Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Bud y San.
Bud y San. Can PEDR ALAW. [" PENDENNIS," LOUGHTON.] Bydd y byd cerddorol Cymreig yn cael ei gynrychioli adeg y coroniad yn Westminster Abbey gan neb llai na Ben Davies, ac wrth gwrs bydd Dan Price yno yn rhinwedd ei gysylltiad a chor y He. Nis gwyddom a yw yn mwriad yr awdurdodau i roddi gwahodd- iad i gritic y CELT os felly y bydd, ceir yn y golofn hon hanes manwl o'r gweithrediadau; ac os nad ydym ar y rhestr, ni ofidiwn ond ychydig! Rhyfedd mor blentynaidd ydyw meibion dynion wrth natur! Y fath awydd sydd i weled llu o enwogion yn tramwyo'r ystrydoedd-fel rhyw blant yn dangos eu hun- ain yn eu dillad goreu! Ond i ddychwelyd at bethau cerddorol. Cawsom bleser mawr wrth edrych dros y darnau cerddorol a genir yn y gwasanaelh coroni. Y mient yndeiiwng (ar wahan i rai o'r tonau i'r gynulleidfa) o'r Eglwys ar ei goreu-ac wrth ddyweyd hyn, fe ddealla y rhai hyny o'n darllenwyr ydynt wedi talu sylw manwl i hanes cerddoriaeth gysegredig y Saeson, y golygwn fod y genedl yma ar ei goreu. Y rheswm am hyn yw, fod yr Eglwys, er's canrifoedd bellach, wedi cefnogi y prif gerddorion, ac wedi parhau i roddi sylw mawr i gerddoriaeth yn ei gwasan- aeth. Y canlyniad yw fod ei hystor o ddarnau cerddorol yn gyfryw i ymfalch'io ynddi. (Os carai rai o'n darlienwyr weled hanes cryno o gynyrchion cyfansoddwyr Eglwysig, cant y cyfryw yn llyfr y diweddar Mr. Barret). Gan fod y culni gofidus yn erbyn defnydd- iad offerynau wedi ei ladd, y mae cyfle braf i gerddoriaeth Ymneullduol Gymreig ddad- blygu; ac y mae wedi cymeryd camrau breision yn ddiweddar. Er y credwn fod y • cymanfaoedd canu wedi, ac yn, gwneyd lies, eto dibynir gormod arnynt. Nid drwy arddull na decngliad dieithr arweinydd arbenig y ceir y dadguddiad i'n cynulleidfaoedd, eithr yn mherffeithiad addysg gerddorol arweinydd y gan yn y capeli. Yn y fan hon, cyffyrddwn a mater y carem gael barn ein darllenwyr arno, sef, a ydyw arferiad rhai arweinwyr cymanfäol yn aros ar rai geiriau ynghanol brawddeg, i'w gyfiawn- hau ? Da genym pe gallem ddwyn ein darllenwyr i ystyried mater fel hwn a thraethu arno. Gwnai hyny les iddynt hwy ac i'r dar- llenwyr ereill, a pharai ddyddordeb yn ddiau. Beth ddywed arweinwyr y gan yn Llundain ar hyn ? Cychwynwn yr ohebiaeth drwy ddyweyd na ystyriwn fod aros myrych ar eiriau penodol ynghanol brawddeg i'w gyf- iawnhau, os na fydd y cyfryw yn awgrymu ei hun yn naturiol i'r cynulleidfaoedd mewn gair, os na fydd yn gwbl naturiol ac ymar- ferol. Ystyriwn mai prif waith yr arweinydd cymanfaol ydyw arwain y cantorion i mewn i ddirgelion yr emynau. Y mae disgwyl arno i weled yn ddwfn, ac egluro beth a wêl-nid drwy ruo, eithr drwy ddylanwad trydanol personoliaeth-yr hyn a drosglwydda drwy ei edrychiad a'i ysgogiad priodol, naturiol. Y gamp ydyw arwain y dorf i gyfeiriad yr ysbryd ond ni lwyddodd neb arweinydd i wneyd hyn yn effeithiol heb fod y cantorion yn barod o ran eu meddwl i'r ysbryd ddylan- wadu arnynt. Heb i ni ymhelaethu yn bresenol, gwa- hoddwn ein arweinwyr lleol i anfon atom-o dan eu henwau priodol—eu barn ar y mater hwn. Hwyrach, drwy hyny, y ceir eglurhad, mewn rhan, paham nad yw y gymanfa ganu yn Llundain wedi bod yn rhyw effeithiol iawn un amser. Y mae ein darllenwyr yn gwybod am y Cwmni Cerddorol Brenhinol. Yn ei gylchwyl flynyddol ddiweddaf, a gynhaliwyd yng Ngwesty'r *Metropole yn y ddinas hon, cry- bwyllwyd am y modd y daethpwyd i gychwyn y sefydliad. Tua canrif a haner yn ol daeth chwareuwr ar yr offeryn a elwir yr oboi o'r Almaen i'r wlad hon, a daeth yn enwog, ond nis gallodd ddarparu gogyfer a'i wraig a'i blant. Ychydig ar ol ei farwolaeth, yr oedd dau gerddor yn sefyll wrth ddrws Ty Coffee yn yr Haymarket, a sylwent ar ddau fachgen dyddorol yn gyru dau asyn. Gwnaethant ymholiad ynghylch y ddau fachgen, a daeth- ant i wybod mai eiddo y diweddar chwareuwr enwog ar yr oboi oeddynt. Mewn canlyniad, cychwynwyd trysorfa i helpu'r bechgyn ac yn y ffordd hon, a thrwy yr amgylchiad hwn, y daeth y Sefydliad Cerddorol Brenhinol i fod -yn y flwyddyn 1790.
HYN A'R LLALL.
HYN A'R LLALL. Mewn cymanfa bregethu wledig yn ddi- weddar yr oedd dau o gewri'r achos i dra- ddodi pregeth yn yr un oedfa. Esgynodd y cyntaf i'r pwlpud, a thestyn ei draddodiad oedd, Ac efe (Judas) a aeth allan ac a ymgrogodd." Bu yn faith iawn yn egluro yr amgylchiad galarus hwnw. Pan ddaeth tro ei frawd, wele, er mwynhad i'r lluaws oedd wedi blino ar y cyntaf, ei destyn oedd, Dos dithau a gwna yr un modd." Nid oes ond y testynau ar gof a chadw yr ardalwyr yn awr. Cafodd Evan Phillips, gwyliwr tren nwyddau ar linell ffordd haiarn y Great Western, ei ladd yn Junction Danygraig, Abertawe, y dydd o'r blaen. Y mae symudiad newydd gael ei gychwyn gan drigolion Llanfair Mathafarneithaf, Mon -lle genedigol Goronwy Owen-i godi cof- I golofn i Goronwy. ANGLADD MOSES. Englynion buddugol yn Mile End, Llundain, dro yn ol:— I'w arwyl rhoed gwyl ar goedd-i bigion Pob agwedd y nefoedd Angel gor ei elor oedd, I I galon y dirgeloedd. Yn faith orymdaith yr ânt-olwynion Goleuni ohwyrnellant; Tawel fedd a. sedd y sant, A'i wely argel wyliant.—CWCWLL. Y mae Mr. Goscombe John wedi ei gyflogi i wneyd cerflun o Edward VII, i'w osod yn Nhref y Penrhyn. Mr. John wnaeth ddelw gof Mr. T. E. Ellis a bathodyn cof y Tywysog Llywelyn ap Gruffydd. Rhydd y Parch. Ddr. Cynhafal Jones, Colwyn Bay, rybudd o'i fwriad i ymddiswyddo o'r weinidogaeth yn mis Medi nesaf. Ordein- iwyd Dr. Jones yn 1866, a gwnaeth lawer o waith llenyddol gwerthfawr, yn cynwys cy- hoeddi argraffiad da o weithiau Williams Pantycelyn. Hwyliodd Ben Bowen, y bardd o'r Rhondda, tuag adref o Port Elizabeth yr wythnos ddi- weddaf. Mae efe wedi cwbl wella, ac wedi penderfynu unwaith am byth mai'r Saeson yw'r bobl etholedig. Ddydd Sadwrn diweddaf, yng Nghastell- nedd, rhoddwyd anrheg o lestri arian i Mr. S. T. Evans, A.S., gan ei etholwyr. Mae Mr. loan Williams, Abergwynfi, wedi enill gwobr a gynicgiodd papyr Seisnig am emyn ar gyfer y coroniad. Sonir fod Llywodraeth Canada yn cynyg dwy dreddegwm-36 o filldiroedd ysgwar- i'r Cymry sy!n ymfudo i'r wlad hono o Patagonia. Yn Nyffryn y Great Saskatchewan yn agos i'r Mynyddoedd Creigiog y mae y tir. Mae Mr. D. A. Thotnas, A.S., wedi rhoddi 300P tuagat dalu dyled Cymdeithas Rydd- frydol Deheubarth Mynwy, ac wedi ymgym- eryd a dwyn yr holl dreuliau am dair blynedd neu hyd oni ddewisir ymgeisydd Rhyddfrydol. j
Advertising
CAPEL CYMREIG WiLLESDEN GREEN (265, WILLESDEN LANE). CYNHELIR A Te a'r Cyngherdd Blynyddol YN Y CAPEL UCHOD NOS IAU, MEHEFIN Y 5ed, DATGANWYR- Miss GWEN DAVIES Mrs. TIMOTHY DAVIES Mr. THOMAS THOMAS Mr. ARMON JONES Adroddwr-Mr. R. A. DAVIES Cyfeilydd—Miss MAGGIE ELLIS TE AR Y BYRDDAU AM 5 O'R GLOCH. CYNGHERDD I DDECHREU AM 7.30 Mae y Capel waith tri mynud o orsaf Willesden Green (Metropolitan), ac y mae 'Buses o Kilburn, Westminster, a Victoria yn pasio y drws. EISTEDDFOD OR COMPETITIVE MEETING TO BE HELD AT ST. SAVIOUR'S HALLS, COBBOLD ROAD, SHEPHERD'S BUSH, (Off the Uxbridge Rd., by 'Princess Victoria') ON Monday, Tuesday, and Wednesday, June 2, 3, & 4 1902. THE PROCEEDS TO BE DEVOTED TO THE BUILDING FUND. To be opened on Monday, June 2nd, at 3 By Lord ABERDARE To be opened on Tuesday, June 3rd, at 3, By The Rev. Prebendary RIDGEWAY To be opened on Wednesday, June 4th at 3, By OSMOND WILLIAMS, Esq., M.P. The Prizes will be given away at intervals during the Afternoons and Eveningf, immediately after each Adjudication, and the Purses of Money will be pre- sented to the winners by the following- The Earl of Kinnoull, Mary, Countess of Cavan Viscountess Maitland Lady Smyth, Mrs. Ridgeway, The Rev. J. A. & Mrs. Forrest Mrs. Arthur Whitaker, Mrs. Martineau Mrs. Lockett Agnew, Mrs. John Hare and others IN ADDITION TO THE EXHIBITS FOR COMPETITIONS, A BAZAAR, SIDE SHOWS AND ENTERTAINMENTS Will be held in the smaller halls. The Large Hall will be devoted to the Finals of the Competitions for Choirs, Quartettes, Duets, Solos, Instrumental Music, Recitations, Literature, Nursing Skipping, &c. THERE WILL BE TEA AND REFRESHMENTS All Classes are entering for the Competitions. ADMISSION 1/- till 6 o'clock, 6d, aftey Reserved Seats 5/- each day, or Ticket admitting all Three Days, 10/- Reserved Seats 2/6 each day, or Ticket admitting ail Three Days, 5/- CHILDREN HALF-PRICE. Tickets may be had from Miss ALICE WILLIAMS 16, Inverness Terrace, W,-