Hide Articles List

1 article on this Page

DUWINYDDIAETH YR HEN GORPH.

News
Cite
Share

DUWINYDDIAETH YR HEN GORPH. CREDO CYNDDYLAN JONES. YSBRYDOLRWYDD Y BEIBL. Mewn oes pryd y mae'r pregethwyr ymar- ferol yn cael cymaint o le a dylanwad, y mae'n amheuthyn o beth i droi yn ol at yr athrawiaethol weithiau. Caed hyny i ddigon- cdd y dydd o'r blaen yng Nghymanfa Flyn- yddol y Methodistiaid Calfinaidd, pryd y traddodwyd araeth ar y pwnc gan y Cymed- rolwr, Dr. Cynddylan Jones, wrth ymddiswyddo o'r gadair. Wrth gymeryd Duwinyddiaeth y Cyfundeb fel pwnc, dywedai mai nid yn gymaint er OTyn y rhai oedd yn bresenol y gwnai hyny, eithr er budd y bobl ieuainc yn y weinidog- aeth a'r eglwysi yn gyffredinol. Clywodd yr wythnos flaenorol am wr ieuanc gafodd addysg dda yn gofyn beth oedd Duwinyddiaeth y Cyfundeb. Yr oedd canoedd o wyr ieuainc y wlad yn ddiau mewn cyffelyb dywyllwch iddo, er fod Duwinyddiaeth y Cyfundeb yn gorphor- edig yn, ac yn cael ei gosod allan yn y Cyffes Ffydd. Dadleuai rhai yn erbyn credo a phroffes, ond yr oedd pwysigrwydd neillduol yn perthyn iddynt yn ei dyb ef. Amcan Cyffes ydoedd, nid cau allan wirionedd new- ydd, ond cau gwirionedd newydd i fewn rhag iddo fyned i golli yn nhreigliad canrifoedd. Nid llyffethair oedd Cyffes i rwystro y meddwl i symud ymlaen, ond llyffethair i rwystro y meddwl i symud yn ol-gwneyd yn sicr o'r tir yr oeddynt eisoes wedi enill. 0 bosibl y tueddid rhai i ofyn, a ddisgwylir i'r gweinid- ogion yn awr bregethu duwinyddiaeth y Cyffes Ffydd ?" Yr ateb roddai ef i hyn yna oedd, 11 Gwneir ac ni wneir." Fe glywodd dro yn ol am offeiriad duwiol iawn yn cwyno wrth ei gJochydd nad oedd yr eglwys mor lawn o wrandawyrag oedd gynt.ac yn gofyn beth oedd yr achos o leihad y gynulleidfa. Chwanegai yr offeiriad, "Yr wyf yn pregethu cystal ag erioed, ac yn deall amgylchiadau y bobl yn well nag erioed." I hyn atebodd y clochydd, 41 Mi dd'wedaf wrthych pa'm Teiliwr wyf fi wrth fy nghrefft, ond y mae y cwsmeriaid oedd genyf fi gynt yn myned i siopau pobl ereill. Nid oes dim bai ar y brethyn na'r gwnio, ond y mae y cut dipyn ar ol." Felly dywedai yntau gyda golwg ar Dduwinyddiaeth y Cyf- undeb. Hwyrach fod eisieu newid ychydig ar y cut, ond nid oedd angen o £ wbl newid dim ar u frethyn duwinyddiaeth. Yr oedd duw- inyddiaeth Cyfundeb y Methodistiaid a'i phrif wirioneddau yn dra thebyg mewn rhai ag- weddau i dduwinyddiaeth pob enwad Cristion- ogol arall, ac eto i gyd yr oedd rhyw naws arno nad oedd duwinyddiaeth y cyfryw en- wadau yn ei meddu. Afal oedd afal bob amser, ond er hyny yr oedd bias y soil yn myned i'r naill afal a'i gwahaniaethai oddiwrth afall arall. Felly am dduwinyddiaeth. Duwin- yddiaeth ydoedd p'le bynag y ceid hi, ond yr oedd bias y soil yn myned iddi, er hyny. Nid peth hawdd oedd desgrifio naws; nis gallai neb photographio ysbryd, ond fe geisiai ef, i ddwyn y pwnc oedd ganddo mewn llaw,alw eu sylw ato mewn tair agwedd :— Y GORUWCH-NATURIOL MEWN CRISTIONOGAETH. Yr oedd yn hysbys i bawb darllengar erbyn hyn fod gwrthnaws gref yn y byd yn erbyn y goruwch-naturiol. Yr oedd llenyddiaeth yr oes, ei hathroniaeth, ac mewn rhan ei duwin- yddiaeth, yn gwrthod cydnabod y goruwch- naturiol; ond os oedd yr Eglwys Fethodistaidd Galfinaidd i fod yn eglwys ddylanwadol er daioni, yr oedd yn rhaid iddi feddu awydd a gogwydd cryf at y goruwch-naturiol. Rhaid oedd dal gafael yn y goruwch-naturiol—yn Nuw ei Hun, oblegid tuedd llawer o brif athronwyr y byd ydoedd amddifadu duwin- yddiaeth o'r goruwch-naturiol. Soniai llawer am Dduw mewn natur, a siaradai Ilawer fel pe mai darganfyddiad y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd hyn. Nid dyma yn benaf ddysgeidiaeth yr Ysgrythyr. Yn yr Hen Destament, er engraifft, Duw, ac nid deddf oedd i'w ganfod yn taranu â'i lais; Duw nid deddf oedd yn peri i'r anialwch grynu-mewn gair, yr oedd Duw mewn natur i'w ganfod ymhob tudalen o'r Hen Destament, yr hyn a brofai yn ddimymwad mai nid darganfyddiad y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd y gwir- ionedd mawr hwn. Ond y cwestiwn oedd hwn -ai dyma yr unig wedd 1 edrych ar y gwir- ionedd ? Pe felly, "y truenusaf o ddyn fyddem ni." Duw oedd yn llefaru yn y trychineb ofnadwy dorodd dros y West Indies yr wyth- nos o'r blaen Duw a lefarodd trwy Vesuvius nes dinystrio Pompeii. Dysgai y bobl fod y greadigaeth yn byw, symud a bod yn Nuw, ond nid felly, ac yr oedd hyn yn eu harwain at y ffaith fod Duw uwchlaw natur—ffaith yr oedd yn rhaid i ddyn ei chredu, os oedd gobaith iddo am iachawdwriaeth Duw mewn natur, Duw uwchlaw natur, ie, a Duw cyn bod natur, a phe buasai gan y, byd syniad cywir am Dduw, ni fyddai ganddo le i atheistiaeth na llawer math o iaetb arall. Nid "poten- tial God" ond "perfect God" oedd y gwir Dduw-perffaith yn ei hanfod, a phob priod- oledd ynddo mewn llawn gweithgarwch cyn iddo ddechreu creu erioed. Cwestiwn a ofynid yn fynych oedd, pa fodd y gallai Duw fod yn Holl-bresenol pan nad oedd amser na lie? Atebid y cwestiwn hwn gan y diweddar Dr. Edwards, y Bala, trwy ddyweyd fod Duw uwchlaw amser a lie hyny yw, yr oedd amser a lie yn Nuw, ac nid Efe ynddynt hwy. Dyna, mewn gair, oedd yn c) fansoddi ei Holl-bresen- oldeb—nid Duw mewn amser a lie, ond amser a lie yn Nuw. Cwestiwn arall a ofynid oedd, pa fodd y gallai Hollalluogrwydd fod cyn creu -cyn i Dduw wneyd dim. Ah! nid dwyn y greadigaeth i fod oedd gwaith mawr Duw, ond dwyn yr hanfod i fod. Yr hanfod, a chynal yr hanfod oedd y pwnc mawr-nid cynal pechadur, ond cynal ei Hunan-mawr. Meidrol oedd y greadigaeth, tra mai Bod anfeidrol oedd y Creawdwr. Nid Duw segur oedd efe, ond Duw ag yr oedd ei holl Hanfod yn fyw drwyddi ac yn llawn gweithgarwch. Pe syniai dyn am Dduw fel Duw perffaith cyn creu, ni fyddai dim anhawsder wedi hyny i gredu mewn Duw yn y greadigaeth. Yn wir, nid oedd yn gofyn llawer o wybodaeth i ddirnad y peth oedd y tuallan i Dduw. Nid dyna oedd y gamp, eithr gwybod am y peth oedd y tufewn iddo—nid deall y cread ond deall yr hanfod. Yr oedd Duw yn hollwyb- odol erioed, ac yr oedd yn angenrheidiol syl- weddoli hyn, er cael syniad clir am y goruwch- naturiol yn Nuw. Wedi cael syniad clir am y goruwch-naturiol yn Nuw, rhaid oedd cael syniad clir am Y GORUWCHNATURIOL YN Y BEIBL. Yr oedd Cyfundeb y Methodistiaid yn credu yn y Beibl fel datguddiad goruwch-naturiol, a gobeithio na welid y dydd pan y byddai y Cyfundeb wedi rhoddi i fyny gredu yn ys- brydolrwydd y Beibl. Nid oedd efe yn golygu i hyn gau allan feirniadaeth-na, yr oedd perffaith ryddid i bawb i chwilio i mewn i gyfansoddiad y Beibl, ac nid oedd dim a barai fwy o flinder iddo ef mewn llyfrau diweddar na'r ffaith fod yr awdwyr yn dadleu eu hawl a'u rhyddid i feirniadu'r Beibl. Ar bob cyfrif, gadawed i'r awduron feirniadu'r Beibl, ond bydded iddynt hwythau wneyd hyny ar eu pwys a'u cyfrifoldeb eu hunain, ac nid yr eg- lwysi. Gadawer pob rhyddid i wyr ieuainc chwilio i mewn i dates a chyfansoddiad llyfrau y Beibl, ond byddai iddynt hefyd, ddal i gredu yn yr elfen oruwch-naturiol yn y Beibl, heb wadu trust-worthiness hanes Ysprydoledig y Beibl. Nis gellid credu yn y Beibl fel llyfr goruwch-naturiol, ac eto amheu gwirionedd hanesyddol y Beibl. Ychydig amser yn ol, bu ef yn darllen erthygl mewn un o'r cyfnod- olion ar y testyn, "The Bible in Tatters." ^grifenwyd yr erthygl gan broffeswr dysg- edig, yr hwn a ddadelfenai y Beibl nes gwneydl i ddyn feddwl fod y Llyfr Sanctaidd mewn,- cadachau. Prin yr oedd yn rhaid disgwyl am yr Encyclopaedia hwn i geisio profi fody Bible in Tatters." Bu ereill er's llawer dydd yn ceisio profi fod y Beibl mewn tatters. Honent nad oedd gwirionedd yn llyfr Genesis, na dim gwirionedd yn hanes y Pum'Llyfr, a pha beth oedd hyn amgen na rhwygo y Beibl. Yn ol y beirniaid hyn, nid oedd dim gwirionedd yn y ffaith fod Duw wedi myned i gyfamod ag Abraham; dim gwirion- edd yn yr hanes ddarfod i blant Israel fyned i wlad yr Aipht, ac i Dduw eu gwaredu oddiyna Beth oedd i'w wneyd yn erbyn ymgeisiadau fel hyn i rwygo y Beibl ? P'le 'roedd yr idea o ras, os na ddarfu i Dduw ddangos gras-beth a ddeuai o'r Athrawiaeth am ras ac adgyfod- iad y meirw Yn ol y bobl hyn, yr oedd: y Sechinah yn ffug a'r Tabernacl yn fraud., Ond beth, atolwg, am yr Epistol at yr Heb- reaid yn wyneb yr holl bethau hyn ? Na r nid oedd eisieu a disgwyl am esboniad Cheyne i gael y Beibl in tatters. Yn yr oes bresenol, yr oedd Froude, yr hanesydd, wedi ysgrifenu, ar gyfnod yn hanes Lloegr—teyrnasiad y Frenhines Elizabeth-yn yr hwn nad oedd yn byw, eto i gyd yr oedd y resources ganddor ac nid oedd ond ychydig yn amheu cysondeb" Froude, am nad oedd yn byw dan Elizabeth- Felly yn gymwys am yr Hen Destament, ac yn wir, y newydd t efyd yr oeddych yr-, rhwym fel Cyfundeb i gredu yn hanesiaeth yr Ysgrythyr Lan. Yr oedd hyn yn ei arwain yn awr at y goruwch-naturiol yng Nghrist- Tuedd yr oes oedd gwadu y gwirionedd mawr hwn Mawr yw dirgelwch duwioldeb, Duw a ymddangosodd yn y cnawd," &c. Dyma oedd; dysgeidiaeth yr Apostol Paul; dyna oedd; athrawiaeth yr ymgnawdoliad. Nid oedd y Cyfundeb eto wedi llyncu yr athrawiaeth hon; yn llwyr. Ar un llaw, yr oedd yr eglwys yn dal fod Iesu Grist yn berffaith ddyn, ac ar y Haw arall yn dal ei fod yn berffaith Dduw.. Ond er fod Crist yn berffaith ddyn, nid Duw ydoedd wedi ei "dodo" o'i briodoliaethau- Nis gallai ef synied am Dduw perffaith heb-, ei berffeithiau, ac os oedd yr eglwys am fod ar dir diogel yn y mater hwn, rhaid oedd iddi- ddal yn y ddau wirionedd—fod CRIST YN BERFFAITH DDYN AC YN BERFFAITH DDUW. Ond sut yr oedd cysoni y ddau wirionedd mawr hyn ? Dyna'r anhawsder, ac yn wir, yr oedd ef yn berffaith barod i addef nas gallai gysoni meidroldeb creadur ac anfeid- roldeb Creawdwr. Ar yr un pryd, mentrais ddyweyd fod yr harmony yn yr Ymgnawdol- iad. "Yr hwn ac efe yn ffurf Duw (ac yn parhau i fod meddai y rhai sydd yn galli*. deongli y geiriau gwreiddiol) a'i gwaghaodd ei hun" &c. Tuedd beirniaid yr oes ddi- weddaf hon oedd rhoi pwyslais ar y gair gwaghaodd," ond yr oedd yr Apostol Paul yn rhoi y pwyslais ar y gair hun." Efe a's gwaghaodd ei hun." Ond gwaghau ei hun o. beth, atolwg ? Nid oedd yr Apostol yn dy- weyd, ond braidd na fentrai ef ddyweyd, mai nid o'i briodoledd, ond o'i hunan, neu mewn geiriau ereill, o'i ewyllys, yr hyn ydoedd hunan ddyn. Ego creadur a Chreawdwr oedd ei, Ewyllys, a dyma yr unig beth oedd yn' perthyn i'r ddynoliaeth ag yr oedd ganddo 41 gommand ami. Fe anturiai ef feddwl am, yr Anfeidrol Dduw nas gallai amddifadu ei hun o'i Anfeidroldeb. Yn yr ymgnawdoliad fe waghaodd Crist ei hun, nid o'i anfeidroldebr ond o'i ewyllys-y peth mwyaf ymherodrol oedd yn perthyn iddo. Yn ol yr Ysgrythyrr fe gymerodd Crist arno ei hun agwedd gwasr ac fel y gwyddent, nid oedd gan was, fel y cyfryw, ewyllys o'i eiddo ei hun, oblegid gwneyd ewyllys arall y byddai ef bob amser, Dyna, mewn gair, wnaeth Crist-nid gwneyd ei ewyllys ei hun, ond ewyllys yr Hwn a'i hanforcdd. Fe daflodd Ef ei briodoliaethaii yn eu crynswth i wasahaeth ufudd-dod. Dr. Edwards o'r Bala oedd bia'r synia yna, a dyna, yn ol yr hyn ddywedai ef, oedd yn, gwneyd i fyny'r lawn-Crist yn taflu ei briod- oliaethau i wasanaeth ufudd-dod, (Tw barhau.)