Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

r BYD A'R BETTWS.

News
Cite
Share

r BYD A'R BETTWS. HEDDWCH! Dyna'r newydd hapus a led- aenwyd drwy wledydd cred yr wythnos hon. Mae'r cri am lwyr ddifodiad y Bauwyr wedi ei anghofio, a chytunwyd 6, hwy fel pe yn genedl gref wedi'r cyfan. Yr oedd Archdderwydd Cymru gyda'r cyntaf i anfon ei longyfarchiadau i'r Brenin ar derfyn y rhyfel. Bellach, ni fydd angen am i Hwfa ofyn A oes heddwch ?" Rhoddir haner can' mil o bunau i Arglwydd Kitchener am ei waith yn terfynu y rhyfel yn Affrica. Fe gafodd Roberts gan" mil am ei waith ef. Bydd mwy o hwyl a rialtwch bellach ynglyn a choroniad y Brenin, a cha'r wlad amser i wisgo gwynebpryd llawen ar ol y misoedd o bryder y bu ynddynt hyd yn awr. Yn ol pob argoelion bydd teitlau ac anrheg- ion brenhinol yn lied gyffredin ar adeg y coroniad. Sonir y daw rhai i Gymru hefyd. Mae'r Llywodraeth yn benderfynol o lynu wrth y dreth newydd ar fara, er fod y rhyfel wedi ei orphen, ond yn sicr ni fydd y wlad yn rhyw hapus iawn i dderbyn y baich ychwan- egol ac anghyfiawn hwn. Nid yw gyrfa'r Bil Addysg drwy y Ty i fod yn rhyw esmwyth iawn. Y mae canoedd o welliantau eisoes ar y rhaglen, ac addewir amryw o ddadleuon poeth ar wahanol adranau ohono. Dygir 3000 o filwyr o faes y gad yn Affrica i fod yn bresenol ar adeg coroniad y Brenin. Hysbysir y bydd iddynt ymddangos yn yr orymdaith yn y gwisgoedd bratiog sydd gan- ddynt ar hyn o bryd ar y maes. Cwyna Ymneillduwyr Cymru fod Mesur Addysg y Llywodraeth yn anhegwch a'r ysgolion Byrddol; ond y mae Esgob Llanelwy ar daith trwy Ogledd Cymru y dyddiau hyn i ddangos ei ansicrwydd o du yr Eglwyswyr. Dywed ef y dylasai fod yn fwy eglwysig nag ydyw. Wrth gwrs, nid yw hyn ond ffug- rhywbeth i daflu mwg i lygaid yr Ymneill- duwyr. i

Advertising