Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CELT LLUNDAIN.I

GWIBDAITH Y SULGWYN.

News
Cite
Share

GWIBDAITH Y SULGWYN. Darfu i Ysgolion Sabbothol Shirland Road, Hammersmith, Walham Green, Lancaster Road, St. Mary's Institute, Kensal Rise, a Harlesden, fwynhau eu hunain yn y modd goreu yn eu gwibdaith flynyddol y Llungwyn. Tref brydferth Slough oedd y dewisfan eleni, a chredwn nad oes neb yn edifar o hyny. Cychwynodd y gerbydres gyda'i llwyth cyn- taf o orsaf Paddington am 9.15, a bu wrthi'n ddiwyd hyd nes yr arllwysodd ei llwyth olaf o laethwyr a masnachwyr yng ngorsaf Slough tua 3 o'r gloch. Mewn cae cyfagos (yr hwn yn garedig a roddwyd at ein gwasanaeth gan y boneddwr parchus A. Harding, Ysw., High Street), yr oedd difyrion o bob math wedi eu trefnu. Mewn un gornel gellid gweled rhai gyda'r bel a'r bat yn chwareu criciad, a thruganedd i fechgyn Awstralia nad oeddent yn cystadlu a rhain. Yn eu hymyl yr oedd y taflwyr quoits, a nes ym mlaen bechgyn y bel droed, yn edrych bron a dotio ami, ac eto yn ei chicio fel pe byddai yn elyn penaf iddynt. Gwelem eraill fan draw gyda "rhaff dair caingc, yr hon ni thorir ar frys," mewn rhyfel brwd, rhai yn tynu ffordd hyn ac eraill ffordd arall, a dedwydd oedd gweled ambell i laeth- wr cryf (a gellid dyweyd eu bod yn rhai pwysig mewn mwy nag un ystyr), yn taflu eu holl egni i'r ymdrechfa hon. Yrhedegwyr a feddianau ran arall, ac yno yr oedd arolyg- wyr yn gymysg ag athrawon ac ysgolheigion yn ymryson am y dorch. Ond canol y cae oedd wedi ei feddianu gan ddosbarth gwahanol, fan yma oedd y "rhyw deg a'u canlynwyr yn chwareu deuoedd a hrioedd," ac yn eu hymyl yr oedd y cylch cusanu," a phleser oedd gweled pob oed a gradd o fewn y cvlch cyfrin hwn. Yn y Neuadd Gyhoeddus yr oedd y dar- pariadau ar gyfer y corph wedi eu parato;, a gallem feddwl i bawb wneud ei ran yn gan- moladwy iawn yn wir. Oherwyd i'r hin droi allan dipyn yn anffafriol tua 6 o'r gloch, ailgyfarfyddwyd drachefn yn y Neuadd, a chafwyd Cyfarfod Amrywiaethol o'r fath oreu mewn canu, adrodd, a chystadlu. Tut wyth o'r gloch, cychwynwyd yn ol am Paddington drachefn, a pawb yn sobr, er fod defnydd mawr wedi ei wneud o'r botel (neu yn hytrach y don Ebenezer) yn ystod y dydd.

[No title]

Advertising