Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

DUWINYDDIAETH YR HEN GORPH.

News
Cite
Share

DUWINYDDIAETH YR HEN GORPH. CREDO CYNDDYLAN JONES. PUM' PWNC CALFINIAETH. (Parhad). Yr ail fater y dymunai ymdrin arno oedd yr Elfen Efengylaidd yn y Gormvchnaiuriol. Hyd yn hyn, yr oedd yr Eglwys fawr gyfiredinol-y Babaidd, y Roegaidd, a'r Brotestanaidd-yn cytuno yn y mater hwn. Yr oedd credo apostolaidd, credo Athanasius, credo Nicea yn cytuno yn y mater hwn ar y cyntaf, ond yn y bedwaredd ganrif ar ddeg fe ddechreuodd Confession of Faith ddyfod i mewn. Tra yr oedd yr eglwysi yn cytuno yn y credoau (creeds), yr oeddynt yn gwahaniaethu yn y confessions, ac yn y fan yma y dechreuodd Pabyddiaeth a Phrotestan- iaeth wahaniaethu. Ond beth, atolwg, oedd y gwahaniaeth ? Arwyddair Eglwys Rufain ydoedd myned trwy yr eglwys i Grist, ond arwyddair Protestaniaeth ydoedd trwy Grist i'r eglwys, ac ar y gwirioneddau yna yr oedd yr athrawiaethau efengylaidd yn gorphwys. Ond beth oedd yr athrawiaeth efengylaidd oedd yn eu gwahaniaethu hwy oddiwrth y rhai a gredent mewn athrawiaethau anefeng- ylaidd? Yn ateb i'r cwestiwn hwn, dywedai mai y syniad priodol am ddrwg pechod, ac am golledigaeth dyn i syniad clir am anallu dyn i weithio allan ei iachawdwriaeth ei hunan. Dywedai rhai fod yr athrawiaeth o ddrwg pechod yn darfod o'r wlad, ac un o'r pethau wnaeth fwyaf i ddwyn hyn o amgylch oedd yr athrawiaeth Hegelaidd. Yn ol yr athraw- iaeth hon, yr oedd drwg pechod yn necessary wil—pechod anhebgorol angenrheidiol i ddad- lalygiad daioni. Nid dyna, fodd bynag, oedd dysgeidiaeth yr Eglwysi Efengylaidd. Dysg- ent hwy fod pechod yn unnecessary evil, a'i fod yn rhwystr ar ffordd sancteiddrwydd a chynydd mewn gM s. Angen mawr yr eglwysi y dyddiau hyn oedd bod yn glir ar y pwnc hwn, ac yr oedd hwnw yn fwy pwysig, oher- wydd fod syniadau Hegeliaeth am bechod wedi lefeinio duwinyddiaeth yr oes. Pechod, yn ol rhai, ac yn eu mysg Ritschl, ydoedd twyll yn yr ymwybyddiaeth ac oddiwrth hyn ymresyment nad oedd dyn yn gyfrifol am ei bechod. Nid dyn a'r athrawiaeth a safai yng ngwyneb dysgeidiaeth y Beibl, ac os am ddal -eu tir yng ngwyneb ymosodiadau yr oes, yr cedd yn rhaid i'r eglwysi feddu syniad iach am bechod, a deffro teimlad o euogrwydd yn y genedl oedd yn codi. Ni cheid duwinydd- iaeth dda, bur, heb hyny. Pwy atolwg oedd yn pregethu Y PECHOD GWREIDDIOL ? ie, pwy oedd yn deall y pechod gwreiddiol ? Yn ol duwinyddiaeth boblogaidd yr oes, nid oedd y pechod gwreiddiol ddim amgen na law of heredity yn y ddynoliaeth. Dro yn ol, darllenodd esboniad Cymraeg dvsgedig a galluog ar y Rhufeiniaid, ac yr oedd ei awdwr yn reducio y pechod gwreiddiol i'r syniad o ddeddf treftadaeth (the law of hereditary). Wrth ddarllen yr esboniad, dywedodd ef wrtho ei hun, Holloa frawd, nid ydych yn deall y pechod gwreiddiol.' Pe fel hyn, elai jpechod yn fwy dieithr i'r genedl y naill dro ar ol y llall. A dybiwch chwi fod y baban yn y ganrif hon yn llai neu yn fwy ei bechod 11afr baban yn y ganrif gyntaf. 0 na unijorm factor yn hanes y ddynoliaeth yw y pechod gwreiddiol." Pe mai the law of hereditary oedd y pechod gwreiddiol, fe roisai y Beibl y cyfrifoldeb ar Efa, druan bach, ond nid felly y bu, cblegid rhoddwyd y cyfrifoldeb ar Adda. Pe buasai the law of hereditary yn esbonio y pechod gm reiddiol, buasai camwedd cyntaf, ail, a thrydydd, ond yn ol Paul, nid oedd ond un camwedd. Y gwir ydoedd, nad oedd pobl yr oes yma yn astudio duwinydd- iaeth haner gymaint ag y dylent. Os cai dyn olwg clir ar ei bechod, fe fyddai yn dda ganddo gael golwg ar y prynedigaeth oedd yng Nghdst-ond iddynt gael golwg iawn ar bechod, fe fyddai yn dda ganddynt gaelgolwg ar Geidwad Mawr, neu Grist yn ei waed. Yr oedd yr Eglwys Babaidd wedi arfer rhoddi pwyslais ar yr Ymgnawdoliad. Deallai yr Eglwys hono yr athrawiaeth hon yn dda, ond nid oedd erioed wedi deall Athrawiaeth yr lawn, ac yn y dyddiau hyn yr oedd adran i'w gweled yn Eglwys Loegr mewn cydymdeim- lad a'r Pabyddion yn hyn. Pe cymerid y llyfr adnabyddus hwnw-Lux Mitndi-er engraifft, ceid mai yr is-deitl a roddwyd iddo gan ei awdwyr ydoedd, The Religion of Incarnation," hyny yw, mewn geiriau ereill, enw yr awdwyr ar grefydd y Testament New- ydd. Fe anturiai ef ddyweyd, fodd bynag, mai nid crefydd yr Ymgnawdoliad oedd cref- ydd y Testament Newydd, eithr crefydd yr lawn. Mewn gair, tuedd crefydd yr oes oedd symud y centre o Galfaria, i Bethlehem. Na ato Duw iddo ddyweyd gair yn amharchus am yr ymgnawdoliad, ond fe fentrai ddyweyd mai CREFYDD YR IAWN oedd crefydd y Testament Newydd. Nid cryd Crist oedd canolbwynt Cristionogaeth, ond ei Groes, ac ond iddynt gael syniad clir am holl ddigonolrwydd yr aberth, fe arweiniai hyny hwy i gael syniad clir am gyfiawnhad trwy ffydd. Athrawiaeth arall o bwys ydoedd cymhwysiad trefn y prynedigaeth gan yr Ysbryd Glan. Gwaith gwrthrychol oedd gwaith y Tad, a gwaith gwrthrychol oedd gwaith y Mab, ond gwaith tufewnol oedd gwaith yr Ysbryd, ac yn y ganrif ddiweddaf, nid cyn hyny, y cyfeiriwyd sylw priodol at waith yr Ysbryd. Yr hyn yn benaf a wnaeth y Diwygiad Protestanaidd oedd galw sylw yr Eglwys at Gyfiawnhad trwy Ffydd; gwaith y Diwygiad Puritanaidd oedd galw sylw at Sancteiddhad, tra mai gwaith y Diwygiad Methodistaidd ydoedd galw sylw yr Eglwys a'r byd at adenedigaeth. Pregethu adened- igaeth fel cymhwysder i'r weinidogaeth oedd baich gweinidogaeth George Whitfield. Yr oedd hon ar y pryd yn athrawiaeth newydd, yr hon a wnai i'r offeiriaid ffyrnigo, a pheri eu bod yn foddlawn iddo bregethu pob ath- rawiaeth arall ond hon. Ie! y Diwygiad Methodistaidd a ddygodd yr athrawiaeth hon i sylw gyntaf. Yr oedd yr anedigaeth yn dilyn cyfiawnhad trwy ffydd, ac nid cyfiawn- had yn dilyn yr adenedigaeth. Dyna, yn wir, y gwahaniaeth rnwng Calfiniaeth Cymru a Chalfiniaeth Ysgotland a'r America. Yr oedd Calfiniaeth yr Alban yn rhoddi adenedigaeth o flaen cyfiawnhad yn eu cyrph o dduwinydd- aeth a'u cyffes ffydd, ond pwy o Galfiniaid Cymru wnaethai hyny. Yn hytrach, fe roddai y Calfiniaid Cymreig gyfiawnhad yn gyntaf ac yna ymhelaethu ar anenedigaeth. Yr oedd rhai eglwysi, er engraifft, yn cysylltu bedydd ag adenedigaeth. Yn y cysylltiad hwn clywid son yn fynych am High Churchism a Broad Ghurchism, ac oddiwrth yr olaf yn fwy na'r cyntaf yr oedd perygl. Tra yn ymdrin 4 chwestiwn yr adenedigaeth, daliai y Broad Church fod dynion-duwiol ac anuwiol-yn blant i Dduw, ac mai pechod dyn oedd gwrthod cydnabod y berthynas. Ceid mewn llawer o lyfrau-eiddo Frederick Denison Maurice yn eu mysg-mai gwaith yr Efengyl ydoedd dwyn i arddel y berthynas oedd eisoes yn bod rhyngddo a Duw, neu mewn geiriau ereill, ail-ddeffro yr hen fywyd megys. Ond yr oedd Calfiniaeth yn credu mai nid ail- ddeffro yr hen fywyd oedd yn angenrheidiol, eithr creu bywyd newydd—creadigaeth union- gyrchol yr Ysbryd Glan. Y sylw diweddaf y dymunai ef ymdrin ag ef oedd, YR ELFEN GALFINAIDD YN YR EFENGYLAU. Ofnai yn fawr fod y mwyafrif o honynt yn bur ddieithr i Galfiniaeth, hyd yn oed y gweinid- ogion. Y dydd o'r blaen teithiai ef yng nghwmni dyn ieuanc hynod o athrylithgar, ac un oedd wedi myned trwy gwrs o addysg yn y colegau. Gofynodd iddo a oedd yn gwybod pum' pwnc Calfiniaeth, i'r hyn yr atebodd mewn syndod na chlywodd erioed am danynt. Dyna wr ieuanc o bregethwr gyda'r Method- istiaid Calfinaidd fu trwy'r colegau, ac eto heb wybod am bum' pwnc Calfiniaeth. Yr oedd llawer yn debyg iddo. Meddai rhai syniad am ddau o honynt, sef Etholedigaeth a lawn Meichniol, ond ni feddent y syniad lleiaf am y lleill. Y gwir am dani ydoedd fod Method- istiaid Calfinaidd yn fwy dieithr i'r gwirion- eddau hyn nag y dylent fod. Fe ddywedid yn fynych am erthyglau Eglwys Loegr, mai Calfinaidd oeddynt o ran eu cynwys, ond mai Arminiaid ydoedd yr offeiriaid; ac am enwad y Bedyddwyr, nid oedd ef yn gwybod am Gorff o Dduwinyddiaeth ganddynt nad oedd yn lIa wn o Galfiniaeth. Calfinaidd oedd erthyglau enwad parchus yr Anibynwyr yn arfer bod megis yng ngweithiau Dr. John Owen a Dr. Thomas Goodwin, hen biwritan- iaid Cristionogol y cyfnod. Credai ef yn wir fod mwyafrif gweinidogion yr enwad Anibynol yn parhau yn Galfinaidd, ond nid oedd yn anghofio y ffaith fod Dr. D Ie, Dr. Hunter, y Prifathraw Fairburn, ac yn wir nid oedd yn ddrwg ganddo fod gweinidogion ieuainc yn speculatio ychydig ar eu cyfrifoldeb eu hun- ain, oblegid dyna, mewn gwirionedd, oedd yr enwad parchus y soniai am dano—rhyw fath o limited liability company-pob un yn gyf- rifol am ei dduwinyddiaeth ei hun, a neb yn gyfrifol am dduwinyddiaeth ei frawd. Ar y Haw arall, yr oedd y M.C. yn UNLIMITED LIABILITY COMPANY," nid yn unig yn meddu corff o dduwinyddiaeth o'i eiddo ei hunan, ond hefyd gyffes ffydd. Yr oeddynt yn credu, nid yn unig mewn etholed- igaeth, ond hefyd mewn etholedigaeth Gras, a pha beth, atolwg, oedd hyn ? Dim amgen na Duw yn hawlio rhyddid ewyllys, a dyna a'i synai ef yn ami, fod dynion a hawliant ryddid ewyllys iddynt eu hunain, yn gwrthod rhyddid ewyllys i Dduw. Mewn rhai llyfrau adnab- yddus, honid fod Duw dan angenrheidrwydd i achub, ond Duw at ei ryddid i achub neu beidio oedd dysgeidiaeth Cyfundeb Method- istiaid Calfinaidd; ac yr oedd athrawon Ethol- edigaeth, wrth ddal i fyny ryddid Duw, yn dal i fyny hefyd ryddid dyn. Y gwir am dani ydoedd, mai Calfiniaeth oedd wedi amddiffyn rhyddid y byd. Nid oedd Mr. Morley yn ffafriol i Galfiniaeth, nac, yn wir, i Gristionog- aeth ond, yn un o'i lyfrau, fe arfera y geiriau hyn: H Calvinism saved Europe." Nid oedd Bancroft chwaith yn ffafriol i Galfiniaeth, ond fe ddywedodd unwaith "that Calvinism is the founder of the Republics of the World." 0, ie! lie yr oedd Calfiniaeth, yno yr oedd rhyddid yn ffynu. Paham ? Am ei bod yn hawlio rhyddid i Dduw. Yr oedd hyn yn dwyn i'w gof hanes Cymanfa Talgarth, pan y darfu i'r Dr. Owen Thomas holi Job Thomas, yr hen weinidog, ynghylch ei olygiadau, Job Thomas," meddai Dr. Thomas, "ydych chwi yn credu yn etholedigaeth gras ?" Yd- wyf atebai Job Thomas, onid yw yn y Cyffes Ffydd." Ie, ie," meddai Dr. Thomas, "a ydych chwi yn credu i Dduw ethol nifer neillduol i fywyd tragwyddol ?" H 0, ydw," atebai Job Thomas, Hand fe leiciwn yn ang- hyffredin pe byddai wedi ethol pawb." Yn y fan yna (ebai Dr. Cynddylan Jones) yr oedd y dirgelwch a'r anhawsder. Yr oedd gan Arminiaeth ei hetholedigaeth, ond yr un oedd nifer ei hetholedigion a Chalfiniaeth, neu mewn g-eiriau ereill, nid oedd Arminiaeth yn enill dim yn y nifer a achubid. Pwy a etholid ?" "Y sawl a gredant," meddai Arminiaeth, ac felly yn union yr atebai Calfiniaeth. Yn y rheswm am yr adenedigaeth yr oeddynt yn gwahaniaethu. Terfynodd Dr. J. Cynddylan Jones ei ar. aeth trwy ddyweyd fod amryw bethau yr oedd efe wedi galw sylw atynt, ac hefyd fod lluaws o bynciau dyrus nas gallai roddi es- boniad arnynt, ond gobeithiai y deuent i'r golwg yn nhreigliad oesoedd.