Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CYNGHERDD PENCERDD GWALIA

News
Cite
Share

CYNGHERDD PENCERDD GWALIA (Telynor y Brenin). Mr. Go!—Aethum i'r cyngherdd uchod prydnawn Sadwrn diweddaf-yr hwn a gyn- baliwyd yn St. James's Hall—a chefais fwyn- bad mawr yrddo. Yr oeddwn wedi clywed son yn flaenorol am delyncresau Mr. John Thomas-eu bod yn wir werth eu clywed yn chwareu ar y tarnau; ac, yn sicr, ni chefais fy siomi—eithr, ) n hytrach, fy synu, gan mor thagcrol oeddynt. Pan gyrhaeddais i y neuadd yr oedd y telynoresau yn dechreu ar yr wyl gyda Bardic Fantasia (John Thomas); ac, yn wir i chwi, ni chlywais ddim byd erioed mwy swynol a nefolaidd na'r perfTormiad hwn ar y telynau pan yr oeddwn yn gwneyd fy myn- ediad i mewn drwy y drw s. Safais am foment, gan edrych yn syn i gyfeiriad y llwyfan-a gwelwn y rhianod teg yn eu gynau gwynion, a phob un a'i thelyn aur, a'r Pencerdd yn eu barwain. O Gymru anwyl I" meddai hen Gymro wrth fy ochr, "Pa beth yw hyn —ai argylion o'r nefoedd ydynt ?" A chyn gynted a bed y telynau wedi tewi gyda'r darn agoriadol ymddangosai yr hen frawd fel pe wedi gwibio ar adenydd dychymyg i fan dawel ei enedigaeth yn Ngwlad y Delyn, oblegid, gan sychu'r chwys oddiar ei dalcen a'r deigryn gloyw oedd ar ei rudd, dywedai mewn Ilais isel, Mor o gan yw ei henw hi." Os oes is haul offeryn cerdd Yn nwylaw pencerdd pynciol, Cyffelyb i'r beroriaeth fry Y delyn sy' debygol; Mae son am dani wrth ei llais Yn difa dyfais diafol." Yn ail, caed Morfa Rhuddlan," gan Miss Margaret Thomas. I Gymro pur, wrth gwrs, nid oes dim ond yr hen eiriau Cymreig a dal gyda'r alaw hon ond geiriau Seisnig a gaed ar yr achlysur hwn, er hyny, yr oedd y dad- ganiad yn dda. Yn nesaf daeth cor merched y "Kymrie" (23 mewn nifer) ymlaen, o dan arweiniad gofalus Miss Frances Rees, a chan- esant Sweet and Low" (Barnby) yn rhag- orol o dda; ac yr oeddynt hwythau yn eu gynau gwynion ac yn addurn i'r lie. Yna daeth y Pencerdd i'r llwyfan i chwareu unawd ar ei delyn; ac yr oedd bron a gwneyd iddi siarad Testyn ei berfformiad oedd Echoes of a waterfall," o'i waith ei hun. Yr oedd ei fysedd yn rhedeg ar y tannau mor sionc ag oenig yn ymbrancio ar y doldir. Yn nesaf caed can o waith y telynor gan Mr. Gwilyn Richards, yn effeithiol; ac wedi hyny caed p:syn tlws o waith Rossini gan y telynoresau, ac yna gan gan Miss Margaret Llewellyn yn swynol iawn; ac ar ei hoi hithau cododd cor y merched eto i ganu Llwyn Onn." Canasant heb gyfeiliant, ac yr oedd yn Ilawn peror- iaeth felus. Bu raid i'r genocl ail-gan, wrth gwrs, y tro hwn. Ond mae'r heniaith yn y tir A'r alawon hen yn fyw." Yn nesaf daeth y baritone, Mr. Emlyn Davies, gan ganu can Seisneg o waith y Pencerdd. Cafodd ail-alwad, ac atebodd yntau, fel Cymro, gyda Rhyfelgyrch Cadben Morgan,' a chafodd dderbyniad calonog am wneyd byny. Ar ei ol ef caed Coronation March (John Thomas) ar y telynau, a bu raid iddynt ail-chwareu yr ymdeithgan dlws hon. Yna caed can Signorina Giulia Ravogli, a bu raid iddi aii-ganu ac wedi hyny Yr Haf gan gor y merched, ac yr oeddynt yn rhagorol y tro hwn eto. Dyddorol iawn oedd y ddeuawd delynol gan Miss Gwennie Mason a John Thomas; a derbyniol iawn oedd Y Ferch o'r Seer gan Mr. Dyfed Lewys. Yna daeth y telynau eto gyda dernyn o waith Rossini yn dlws iawn. Wedi hyny, Y Fam a'i Baban," yn ddymunol iawn, gan Miss Kelyn Williams. Yna daeth y Pencerdd ei hun i'r Ilwyfan gan «hwareu Bugeilio'r gwenith gwyn," 11 Dafydd y Gareg Wen" a "Clychau Aberdyfia dyma un o oreu-bethau'r cyngherdd. 'Roedd y telynor a'i holl enaid yn ei delyn y tro hwn a phan yn chwareu Dafydd y Garreg Wen," yr oeddwn yn teimlo pe fel bai "Defydd ei hun yn yr wyl. Yr oedd yn Tynu mel o'r tannau m&n." Gyda'r Clychau," hefyd, yr cedd yn dlws ac ysgafn fel yr awel. Efe cedd yn cyfeilio i'r cantorion ar ei delyn ac yr oedd ei gyfeil- iant i'r hen alawon Cymreig yn brydferth iawn yn wir. Mae'r hen Gymraeg a'r delyn fwyn Yn cydymddwyn yn ddoniol." Ar ol hyn caed 11 Y 'Deryn Pur gan gor y merched, ac yr oedd pob un yn canu fel 'deryn pur. Y mae Miss Frances Rees i'w llongyfarch ar lwyddiant ei chor peraidd ac yn sicr y mae y seindorf delynol yn glod i Mr. John Thomas, a gwledd i galon dyn oedd bod yn ei gyngherdd yn swn y delyn a'r Gymraeg. Diweddwyd yr wyl gydag ym- deithgan ar y telynau. ALAWYDD.

CYFARFOD UNDEBOL MERCHED Y…

[No title]

UWCH BEDD BABAN.