Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

OddeutuPr Ddinas.

News
Cite
Share

OddeutuPr Ddinas. Eisteddfod an dri diwrnod; dyna fydd dyddordeb ardal Shepherd's Bush yn ystod yr wythnos ddyfodol. • Cynhelir yr wyl hon ynglyn ag Eglwys St. Saviour, Cobb old Road, Shepherd's Bash, ac arncan ei bodolaeth yw cael arian at gronfa adeiladu yr Eglwys. Pi-if symudydd y sefydliad yw Miss Alice Williams, chwaer yr aeloi Saneddol tros Feirion, ac y mae wedi llwvddo i drefnu tridiau hynod o ddyddorol, ond math o gym- ysgedd fydd cydrhwng eisteddfod leol a* nodachfa wledig. < w Agorir y gweithrediadau prydnawn dydd Llun gan Arglwydd Aberdare, a rhoddir gwobrwyon lawer am unawdau ac adrodd a ilawer o gystadleuaethau difyr, a diau y bydd- ant yn debyg o ddenu nifer o gystadleuwyr Cymreig. Ar ol chwech o'r gloch yn yrhwyr ni fydd y tal am fyned i fewn ond chwe' cheiniog. Pythefnos i nos lau nesaf bydd cyngherdd blynyddol Mr. Gwilym Rowlands—organydd Capel y Methodistiaid yn Holloway-yn cym- eryd lie. Deallwn fod talentau adnabyddus wedi eu sicrhau i wasanaethu ar yr achlysur. • # Gan fod yr hin wedi troi mor anffafriol ar ddydd Llun Sulgwyn, y mae amryw o'r Ys- golion Sul Cymreig yn bwriadu cael pleser- deithiau eto ar adeg gwyl y coroni, os gellir llwyddo i gael lleoedd cyfleus. Gan y bydd deuddydd o wyliau y pryd hyny, diau y gall- esid trefnu i gael gwyl hapus. Ond beth pe caem un bleserdaith fawr undebol am y tro. Gwnelai lawer i ddwyn y Llundeinwyr i ad- nabyddiaeth o'u gilydd. Benjamin Brychan yw enw cyntafanedig Mr. a Mrs. Williams, 42, Cambridge Buildings, Upper Garden Street, Pimlico. Ganwyd ef Ebrill 25. Boed ei oes yn hir, dan lewyrch digwmwl haul y nef. » Y lienor galluog, y Parch. D. Gorllwyn Williams, St. Clears, fu yn gweinidogaethu yn y Tabernacl Cymraeg, King's Cross, ar y Sulgwyn a'r Saboth dilynol. Mae ef yn un o gewri y p yipud Cymreig. Deued i'n plith yn fuan eto. Mrs. S. D. George, gynt o Kingsland Road, yw un o'r aelodau crefyddol hynaf ymysg Cymry y dref hon; ac y mae yn dal mewn iechyd a hoywder rhyfeddol er fod dyddiau henaint a methiant wedi ei dal. Genedigol yw o'r Caegwyn, gerllaw Keniarth, Machynlleth. ¡ Fe welir oddiwrth g-olofnau ein hysbysiadau fod Mr. Osborne Hughes (yr hwn fu am lawer o flynyddau yn rheoli un o sefydliadau deintyddol mwyaf y ddinas) wedi cymeryd drosodd y sefydliad adnab/ddus hwnw a elwir y Dental Institute, 168, Upper Street, Isling- ton. » Y mae Mr. Hughes yn fab i'r Parch. Hugh Hughes, Abergele-gynt weinidog capel Cymraeg City Road,-yn frawd i'r gantores enwog-Miss Gertrude Huges, R.A.M.-ac yn wyr i'r diweddar Archdderwydd Clwyd- fardd. Yr ydym yn dymuno i Mr. Hughes bob llwyddiant, ac yn hyderu y gwna ei gyd- genedl yn y Brifddinas roddi pob cefnogaeth iddo. w Nos Lun diweddaf cynhaliwyd cyfarf od j cystadleuol y plant ynglyn a Chapel Mile End Road, o dan lywyddiaeth Mr. John Evans, Black Lion Yard, Whitechapel, gan yr hwn y cafwyd anerchiad fer ond i bwrpas, a swm sylweddol tuagat symud rhan o'r ddyled sydd ar yr addoldy. » Daeth nifer lu)sog- ynghyd, a llu o gystai- leuwyr, a chafwyd cystadleuaethau rhagorol. Hawdd oeid canfod fod athrawon ffyddlon wedi bod yn brysur yn parotoi y plant m 3wi canu ac adrodd. Clorianwyd y cerddorion gan M, L. Lloyd Joies, A.C., a'r adroidwyr gan y Mri. Tom Jenkins, Charing Cross Road, a R. A. Davies, City Road—beirniadaethau y rhai oediynt yn hollol foddhaol. Cyfeiliwyd gan Mr. R. H. Price. « Prif gystadleuaeth y cyfarfoi oedd yr ad- roddiad, Arwerthiant y Caethwas." Y mae y darn wedi bod mewn amryw gystadleuaeth o'r blaen, a'r un rhai ydyw y cystadleuwyr bron, ond y mae y buddugwyr yn newid bob tro, ac y mae hyn yn peri cryn ddyddordeb i'r gwrandawyr. < J Fel hyn yr oedd y buddugwyr :-Adrodd dan 8 oed. i, Tommy Jenkins; 2, Annie Gwendolen Evans; 3, Lilly Maud Jones. Canu dan 8 oed. i, Annie Gwendolen Evans; 2, David U. Evans; 3, W. H. Williams. Adrodd dan 12 oed. i, Mary Jenkins; 2, Jennie Jones. Canu dan 12 oed. i, Mary Jenkins, 2 David Jones; 3, Jennie Jones. Adrodd d.m 16. 1, Arthur James; 2, David Jones. Darllen difyfyr. i, T. G. Lewis, Jewii; 2, D. Williams, Mile End. Uaawd tenor. Dan Davies, Barnsbury. Uoawd soprano. Lizzie Davies, Stratford. Unawd baritone. Isaac Humphreys, Mile, End, a Morgan Jones, Jewin, yn gyfartal. Deuawd. Elwin Thomas a Tom Jones y ddau o Jewin. Adroddiad Arwerthiant y Caethwas," y goreu, Isaac Humphreys.

BUDD-GYNGHERDD MR. R. A. DAVIES.

Advertising