Hide Articles List

3 articles on this Page

OddeutuPr Ddinas.

BUDD-GYNGHERDD MR. R. A. DAVIES.

News
Cite
Share

BUDD-GYNGHERDD MR. R. A. DAVIES. Y mae pob cyngherdl Cymreig, ni a hyderwn, o ryw fUld; ond yr oedd y cy lg- herdd a gaed yr wythnos ddiweddaf o nod- wedd arbenig, sef i gydnabod a chynorthwyo ein cydwladwr dyddorus-Mr. R. A. Davies- yr hwn a adwaenir fel rheol o dan y teitlau desgrifiadol, Ymdeithydd neu Yr Ad- roddwr." Nid i bawb, feallai, y mae'n hysbys mai Cardi" yw Mr. Davies, oherwydd ganwyd ef yn y Ty Coch, rhyw dair milldir o dref swynol Aberystwyth, ac ar ystad yr hyglod Pryse Pryse, Gogerddan. Y mae ei dad eto yn byw yn y lie ac yng ngwasanaeth y tir- feddianwr hwnw, yn llawn hoywder-fel ei fab-er wedi gweithio i deulu Gogerddan am dros 66 mlynedd. Y mae dros ddeugain mlynedd oddiar y daeth Rowland i ddechreu ar ei Ymdaith yn yr hen fyd yma, ac er mai un o blant Ebrill yw, eto, yr oedd mor agos i Mai ag y gallai fod oherwydd ar Ebrill 30, 1859, y dechreu- odd ei yrfa. Fel mwyafrif o blant yr ardal dygwyd ef i fyny yn ol daliadau yr enwad Wesleyaidd oherwydd gwyddis fod amryw o gapelau gan yr enwad hwnw yn ardal Aberystwyth; ac fel amryw o blant hefyd mewn cyfarfodydd llenyddol ynglyn a'r capel hwnw y dechreuodd I adrodd ei ddarnau difyr ac adeiladol. Mae y rhai sydd yn cofio am ei ymdrechion cyntaf ar y llwyfan yn cofio hefyd, ei fod fel ami i artiste ar ei ol, wedi dechreu gyda darnau anhawdd-rhy anhawdd i'w dafod blentynaidd ef, oherwydd un tro pan yn ceisio rhoddi desgrifiad o'r "trei" mewn darn a. ddywedai ei bod megis "gwichiad soniarus pum' ugain o foch," deallodd y gynulleidfa mai geiriad Rowland oedd "Gwichiad Shon Morus mewn ugain o foch." Mawr fu gwichiad y dorf wrth wrando arno, a braidd nas gallem ddyweyd mai p lrhau i chwerthin y mae ei wrandawyr hyd y dydd heddyw. Oad nid "adrodd" yw unig waith Mr. Davies wedi bod trwy ei oes. Cafodd ddysgu crefft pin yn 16 mlwydd oed, oherwydd rhwymwyd ef fel egwyddorwas gyda Mr. J. H. Edwards, Aberystwyth ac arol blynyddau llwyddianus yno ac yn ddilynol yn Lerpwl, daeth i Lundiin yn 1881 fel trafaeliwr-neu ymdeithydd fel y myn ef-dros y ffirm enwog Sharp, Perrin and Co., Cannon Street; ac ar ymdaith fasnachol felly y mae wedi bod o'r adeg hono hyd yn awr. Yn ystod ei oriau harrddenol; y mae wedi cymeryd rhan flaenllaw ynglyn a llawer o gyngherddau a chyfarfodydd, yn arbenig ynglyn ag enwad y Wesleyaid o dan y di- weddar Eglwysbach, pan oedd y gwr da hwnw yng ngofal y gylchdaith yn Llundain, Gwyr hanes pawb o wyr y gan ac adwaenant hwythau yntau yn dda, felly nid rhyfedd iddo gael y fath lu o addewidion i wasanaethu yn ei gyfarfod nos Iau cyn y diweddaf. Da genym ddeall fod y wedd arianol i'r cwrdd wedi bod yn berffaith foddhaol ac fod Mr. Davies wedi cael y cynorthwy haeddianol ar yr amgylchiad hwn. Boed iddo ddyddiau lawer i ddyddori ei gydgenedl ac i godi safon yr adroddwyr yn ein plith. Trodd yn noson wlawiog iawn nos Iau-sef noson y cyngherdd, ac ofnid y buasai hyny yn ymyryd a llwyddiant y cyfryw; ond trodd pobpeth allan yn foddhaol. Agorwyd y cwrdd gydag unawd ar y berdoneg gan Mr. Merlin Morgan, y cyfeilydd. Canodd Madame L. Davies gâ!1 newydd o waith Mr. William Davies, "I shall love thee," hefyd, "Lo! Hear the gentle lark" (Bishop) gyda (flute ohligato), ac yr oedd hwn yn berfform- iad rhagorol. Cafodd ail-alwadau. Canodd hefyd ddeuawj gyda Mr. W. Divies. Miss Teify Davies a ganodd Slave Scmg" (Teresa Del Reigo), a bu raid iddi hithau ail-ganu, ac atebodd gyda" Breuddwyd y Frenhines." Canodd Miss Myfanwy Jones "Llam y Cariadau. Miss Glwydys Roberts, I will give thee Rest." Miss Bessie Lewis, For all Eternity ac1 Wyt ti'n cofio'r Lloer." Miss Bessie Woodward, Not quite alone a u Down here the Lilacs faie." Mr. William Davies The Sailor's Grave." Mr. Trevelyn David" Kildoran a Alice, where art thou." Mr. Emlyn Divies, The Bugler" ac un o hen alawon Cymru (ail-alwad). Mr. John Walters, O.ily to love" (ail-alwad). Mr. Meurig James, Largo al Factoum." Mr. David Evans, Love Absolute." Mr. Idris Perkins, "Reveng-e a King of the Elves'* (ail-alwad). Mr. W. Lewis Barrett, unawd ar y chwibanogl. Miss Jennie Davies, adroddiad Man the lifeboat (ail-alwad). Mr. Rowland A. Davies, adroddiad, To my love." Mr. T. Lloyd, Oxford Street, ydosdd y cadehvdd. Ar ol canu Hen Wlad fy Nhadau "-Mr. John Walters yn arwain—aeth pawb adref wedi eu mwynhau yn fawr.

Advertising