Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Y BYD A,-OR BETTWS.

News
Cite
Share

Y BYD A,-OR BETTWS. Mae'r Llywodraeth ar ei heithaf yn ceisio sefydlu heddwch yn Affrica cyn adeg y coroniad. Sonir y bydd i'r Brenin ryddhau nifer fawr o garcharorion rhyfel tua diwedd Mehefin. Dyna ffordd ddoeth o ddathlu gwyl y coroni. Cymerodd tanchwa enbyd le mewn glofa yn yr America ddiwedd yr wythnos ddiweddaf a lladdwyd 120 o'r gweithwyr. Yn eu mysg yr oedd amryw o Gymry adnabyddus o'r Deheudir. Yn ol pob hanes y mae'r trychineb ofnadwy yn ynysoedd Martinique a St. Vincent bron wedi difa pob glaswelltyn yn y He, ac ofnir y bydd raid ymadael a'r ynysoedd yn hollol gan eu gadael yn anialwch. Parhau yn lied wael y mae'r bardd Hwfa Mon. Bu Arglwydd Pauncefote, llys-genad Pry- dain yn Washington, farw yn y dref hono ddydd Sadwrn diweddaf. Yr ydys agos wedi gorphen hidlo'r capel newydd ynglyn ag Eglwys Plwyf Penarlag, er cof am y diweddar Mr. Gladstone. Beirniadwyd amryw o gynygion y Mesur Addysg yn dra llym yng nghynadledd Clercod y Byrddau Ysgolion yn Bradford yr wythnos ddiweddaf. Dr. Musgrove a benodwyd yn swyddog meddygol Cynghor Dosbarth Dinesig Penarth, yr wythnos ddiweddaf, yn lie y diweddar Dr Nell. Gwneir trefniadau ar gyfer Eisteddfod Gen- edlaethol 1903 (Llanelli). Disgwylir y bydd i restr y testynau gael ei chyhoeddi yn gynar yn mis Gorphenaf. Y mae Cynghor Trefol Abertawe wedi pen- derfynu i dalu am ddau ddiwrnod o wyl i'r gweithwyr sydd o dan y gorphoraeth yn ystod wythnos y coroniad. Cafodd geneth o'r enw Ellen Collins, 15 oed, yr hon oedd yn byw yn Woodland Row, Cwmafon, ei dychrynu gymaint, wrth weled dyn a dybid oedd yn grwydryn yn neidio o'r gwrych, fel y syrthiodd i lesmair a drodd yn angeuol iddi.