Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CYNGHERDD PENCERDD GWALIA

CYFARFOD UNDEBOL MERCHED Y…

News
Cite
Share

CYFARFOD UNDEBOL MERCHED Y DWYRAIN. Trwy garedigrwydd Mr. a Mrs. Rees, Johnson Mansions, West Kensington, cafwyd y cyfleusdra a'r modd i gynhal yr ail o gyfres Cyrddau Cyhoeddus y Chwiorydd," yn Shaftesbury Memorial Hall, Poplar, prydnawn dydd Llun diweddaf. Cyfranogwyd o wledd sylweddol, a mwyn- hawyd y danteithion darparedig yn fawr. Er yn brin o bethau'r byd hwn-llawer o honynt yn gwybod trwy brofiad llym beth yw byw ar ychydig bach o sylltau yn yr wythnos-eto yr oedd golwg hynod o drefnus ar ein chwior- ydd, ac ymfalchiem yn yr olwg arnynt. Ni chredai yr ymwelydd ar ei dro fod o dan yr agwedd lan a threfnus ddioddefiadau blin a dirgelaidd. Ond i mi, sydd yn wyb- yddus o'u hanes, nis gellaf beidio eu hedmyguj Mae yna lawer o'r ysbryd arwraidd yn cae ei arddangos. Y dydd o'r blaen yr oedd eich gohebydd yn taro ar Gymro anadnab- yddus i'r byd crefyddol Cymreig-ond rhaid addef ei fod yn agosach i'r nef na llawer sydd wedi eu hethol iddi gan ddynion. "Sut mae yn dod ymlaen efo chwi, R. J," meddem. Wel," atebai yntau, "mae fy nheulu wedi cynyddu yn ddiweddar." Sut hyny ?" meddwn, canys deallais nad oedd ganddo deulu o eiddo ei hun. Daeth yr ychwanegiad yn y modd hun :—Yr oedd tad a phedwar plentyn bach amddifad o fam yn byw yn rhan o'r ty lie yr ydym yn byw ynddo. Cymerwyd ef yn glaf a bu farw braidd yn sydyn, a gadawyd y rhai bach yn wylo am dad tyner-er yn hoff o'r ddiod ddamniol- yn wir hi a'i lladdodd." Beth wnawn ni i'r amddifaid bach ?' meddwn i wrth fy wraig. Ond, i dori'r ystori yn fyr, penderfynasom fabwysiadu y ped- war bach' yn blant i ni." A garech i mi dreio cael rhai o honynt i ryw gartref Cristionogol." "0 na, diolch i chwi. Os gwel Duw yn dda, mi ymladdaf am damaid iddynt; ac ni chant fyn'd o'm golwg." "Duw a'ch bendithio chwi," meddwn i wrtho. Dyma weithred ddysglaer o gariad pur. Diolch, mae R. J. yn ddirwestwr gonest. Tra yr edrychaf i wynebau yr ugeiniau mamau Cymreig sydd o fy mlaen, daw i'm meddwl ambell i hanes a digwyddiad taraw- iadol a ddaeth i'm rhan yn ystod fy ymwel- iadau ar hyd y blynyddau. Mae llawer o honynt yn rhy gysegredig i ymddangos i'r cyhoedd-ereill yn meddu ar y digrifol. Dacw fam yn cael ei gadael a chwech o blant bach yn y tylodi mwyaf-yr hyn yr aeth drwyddo nid oes ond Duw yn gwybod; ei gweddiau, ei ffydd yn Nuw fel Tad yr am- ddifaid a Barnwr y weddw. Ond ymroddodd a Ilanwa yn awr swydd bwysig, ac y mae ei phlant wedi cyrhaedd safleoedd da. Nid wyf yn cofio cartref mwy llwm erioed na chartref y weddw hon y pryd hyny. Aberthodd ei phriod ei fywyd a chysur ei deulu er mwyn y gwpan feddwol, Ond rhaid dod yn ol at y cwrdd a rhyw gyfeirio yn fyr at rai o'r per- sonau sydd o fy mlaen. Tua'r canol eistedda un sydd yn gallu siarad yn rhwydd mewn fiodaiT iaith. Treuliodd y rhan fwyaf o'i hoes ymysg tramoriaid yn Neheudir America. Siarada iaith yr Ysbaeniwr mor rhwydd a iaith ei mam. Dyma wers i'r rhai sydd yn cymeryd arnynt anghofio iaith Gwalia Wen ar ol bod yn Llundain am ychydig o fis- oedd. Gerllaw iddi hi eistedda un sydd a golwg braidd yn drist ami; gall ysgrifenu Ilythyr yn Gymraeg yn gywir, a chyda mwy o rwyddineb nac yn yr iaith faith. Y mae hi wedi treulio ei hoes yma ymysg y Saeson a thruan o honi-mae wedi myn'd trwy lif ddyfroedd o ofidiau. Y tu ol iddi hithau eitstedda un sydd wedi bod dair gwaith o dan operation yn un o'n ysbytai. Mae hi'n meddu gryn dipyn o'r awen, a bydd yn adrodd i mi, o dro i dro, ddarnau o'i gwaith ei hun. Eistedda tair o'm blaen oedd wedi ymddyr- ysu yn eu synwyrau drwy afiechyd a threialon dipyn amser yn ol. Nis gadawyd hwy yn y cyflwr peenus hwnw, Ond rhaid i mi atal gan ddiolch fy mod wedi cael y fraint o fod yn gysurydd i'm chwiorydd anwyl, ond an- ffortunus. Yr oedd y cwrdd ar ol y te yn llawn o'r hyn sydd yn codi dyn uwchlaw pethau amser ac i anghofio ein helyntion. Yn absenoldeb Mrs Rees, West Kensington, cymerwyd y Ilyw- yddiaeth gan un sydd wedi anwylo ei hun i'n chwiorydd, sef Mrs. Phillips, Bro Dawel, Harrow. Rhoddodd allan i ganu yn hen emyn sydd yn wir felus i'r pererinion, 0 Fryniau Caersalem," &c. Gweddiwyd yn afaelgar gan y Cenhadwr Harries, a dywed- odd y llywyddes ychydig eiriau oeddynt yn dangos ei chalon. Canwyd gan Mrs. Dr. Lloyd Williams yn hynod o effeithiol. Mae y geiriau "God knoweth all" yn beraidd swnio yn ein clustiau eto. Anerchiad llawn o deimlad Iesu fel Cyfaill" gan y Parch. D. Oliver, Mile End, oedd y nesaf a dilynwyd ef gyda'r "Holy City gan Miss Annie Pierce yn rymus. Galwyd wedyn ar Myfanwy Meir- ion-yr hon a ddywedodd ychydig eiriau oedd yn gafael yn ein calonau, ar wneyd Heddwch mewn pryd gyda golwg ar eisieu ein henaid." Mae ei gwyneb nefolaidd yn sirioli ein calon. Canwyd wedyn gan Mrs. Roberts, "Rest in the Lord" yn dda dros ben. Yr oedd y pwyslais a roddai ar y geiriau Wait patiently yn effeithiol a tharawiadol. Dilyn- wyd hi gan ei phriod, y Parch. Richard Roberts ar Afael yr Iesu yn ei blant," a chanwyd wed'yn gan Mr. Armon Jones, R.A.M., Yr Iesu wedi myn'd o'm blaen." (Da genym ddeall fod ein cyfaill wedi ei ddewis i ganu y solo yng nghyfarfod y coroniad yn y City Temple). Terfynwyd trwy gyd-ganu yr Awelon o Galfaria fryn," a gweddi gan Myfanwy Meirion. Hawdd gall y darllenydd amgyffred ein teimladau. Yr Arglwydd a dalo i'r cyfeillion am ddod o'r gorllewin i'r dwyrain i'n cysuro a'n calonogi i ddal ymlaen. Cyfeiriodd y Cenhadwr R. S. Williams at garedigrwydd Mr. a. Mrs. Rees, West Ken- sington, yn rhoddi y wledd i ni, a diolchid yn gynes iddynt. GOHEBYDD NEILLDUOL.

[No title]

UWCH BEDD BABAN.