlyb iawn ydoedd, felly, nid oedd y dorf mor llawen ag arferol. Soniai rhai pobl ddechreu yr wythnos hon fod Mr. Samuel Smith, A.S., ar ymddiswyddo o ofal Seneddol oherwydd gwaeledd iechyd, ond ar ol ymholi a'r hen batriarch dywed nad oes sail i'r dywediad o gwbl. Y mae ei iechyd yn 11awer gwell, a hydera y bydd yn abl yn fuan i ddilyn ei orchwylion cyhoeddus fel cynt. Pan ofynwyd i Mr. Lloyd-George gan newyddiadurwr am ei farn ar araeth Ar- glwydd Rosebery, yn y Clwb Rhyddfrydol Cenedlaethol y dydd o'r blaen, dywedodd fod y gwr urddasol yn enwog am "wneuthur llawer o ragleni," ac yehwanegai," yr oedd yn araeth odidog. Buaswn yn canlyn Ar- glwydd Rosebery pe buasai yn arweinydd i'r blaid, canys yr wyf yn myned gyda'r blaid." Y mae argoelion y ceir undeb rhyddfrydol ar bwnc addysg wedi'r cyfan. Yr wythnos nesaf cynhelir cwrdd mawr yn y Queen's Hall, Llundain i drin y pwnc, a'r prif siaradwyr fydd Arglwydd Rosebery, Mr. Lloyd-George, Mr. Asquith a Dr. Clifford. Nis gellid wrth bedwar o ddynion mwy eithafol eu daliadau na'r Rhyddfrydwyr pybyr hyn. Y mae galwad arbenig am docynau i'r cyfarfod, a diau y bydd y lie yn orlawn. Yr ydym yn deall mai y gweinidog ieuainc addawol-y Parch. D. Jones-Evans, Tref- draeth-fydd yn gwasanaethu yn Eglwys Castle Street yn ystod gwyliau Mr. Williams. Bydd yn pregethu yno yfory-yn y boreu a'r hwyr. Mae Cymdeithas Cymru Fydd Llundain yn myn'd i ymdrin a'r Mesur Addysg yn y National Liberal Club nos Wener nesaf, Mehefin 13eg. Traddodir araeth gan Mr. William Jones, A.S., a bydd amryw o wyr enwog ereill yno yn dyweyd eu barn. Mae gwahoddiad i bob Cymro i fod yn bresenol. Pwy ddywed, bellach, nad yw'r Gymraeg o werth dim fel iaith fasnachol. Wele un o'r ffirms mwyaf yn cydnabod ei gwerth oherwydd ar ffenestri mawrion Mri. Chas. Baker a'u Cwmni, y dilladwyr enwog, ceir yr hysbysiad y "Siaredir Cymraeg." Wel, fe wyr y bobl Gymreig yn awr p'le i fyned am eu dillad, a He y gallant roddi eu cyfarwydd- iadau arbenig yn eu hiaith eu hunain. Da genym ddeall fod yr Archdderwydd Hwfa Mon yn graddol wella, a hydera y bydd yn alluog i fod yn bresenol yng ngwyl y Cor- oniad ddiwedd y mis hwn. Cyn ei gystudd presenol yr oedd yr Archdderwydd yn prysur baratoi cyfrol arall o'i weithiau i'r wasg, a gobeithio na fydd Cymru yn hir cyn cael mwynhau o ail gyfrol y gwr sydd wedi gwneyd cymaint dros ei lien a'i barddoniaeth.

Advertising