Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
CELT LLUNDAIN.I
CELT LLUNDAIN. I Sadwrn, Mai 24ain, 1902. CENEDLAETHOLDEB MEWN GWLEIDYDDIAETH. Tarawyd tant amserol gan Mr. Lloyd 'George yn ei anerchiad yr wythnos hon o ifiaen Cymdeithas Cymru Fydd Caerdydd. Anogai hwynt 1 roddi y sylw priodol i genedl- aetholdeb Cymreig yn eu hamcanion gwleid- yddol, a dangosai iddynt bwysigrwydd a gwerth cenedloedd bychairi mewn ymher- odraeth fel hon. Yr oedd yn dda genym weled Mr. George yn rhoddi pwyslais ar hyn, oherwydd y mae gwleidyddwyr Cymru yn ddiweddar wedi haner-anghofio fod cenedl y Cymry yn edrych ar bethau o wahanol saf- bwynt i'r gwleidyddwr cyffredin a ddilyna o hirbell, ac yn wasaidd, yr hyn a barotoir iddo g-an swyddogion y blaid Ryddfrydol Seisnig yn ardal Westminster. • Y ffaith ant dani yw, fod gwleidyddiaeth Gymreig y dyddiau hyn wedi dirywio yn -ddirfawr. Mae pawb wedi anghofio fod yna aiod arbenig i alwadau a dyheadau gwleid- yddol Cymru ar wahan i eiddo pobl Lloegr, ond rywfodd neu gilydd y mae'r arbenigion yna wedi eu llwyr anwybyddu yn ddiweddar, a hyny am y ffaith ein bod ni fel cenedl wedi bod mor ffol a rhedeg ar ol Sais-garwyr, a chroesawu pobl i'n plith fel aelodau Seneddol nawyddant ddim am ein traddodiadau ac nad oes y mymryn lleiaf o gydymdeimlad ynddynt tuag at yr hyn a gred y Cymro sydd o bwys aieillduol iddo ef. Am saig o arian yr aelodau cyfoethog yr ydym wedi gwerthu genedig- aeth fraint rhyddid gwerin Cymru, a thra y (parhawn mor wasaidd a bradwrus ni fydd ond trallod a blinder i'n rhan fel gwlad. Nid fel yr edrych y Sais ar bethau yr ^edrych y Cymro. Y mae gwahaniaeth dir- fawr rhwng y modd y ceisia Cymru ryddhad oddiwrth yr Eglwys Wladol a'r modd y mae Lloegr drwy Gymdeithas Rhyddhad Crefydd yn ceisio cael gwared o'r cysylltiad, ond ychydig o bwys a roddir i'r gwahaniaeth gan ein haelodau Seisnigaidd. Ymhellach, nid yr un yw gorthrwm y Mesur Addysg presenol i werin Lloegr ag a fydd i werin Cymru, a goreu po gyntaf y daw ein harweinwyr gwleid- yddol yn ymwybodol o'r ffaith, ac y mae degau o fan bynciau pwysig y mae'r Cymro yn teimlo eu anhegwch mewn dull tra gwa- hanol i'r gwleidyddwr Seisnig cyffredin. Beth sydd yn cyfrif am hyn ? Dim ond fod pob cenedl yn edrych ar bethau o safbwyntiau gwahanol, ac hyd nes y daw Lloegr i weled- iad clir o'r gwahanfur cenedlaetbol hwn ni <!daw ei Senedd byth yn Senedd a gerir gan bob dosbarth yn yr Ymherodraeth. Hwyrach y ceisia rhywun esgusodi ein gwleidyddwyr drwy ddyweyd nad yw o un defnydd i ddwyn y cri cenedlaethol ar lawr Ty'r Cyffredin. Y mae'r Sais mor ymarferol does wiw ceisio ei argyhoeddi o un gorth- rwm os na fydd y baich yn gorwedd yn llawn mor drwm ar ei ysgwyddau ef hefyd. Nid yw hynyna yn un esgus, ac ni ddylai neb ei ddefnyddio ar ran pobl Cymru, oherwydd ar \bob achlysur ag y dodwyd achosion Cymreig ger bron y Ty, rhoddir gwrandawiad iddynt ar unwaith os llwyddir i'w gosod o safon y genedl, ac nid o safbwynt y dadleuydd sych. Arbob adeg ag y mae Cymru wedi liwyddo i ;;gael unrhyw fesur, fe'i cafodd am fod y wedd cenedlaethol wedi llwyr argyhoeddi y Sais ein bod ni yn edrych ar betbau o safbwynt hollol ^ahanol iddo ef. Ac os am lwyddo yn y dyfodol, rhaid i'r nod gael ei godi eto ynglyn <& phob peth a berthyn i ni fel pobl. # Y mae'r cwestiwn yma o roddi yr amlygiad dyladwy i anghenion pobl Cymru yn ei gwleidyddiaeth yn beth pwysig i Senedd Prydain. Y mae'n fwy pwysig fyth i ni fel cenedl. Dyma mewn gair yw ein Cymreig- aeth mewn gwleidyddiaeth, a rhaid i bwy bynag sydd am wasanaethu Cymru yn onest a chywir roddi y cwestiwn hwn o flaen pob dim. Pan gododd Cymru fel un gwr o blaid cael cyfiawnder i bleidleiswyr Cymreig ar ol ethol- iad 1868, caed amlygiad clir o beth yw Cym- reigaeth mewn gwleidyddiaeth, oherwydd aeth y Cymry yr adeg hono i edrych i fewn i'w neillduolion eu hunain. Gosodasant eu cwyn- ion eu hunain ger bron a chawsant arweinwyr priodol fel y diweddar Tomos Gee a Henry Richard, gyda'r canlyniad i'r wlad deimlo yn y diwedd fod genym rywbeth wedi'r cyfan oedd yn werth gwneud defnydd o hono, ac wedi defnyddio ein cenedlaetholdeb i'r iawn gyfeiriad, caed, fel y cofir, y fath fuddugol- iaethau yng Nghymru nes yr ysgubwyd pob Seneddwr gorthrymus o'r tir. Ond ar ol y llwyddiant hwnw yr ydym nawr fel pe am anghofio yr elfenau a roddasant i ni y fuddug- oliaeth, gan fyned yn ol at yr hen arferion o ddilyn y Sais yn ei geisiadau, a rhoddi spectol y Sais am eu trwynau er edrych or bob pwnc gwleidyddol drwyddynt. Ni wna hyn mor tro, ac yr oedd yn hen bryd i'r wlad gael ei dihuno o'r difrawder er mwyn iddi edrych ar y pynciau gwladol presenol nid yn ol dull y blaid hon neu'r blaid arall eithr o safon cenedlaetholdeb Gymreig, ac os gweithreda ar y safon hono, yna daw pob peth i drefn. Yr ydym yn diolch i Mr. George am ei ddad- ganiad, a gwyddom ei fod ef er's blynyddau bellach wedi cael y gwelediad cywir ar fater- ion Cymreig, a dyna sydd i gyfrif am ei Iwyddiant ysguboI ar lawr Ty'r Cyffredin y dyddiau. hyn.
GWIBDAITH Y SULGWYN.
GWIBDAITH Y SULGWYN. Darfu i Ysgolion Sabbothol Shirland Road, Hammersmith, Walham Green, Lancaster Road, St. Mary's Institute, Kensal Rise, a Harlesden, fwynhau eu hunain yn y modd goreu yn eu gwibdaith flynyddol y Llungwyn. Tref brydferth Slough oedd y dewisfan eleni, a chredwn nad oes neb yn edifar o hyny. Cychwynodd y gerbydres gyda'i llwyth cyn- taf o orsaf Paddington am 9.15, a bu wrthi'n ddiwyd hyd nes yr arllwysodd ei llwyth olaf o laethwyr a masnachwyr yng ngorsaf Slough tua 3 o'r gloch. Mewn cae cyfagos (yr hwn yn garedig a roddwyd at ein gwasanaeth gan y boneddwr parchus A. Harding, Ysw., High Street), yr oedd difyrion o bob math wedi eu trefnu. Mewn un gornel gellid gweled rhai gyda'r bel a'r bat yn chwareu criciad, a thruganedd i fechgyn Awstralia nad oeddent yn cystadlu a rhain. Yn eu hymyl yr oedd y taflwyr quoits, a nes ym mlaen bechgyn y bel droed, yn edrych bron a dotio ami, ac eto yn ei chicio fel pe byddai yn elyn penaf iddynt. Gwelem eraill fan draw gyda "rhaff dair caingc, yr hon ni thorir ar frys," mewn rhyfel brwd, rhai yn tynu ffordd hyn ac eraill ffordd arall, a dedwydd oedd gweled ambell i laeth- wr cryf (a gellid dyweyd eu bod yn rhai pwysig mewn mwy nag un ystyr), yn taflu eu holl egni i'r ymdrechfa hon. Yrhedegwyr a feddianau ran arall, ac yno yr oedd arolyg- wyr yn gymysg ag athrawon ac ysgolheigion yn ymryson am y dorch. Ond canol y cae oedd wedi ei feddianu gan ddosbarth gwahanol, fan yma oedd y "rhyw deg a'u canlynwyr yn chwareu deuoedd a hrioedd," ac yn eu hymyl yr oedd y cylch cusanu," a phleser oedd gweled pob oed a gradd o fewn y cvlch cyfrin hwn. Yn y Neuadd Gyhoeddus yr oedd y dar- pariadau ar gyfer y corph wedi eu parato;, a gallem feddwl i bawb wneud ei ran yn gan- moladwy iawn yn wir. Oherwyd i'r hin droi allan dipyn yn anffafriol tua 6 o'r gloch, ailgyfarfyddwyd drachefn yn y Neuadd, a chafwyd Cyfarfod Amrywiaethol o'r fath oreu mewn canu, adrodd, a chystadlu. Tut wyth o'r gloch, cychwynwyd yn ol am Paddington drachefn, a pawb yn sobr, er fod defnydd mawr wedi ei wneud o'r botel (neu yn hytrach y don Ebenezer) yn ystod y dydd.
[No title]
Mewn cyfarfod o Gyngor Coleg Prifysgol Deheudir Cymru, yr wythnos ddiweddaf, pas- iwyd i gyflwyno anerchiad o longyfarchiad i Ardalydd Bute ar ei ddyfodiad i'w oed y mis nesaf. Gwrthododd yr Ysgrifenydd Cartrefol ym- yraeth a'r ddedfryd o dair blynedd o benyd wasanaeth a basiwyd ar Edward Jenkins, swyddog o dan Gorphoraeth Caerdydd, am gelciad. Bu anhap ddifrifol ar un o lynoedd Killarney yn ystod y gwyliau. Aeth parti o bleser- deithwyr allan mewn cwch hwyliau, a thra yn mwynhau eu hunain, daeth ystorm sydyn ar eu gwarthaf nes dymchwelyd y cwch a boddi yr oil oedd ynddo-triarddeg o eneidiau. Nos Fawrth diweddaf yn Sheffield bu dam-. wain difrifol i ferch ieuanc, yr hon a geisial ddisgyn o awyren drwy gymhorth parachute, Ar ol esgyn ychydig ganoedd o droedfeddi, dadgysylltodd ei hun a'r offeryn oddiwrth yr awyren, ond ni lanwyd mo'r parachute ag awyr fel arferol, a'r canlyniad oedd i'r ferch syrthio i'r ddaear a chael ei Iladd ar amrant- iad. Yr oedd golwg druenus ar y corff pan gaed o hyd iddo.
Advertising
CAPEL CYMREIG WILLESDEN GREEN (265, WILLESDEN LANE). CYNHELIR A Te a'r Cyngherdd Blynyddol YN Y CAPEL UCHOD NOS IAU, MEHEFIN Y 5ed, Datganwyk— Miss GWEN DAVIES Mrs. TIMOTHY DAVIES Mr. THOMAS THOMAS Mr. ARMON JONES Adroddwr-Mr. R. A. DAVIES Cyfeilydd-Miss MAGGIE ELLIS TE AR Y BYRDDAU AM 5 O'R GLOCH. CYNGHERDD I DDECHREU AM 7.30 Mae y Capel waitj tri mynud 0 orsaf Willesden Green (Metropolitan), ac y mae 'Buses o Kilburnr Westminster, a Victoria yn pasio y drws. AN EISTEDDFOD WILL BE HELD AT ST, SAVIOUR'S HALLS, COBBOLD ROAD, SHEPHERD'S BUSH, (Off the Uxbridge Rd., by Princess Victoria) ON Wednesday, June 2, 3, & 4 1902. TO BE OPENED AT 3 EACH DAY. June 2. By Lord Aberdare 3. By the Rev. Prebendary Ridgeway to 4. By Osmond Williams, Esq., M.P. Cymer Cystadleuaethau le yn ddyddiol mewn CELFYDDYD, CERDDORIAETH, I RHYDDIAETH, &c. Prices of Admission- Reserved Seats 5/- each day, or 10/- for three days „ 2/6 each days or 5/- for 3 days. Admission, 1/- Children, Half-Price* For further particulars, apply to Miss ALICE WILLIAMS 16, Inverness Terrace, W.