Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Y PWLPUD A BRWYDR RHYDDID.

Y GOBEITHLU.

News
Cite
Share

Y GOBEITHLU. Hen blentyn dirwest loew Yw byddin Gobaith Lu, A charia yn ei henw Ei chalon fawr i ni; Ar blygion ei baneri Ceir arwyddeiriau moes, A phregeth fyw sydd ganddi I feddwon yn mhob oes. Aelodau'r lan gymdeithas 'Ynt ie'nctyd hawddgar, pur, Saneteiddiol egin addas I dyfu yn ein tir Tafodau glan eu gwisgi Lefarant grefydd fyw, A'u bywyd sy'n argoeli Mawr baroh i enw Duw. Caniadau sangtaidd Scion Sy'n fawl yng ngenau hon, A'i diod yw dwr ffynon 0 groth y laswerdd fron; Yn llewyrch ar ein llwybrau Mae heulwen moes a rhin, Yn gwasgar ei belydrau Ar gyflwr meddwol ddyn. Yn selog ei hawyddfryd, Fe lwybra'r fyddin ddrud, A chreigiau anllad celyd A chwal a'i gordd 0 hyd Ei llygaid gyniweiria I gelloedd drwg a'u dru, A r afrad a wareda 0 garchar blys i ni. Nod addysg ei harwyddion A gerfia'i llaw ei hun, Mewn bywyd 0 ymdrechion I buro cyflwr dyn Fel gloewa'r afon ini, 'R.ydwely'r graian man, Y gloewa y Gobeithlu Y byd wrth deithio 'mlaen. Hi draetha'n iaith ei hunan, Wir riniau sobrwydd glan, Hi ddengys farn y cwpan A'i ogwydd tost i dan Fel clyma'r eiddew gwyrddwawr Am wisg y derw ir, -Gafaela'i chalon glodfawr Mewn serch am blant y tir. Gynleisydd," Ystradgynlais, yn Llais Llafur."

[No title]

[No title]