Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

LLITH Y CRWYDRYN.

News
Cite
Share

LLITH Y CRWYDRYN. x. ABERYSTWYH, CEREDIGION. Tref borthladdol gynyddol, loyw, yn sefyll gerllaw aberiad afonydd y Rheidiol a'r Ys- twyth ar ben dwyreiniol beisfor Aberteifi, yw Aberystwyth. Enw cyntefig y lie oedd Llan- badarn Gaerog," am ei bod ym mhlwyf Llanbadarnfawr, a'i bod yn amddiffynfa fllwrol gadarn er yn foreu. Safai hen bentref Aber- ystwyth yr adeg hono gryn encyd i'r gollewin oddiwrth y fan lie y saif Aberystwyth heddyw. Gorchuddir y lie hwnw er's blyn- yddoedd gan y mor. Aberai yr afon Rheidiol yr adeg hono i'r afon Ystwyth gan arllwys yn un afon gref i'r mor wrth droed pentref hen- afol Aberystwyth. Cwblchwalwyd y pentref hwnw gan gyn- ddaredd trachwantus tonau yr eigion troch- ionog gan feddianu yr oil o'r llanerch bryd- ferth lonydd. Chwyfia y mor fanerau gwynion buddugoliaeth mewn crochlef orfol- eddus ar y diriogaeth er hyny hyd yn awr. Cododd y trefwyr fur cadarngryf yn ddiweddar er atal ymchwydd tonau y mor i chwalu a meddianu y dref bresenol fel hen bentref Aberystwyth gynt. Tardda y gair Aber neu Aper, o ber, Lladin fero; Groeg pherd; Seisnaeg bear; Saxonaeg beran, beoran Gothaeg bairan a Sanscritaeg bhri, i gario. Cyfeiria at y swm dyfroedd a gerir gan afon i lyn, afon arall, neu for. Car agos i aber yw y gair Gwydd- elig inver a'r Noman French haver, traeth. Deillia yr enw Ystwyth o'r blaenddodyn ys a twyth yn golygu hydwythed, cyflymder, ac adlamiad. Ystyr yr enw Ystwyth felly ydyw hyblyg, plygadwy, hydro-yr hyn sydd yn -dra nodweddiadol o ddyfroedd a llwybr Iroellog, dolenog, yr afon hon. Ni ddylasai neb gymeryd yr enw Ystwyth arno heb ei fod yn enwog am ei hyblygrwydd. Nid mor hawdd yw esbonio enw y Rheidiol. Dichon mai tarddiad y gair yw rhaidd, rheidd- iau, pelydrau, piccellau; yna Bheiddiol yn golygu dyfroedd disglaer yn rhuthro megis piccell neu wayw. Ceir afonydd yn Lloegr o'r enw Dart a'r Arrow, ac y mae yr afon Rheiddiol yng Nghymru yn golygu gwayw. Ond dichon mai Eidiol, sef bywiog, yw enw cywir yr afon. Dyma olion hen gastell Aberystwyth. Cod- wyd ef gyntaf yn y flwyddyn 1109 gan Gilbert de Strongbow-mab Richard de Clare, ar- lwydd Normanaidd talaethCeredigion. Cyn- llwynodd mintai o Gymry yng Nghoed Gronw," ym Mynwy, a lladdasant Richard; yna cododd ei fab, Gilbert, y castell hwn er amddiffyn y tiroedd a'r meddianau oeddynt wedi ladrata ychydig cyn hyny drwy ganiatad Harri'r I oddiar Cadwgan ab Bleddyn ab Cynfryn, tywysog Powys. Ceisiodd Gruffydd ab Rhys, yr hwn a wnaethai y fath rymusder yn erbyn y Normaniaid Iladronllyd yng ngwlad Myrddin, i enill castell Aberystwyth ac i ddinystrio iau haiarnaidd y goresgynwyr hyny yng Nheredigion. Wedi concro a meddianu castell Dyffryn-Peithyll a'r wlad o gylch, efe a wersyllodd yn y Glascrug ar ochr ddwyreiniol Llanbadarnfawr, gan arfaethu ymosod ar gasteIl Aberystwyth boreu dranoeth. Deallodd ceidwad castell Aberystwyth ei fwr- iad, ac anfonodd ar unwaith i gastell Ystrad Meurig am gymorth milwrol; daeth y milwyr yn y nos heb yn wybod i Gruffydd i gastell Aberystwyth. Gwersyllodd Gruffydd a'i wyr yn Ystrad Antaron, gyferbyn a chastell Aber- ystwyth. Bu y Cymry gwladgar yn rhy hyfion yr adeg hono, lladdwyd llawer o hon- ynt rhwng pont y Rheidiol a'r castell, a ffodd Gruffydd a'r lleill o'r ardal. Yn y flwyddyn 1135 daeth meibion Gruffydd ab Cynan, sef Owain Gwynedd a Cadwaladr ei frawd gyda byddin gref i ymosod ar gastell Aberystwyth, a chawsant fuddugoliaeth gyf- lawn ar y Normaniaid a'r Saxoniaid oeddynt yn preswylio yn yr ardal; ffodd rhai o hon- ynt mewn Hongau i Loegr, a lladdwyd pob un oedd ar ol fel na adawyd un o honynt. Chwalwyd castell Aberystwyth gan Owain a'i wyr y pryd hwnw. Yn fuan wedi hyny pricdcdd CadwaIadr- brawd Owain—ag Alice, merch Richard de Clare, arglwydd Normanaidd Ceredigion, ac ail-adeiladodd gastell Aberystwyth a gwnaeth ef yn gartref iddo ei hun. Ond yn 1142 daeth Owain Gwynedd yn erbyn y castell hwn eto ynaclos cyndynrwydd Cadwaladr ei frawd. Yr oedd Owain y pryd hwnw wedi ei ddyrchafu yn arglwydd Gogledd Cymru, ac efe a losgodd yn ulw gastell Aberystwyth. Wedi hyny, cafodd y castell hwn ei adeiladu a'i ddinystrio yn fynych yn y rhyfeloedd dig fu rhwng y tywysogion Cymreig a'u gilydd ac hefyd yn y brwydrau gwaedlyd a ymladd- wyd rhwng y Cymry a'r Saeson. Dywedir i Rhys ab Gruffydd ddinystrio castell Aber- Rheidiol yn 1164 pan yn ymosod ar feddianau Iarll Caerloyw, ac y mae yn bosibl mai yr un yw hwnw a chastell Aberystwyth, er y tybia rhai fod castell ar lan y Rheidiol gerllaw i gastell Aberystwyth. Bu y penaeth Maelgwn o'r deheubarth yn llwyddianus yn ei ryfeloedd yn y rhan hon o'r wlad, a chododd gastell Aberystwyth eto er cynal ei awdurdod i fyny yn y dywysogaeth. Ond deallodd fod Llywelyn-tywysog Gogledd Cymru-yn dyfod i ymosod arno ac na allai ei wrthsefyll, yna dinystriodd y castell a ffodd yn 1207. Adgyweiriodd Llywelyn y castell drachefn, a gosododd filwyr i'w gadw ac i ddal meddiant yn yr holl diroedd o'r Dyfi i'r Ayron. Rhoddodd Llywelyn eto y lie i fyny i Rhys ac Owain-meibion Gruffydd ab Rhys, neiaint Maelgwn. Trwy genhadaeth Ffoulc, Is, larll Caerdydd, ac un o arglwyddi y cyffin- diroedd, gorfododd loan, brenin Lloegr, i Rhys ac Owain ei gydnabod ef fel eu har- glwydd; cefnogai Maelgwn a'i frawd Rhys Fychan y cais gormesol hwn. Gan na fedrai y Cymry ei ddal yn erbyn y Saeson bu raid iddynt roddi y cwbl i fyny i'r Brenin loan. Cadarnhaodd FfouJc werthyroedd y castell a gosododd filwyr i'w gadw i frenin Lloegr. Pan welodd Maelgwn a Rhys Fychan nad oeddent hwy yn cael y lie a'r tiroedd gan y brenin, gwnaethant ryfel yn erbyn y castell, ac a'i dinystriasiant hyd y Ilawr wedi brwydr galed. Cawn i Rhys Fychan, wedi ei orchfygu gan Iarll Ffoulc yn sir Gaerfyrddin, ffoi gyda'i wraig a'i blant a chael noddfa gyda Maelgwn yng nghastell Aberystwyth yn 1214. Yn nheyrnasiad Harri'r III, yr oedd y castell yn meddiant Rhys ab Gruffydd. Unodd ef a phlaid Iarll Penfro yn 1223, a chymerodd Llywelyn ab Iorwerth, tywysog Gwynedd, feddiant o gastell Aberystwyth a'r holl dir- oedd perthynol iddo. Ond trwy orchymyn y Brenin Harri, cafodd Llywelyn y cwbl yn ol drachefn. Cawn fod y castell yn meddiant Llywelyn ab Gruffydd, tywysog Gogledd Cymru, yn amser teyrnasiad Iorwerth I. Ond dygwyd ef oddi- arno gan Gruffydd ab Meredydd ab Rhys mewn rhyfel gwaedlyd. Daeth i feddiant y Saeson 1n fuan wedi hyny. Ail-adeiladodd Iorwerth ef yn 1277 a gosododd warchodlu i'w gadw. Parodd gormes swyddogion y Brenin Iorwerth ar y Cymry o amgylch i Rhys ab Maelgwn a Gruffydd ab Meredydd arwain y Cymry i ymosod ar y castell'eto a'i feddianu drwy frwydrau ofnadwy. Ail-fedd- ianodd milwyr y brenin ef yn fuan wedi hyny drachefn. Ymosodwyd arno eto gan Owain Glyndyfr- dwy, yn 1404, a meddianodd ef oddiwrth filwyr Harri'r IV; ac wedi ei ddal yn ei feddiant am dair blynedd, rhoddodd ef i fyny ar delerau arbenig i Harri. Adfeddianwyd ef eto gan Owain Glyndyfrdwy a'i wyr, ond daeth i feddiant y Saeson eto yn 1408, ac yn eu Haw hwy y mae wedi bod o hyny hyd heddyw. Penododd Harri'r VIII William Herbert-Iarll Penfro—yn llywydd castell a thref Aberystwyth yn y 35 mlynedd o'i deyrn- asiad. Daeth Mr. Bushel i reoli mwnau y lly wodraeth yng Ngheredigion ar ol Syr Hugh Canolydref, yr hwn trwy ganiatad Brenin Siarl I, a osododd i fyny fathiant yng nghas- tell Aberystwyth er bathu arian i dalu cyflogao y gweithwyr yn y mwngloddiau. Bu ymosod- iad nerthol ar y castell yn ystod y cynhyrf- iadau dan deyrnasiad Tywysog Cymru, ond plaid y brenin oedd drechaf o hyd. Yn y flwyddyn 1647, meddianodd plaid y Senedd y lie oddiar blaid y brenin, ac y mae y castell yn graddol adfeilio oddiar hyny hyd heddyw. Y" mae y mor yn cloddio dan seiliau y castell yn gyflym gobeithio y deil y mur i atal ei ddifrod. Dyma dy y Brifysgol I Tafarndy y bwriedid: i hwn fod ar y cyntaf, ond wedi ei buro trwy dan dyma fe yn gartrefle gwybodaeth i'r rhelyw o'r llwythau Celtaidd sydd o gylchf ac ereill sydd yn sychedig am wybodaeth y gwirionedd. Athraw cyntaf y sefydliad oedd y Parch. Thomas Charles Edwards, M.A.; D.D.; enw fydd yn anwyl gan genedl y Cymry tra pery tonau y mor i olchi glanau y wlad. Talodd am addysg degau o fechgyn oeddynt yn rhy dylodion i dalu am eu hadd- ysg eu hunain. Dyn fel efe allasai lefaru ac ysgrifenu ar Y Duw-ddyn." Wyla Cymru; heddyw yn hidl ar ei ol! Mae yr Athraw Roberts, M.A., yn nodedig o lwyddianus yma, ac yn anwyl gan y genedl Gymreig. Gweith- iodd Mr. Stephen Evans ac Arglwydd Aber- dar yn egniol o blaid y Brifysgol hoa- Llwydded byth yw dymuniad goreu carwyr ein gwlad, ein iaith, a'n cenedl. Nid yw Eglwys Loegr yn y lie yn hynachna 1787 er mai i Michael Sant y mae wedi ei chyflwyno. Saif ar dir y castell ac y mae wedi ei gwaddoli a £ 600 o rodd freninol a £ 400 o rodd seneddol = mil o bunau o arian y bobl wrth gwrs. Yn mynwent yr eglwys hon y cafodd yr enwog Azariah Shadrach le bedd- rod, ac y mae maen yn dangos y man y gorwedda. Mab ydoedd i Henri ac Ann Shadrach o blwyf y Nefern, sir Benfro Perthynas iddo ef oedd y Shadrach fu yn offeiriad yn Llanllawer a Llannerchllwydog ac a gladdwyd yn Llanllawer rai blynyddalt yn ol; merch i hwnw yw Mrs. Thomas priod y Cadben W. Thomas, West End, Trefdraeth, Yn amaethdy Carngowyl gerllaw Rhos-y- Caerau ac Wdig y dechreuodd Azariah Shadrach bregethu. Bu yn cadw ysgol yn yr Hirnant, rhwng Llanuwchllyn a'r Bala. Urdd- wyd ef yn weinidog i Llanrwst a Threfriw yn niwedd 1802, ac yn Tachwedd 1806 aeth i Dalybont a Llanbadarn Fawr. Efe fu yn offeryn, yn benaf, i gychwyn achos cynulleid- faol yn Aberystwyth; llogodd le yma r bregethu yn 1810, ac agorodd leoedd ereill yn 1816, 1818 ac 1821. Teithiodd lawer, pre- gethodd yn ddiorphwys ysgrifenodd yn agos i ddeg-ar-hugain o gyfrolau, y rhai oeddent: yn fras-linelliad o bregethau, a nifer luosog o hymnau ynddynt, y rhai a gawsant gylchred- I iad mawr. Cododd ei fab Elicim L. Shadrach; i'r weinidogaeth Seisnig, a bu farw lonawr 18, 1844. Dyma ei feddrod diaddurn yn mynwent St. Michael ger castell Aberystwyth. Y Parch. Job Miles o Fro Morganwg sydd yn olynydd iddo yma er Ionawr 12, 1873, ac y mae yn bregethwr rhagorol. Yn y dref hon y mae y Parch. Thomas Lefi, golygydd poblogaidd Trysorfa'r Plant wedi bod yn gweidogaethu er's biynyddoedd" ac y mae yn awr yn pregethu yn well nag y gwnaeth drwy ei oes lafurfawr. Bydd fyw yn hen yr hen arwr dirwestol anwyl r Brawd galluog iawn gan y Bedyddwyr yw y Parch. A Morris yn y dref-y mae efe a'r Parch. T. E* Williams wedi gwneyd eu rhan yma gyda phob mudiad daionus am flynyddoedd. Nid oes dim o olion y muriau oedd o gylcfe y dref i'w gweled yn awr. Safai y "Porth. Tywyll Mawr" gynt ar ffordd Llanbadarn, Fawr, y porth arall gerllaw y bont, a'r Hal! ger capel y Bedyddwyr. Ceir meini heirddiorb a gwerthfawr ar y traeth, ac y mae yma ym- drochleoedd cyfleus i ymwelwyr. Tyra can- oedd o bobl i'r He yn yr haf, gobeithio na, wnant Saboth tawel Cymru fel Saboth y Cyfandir. Digon o nerth crefyddol yn nhrig- olion y dref i roddi t6n foesol i'r ymwelwyr" fydd yn ddiogelwch rhag yr aflwydd. Peidiezr