Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Y PWLPUD A BRWYDR RHYDDID.

News
Cite
Share

Y PWLPUD A BRWYDR RHYDDID. Yr ydym yn ofni weithiau nad yw llais y pwlpud mor ddylanwadol yng Nghymru heddyw ag y bu yn y blynyddau gynt. Yn sicr, y mae rhyw ddiffyg yn rhywle, naill ai yn ein harweinwyr crefyddol neu yn y bobl a broffesant fod yn ffyddlon i egwyddorion crefydd, onide buasai canlyniadau pwysicach i'r penderfyniadau sydd wedi eu datgan ar weithredoedd diweddar y Llywodraeth yn gosod beichiau llethol ar Ryddfrydwyr ac Ymneillduwyr ein gwlad. Hyd yma, nid oes dim wedi ei wneyd er dangos i'r Llywodraeth ein bod ni fel cenedl yn anghymeradwyo y Mesurau anheg sydd o flaen y Ty, ac oni wneir rhywbeth tra sylweddol, ofnwn mai mudion fydd ein cynrychiolwyr Seneddol pan "ddadleuir y Mesurau ar lawr Ty'r Cyffredin. Gwaith hawdd yw pasio penderfyniadau mewn cynhadleddau crefyddol pan y mae dau neu dri o gewri yr enwad-y gwleidyddwyr pregethwrol-yn siarad ar y mater, ond peth arall yw argyhoeddi pwlpud cyfan o'r cam- wri sydd ger bron a'r diffyg ar hyn o bryd yw diffyg manteision addysg ar ran y pre- gethwr cyffredin. Y mae yn rhaid addef fod ein harweinwyr gwledig yn cael eu hesgeuluso yn druenus yn hyn o beth. Ychydig yw nifer y papyrau a ddarllenir ganddynt. Prin iawn yw'r amser ganddynt i fyned i ymgydnabyddu a gweithiau mwyaf diweddar ein hathrawon gwleidyddol, ac mae'r cyflogau mor fychain fel nas caniateir iddynt gael eu diwallu a chyflawnder o'r llenyddiaeth oreu ar bynciau • cyffredin y dydd. Dynion un llyfr ydynt, ac yn ami iawn dynion o un gwelediad hefyd. Ein cyfundrefnau crefyddol sydd gyfrifol am hyn, a hyderwn y gwelir y dydd yn fuan pryd y trefnir gwell cadgyrchoedd yng Nghymru dros ryddid yn y dyfodol nag a welir ar hyn o bryd. J I fod o ddylanwad dylasai pob pregethwr Ymneillduol yng Nghymru heddyw fod ar faes y rhyfel yn erbyn y beichiau a fwriedir osod ar Ymneillduaeth. Ofer yw hepian a chwyno fel pe yn amhosibl eu hosgoi. Y mae'r byd wedi gweled y gallai fyned ymlaen drwy bleidio rhyddid, a thra yn mwynhau y rhyddid hwnw y gwnaeth fwyaf o waith dros wareiddiad. Ond os boddlonwn ar hyn o bryd i ddwyn beichiau llethol y canol-oesoedd _yna ni ddaw ond blinder i'n rhan. Ar bob amgylchiad yn flaenorol, y mae'r wlad wedi dilyn arweiniad doeth ein pregethwyr o blaid uniondeb a rhyddid, ac y maent hwythau wedi bod yn arweinwyr digon craff hefyd. Ond os na chawn yr arweiniad hwnw yn awr, pryd y mae'r fath alwad am dano yna nid oes ond un ateb i'w roddi, sef nad yw'r pwlpud mor ddylanwadol yn awr ag ydoedd yn nyddiau ein Tadau. Pan sylweddola'r wlad hynyna, y pwlpud ei hunan fydd y dioddefwr penaf. Nos Wener 23ain, bu Arglwydd Rosebery yn siarad yn Clwb Rhyddfrydol Cenedlaethol yn Llundain. Ar ol cyfeirio at Mr. Chamber- lain, a gwneyd gwawd o'i ddywediad mai Undebwr heb yn wybod oedd ef,' sylwodd ar safle y ddwy blaid wleidyddol. Yn ddilynol, cyfeiriodd at achos Cartwright, y Mesur Addysg, y dreth ar yd, a'r sefyllfa yr Neheu- dir Affrica, a dywedodd fod cyfleusdra y blaid Rhyddfrydol wedi dyfod, ac annogodd iddynt ymuno a'u gilydd. Nos Sadwrn 23ain, bu Syr Henry Campbell- Bannerman yn anerch cyfarfod yn Darlington mewn cysylltiad a chyfarfodydd blynyddol Cynghrair Rhyddfrydig Northumberland a Durham. Wrth son am y drafodaeth hedd- wch, dywedodd fod yn ddyled arnynt, yng ngwyneb sefyllfa mor bwysig, ymattal rhag dyweyd llawer. Parthed araeth Mr. Chamberlain yn Birmingham, dro'nol, athrod celwyddog oedd dyweyd ei fod ef (Syr Henry) a'r blaid Ryddfrydig wedi pardduo'r milwyr Prydeinig a chalonogi'r Boers. Yna, cyfeir- iodd Syr Henry at gynydd treuliau'r wlad, ac at y trethi, condernniodd y doll ar fara, a dywedodd fod y blaid Rhyddfrydig yn bender- fynol o ddal ati i wrthwynebu Mesur Addysg y Llywodraeth. Cynhaliwyd cyfatfod o Gynghor Coleg Aberystwyth yn y Coleg ddydd Gwener y 23ain. Penodwyd cynrychiolwyr i fyned i j gynhadledd a gynhelir yn fuan ar y pwnc o sefydlu fferm mewn cysylltiad a'r Coleg er gwneyd arbrofion ar amaethu. Penodwyd j Mr. D„ D. Williams, darli^hydd ar amaeth- yddiaeth yn y coleg, i ddilyn y ddirprwyaeth, yr hon, ar ran siroedd Aberteifi, Penfro, a Chaerfyrddin, a ymwel a'r Ynys Werdd i'r pwrpas o astudio amaethyddiaeth yno. Bu ystormydd dychrynllyd yn yr Eidal tua'r Sulgwyn. Dinystriwyd tai mewn amryw dre- fydd. Collwyd amryw o fywydau, a niweid- iwyd llawer. Gwnaed anrhaith mawr ar y cnydau yn y parthau gwledig. Lladdwyd Miss Edith Brookes, geneth yn arfer disgyn o uchelderau yr awyrgylch o awyren, neu parachutist," yn Sheffield y dydd o'r blaen. Achos y ddamwain ydoedd nad ymagorodd y parachute pan yr oedd j hi yn disgyn i'r ddaear. Yr oedd chwaer J iddi wedi cyflawni y pranc rhyfygus yn llwydd- ianus y diwrnod blaenorol, a chymeryd lie y j chwaer hono a wnaethai hithau y diwrnod hwn. Fel yr hysbyswyd eisioes, anrheithiwyd j tref Goliad, Texas, ddechreu yr wythnos ddiweddaf gan hyrddwynt. Nid oes dim llai j na dau gant o drueniaid wedi eu lladd, ac y j mae y difrod a wnaed ar eiddo yn enfawr. j Ysgubodd yr hyrddwynt dros bedair o dal- eithau yr Undeb; yn Nhalaeth Texas y gwnaed y galanasdra mwyaf. Hyd yn hyn nid ydyw yn bosibl gwneyd amcangyfrif o faint y golled ar eiddo mewn ystyr arianol. Nid ydyw Senedd America yn myned i basio Mesur Camlas Nicaragua na Mesur Camlas Panama y t/mhor hwn, yn ol fel y sonid. Y tebyg ydyw na wneir dim gyda'r naill na'r llall eleni. Myn rhai mai Mr. Pier- pont Morgan sydd wrth wraidd hyn, fel llawer o bethau ereill. Dyfalir ei fod ef am brynu camlas Panama, a'i weithio gydag arian Americanaidd; ac yna ffarwel am wneyd yr un ar draws Gweriniaeth Nicaragua. j Yr wythnos ddiweddaf, anrheithiwyd Scinde, yn yr India Ddwyreiniol, gan yr ystorm fwyaf a fu yno o fewn cof neb sydd yn fyw. Collwyd llawer iawn o fywydau, ac ar anifeiliaid bu i difrod enfawr. Dinystriwyd llinell y ffordd haiarn sydd yn rhedeg trwy y rhandir. Am bellder o ryw ddeugain milldir, nid oedd haiarn heb ei godi o'i Ie, pont heb ei dym- chwelyd, na gwrthglawdd heb ei daflu i lawr. Gwnaed gwifrau y pellebyr am haner can' milldir yn gyd-wastad a'r llawr. Cyrhaeddodd y Llywydd Loubet o Ffrainc } i Rwsia ddydd o'r blaen a rhoddwyd iddo j groesaw gan yr Ymherawdwr. O Peterhof, j I aeth yr Ymherawdwr, yr Arlywydd, a lluaws o uwch-raddolion Rwsia, ym mlaen i Tsarkoe Selo mewn tren arbenig. Cyrhaeddasant yno yn gynar yn y prydnawn. Wedi cyr- haedd yno, aeth yr Arlywydd yn y fan i foes- gyfarch yr Ymherodres. Dydd Gwener 23, bu'r Tsar a'r Llywydd yn gwledda ar fwrdd y wiblong "Montcalm." Soniodd y Tsar am Ffrainc fel "cyfeilles ffyddlon a chyngrheiriad cywir Rwsia. Y dydd o'r blaen bu Cymanfa Gyffredinol Eglwydd Rydd Unedig Scotland yn trafod cyhuddiad o heresi yn erbyn y Proffeswr George Adam Smith. Barnodd mwyafrif mawr nad oedd ddyled arnynt ddwyn achos yn erbyn Mr. Smith, er nad oeddynt yn der- byn nac yn awdurdodi ei olygiadau beirn- iadol.

Y GOBEITHLU.

[No title]

[No title]