Hide Articles List

4 articles on this Page

CELT LLUNDAIN.I

News
Cite
Share

CELT LLUNDAIN. I Sadwrn, Mai 24ain, 1902. CENEDLAETHOLDEB MEWN GWLEIDYDDIAETH. Tarawyd tant amserol gan Mr. Lloyd 'George yn ei anerchiad yr wythnos hon o ifiaen Cymdeithas Cymru Fydd Caerdydd. Anogai hwynt 1 roddi y sylw priodol i genedl- aetholdeb Cymreig yn eu hamcanion gwleid- yddol, a dangosai iddynt bwysigrwydd a gwerth cenedloedd bychairi mewn ymher- odraeth fel hon. Yr oedd yn dda genym weled Mr. George yn rhoddi pwyslais ar hyn, oherwydd y mae gwleidyddwyr Cymru yn ddiweddar wedi haner-anghofio fod cenedl y Cymry yn edrych ar bethau o wahanol saf- bwynt i'r gwleidyddwr cyffredin a ddilyna o hirbell, ac yn wasaidd, yr hyn a barotoir iddo g-an swyddogion y blaid Ryddfrydol Seisnig yn ardal Westminster. • Y ffaith ant dani yw, fod gwleidyddiaeth Gymreig y dyddiau hyn wedi dirywio yn -ddirfawr. Mae pawb wedi anghofio fod yna aiod arbenig i alwadau a dyheadau gwleid- yddol Cymru ar wahan i eiddo pobl Lloegr, ond rywfodd neu gilydd y mae'r arbenigion yna wedi eu llwyr anwybyddu yn ddiweddar, a hyny am y ffaith ein bod ni fel cenedl wedi bod mor ffol a rhedeg ar ol Sais-garwyr, a chroesawu pobl i'n plith fel aelodau Seneddol nawyddant ddim am ein traddodiadau ac nad oes y mymryn lleiaf o gydymdeimlad ynddynt tuag at yr hyn a gred y Cymro sydd o bwys aieillduol iddo ef. Am saig o arian yr aelodau cyfoethog yr ydym wedi gwerthu genedig- aeth fraint rhyddid gwerin Cymru, a thra y (parhawn mor wasaidd a bradwrus ni fydd ond trallod a blinder i'n rhan fel gwlad. Nid fel yr edrych y Sais ar bethau yr ^edrych y Cymro. Y mae gwahaniaeth dir- fawr rhwng y modd y ceisia Cymru ryddhad oddiwrth yr Eglwys Wladol a'r modd y mae Lloegr drwy Gymdeithas Rhyddhad Crefydd yn ceisio cael gwared o'r cysylltiad, ond ychydig o bwys a roddir i'r gwahaniaeth gan ein haelodau Seisnigaidd. Ymhellach, nid yr un yw gorthrwm y Mesur Addysg presenol i werin Lloegr ag a fydd i werin Cymru, a goreu po gyntaf y daw ein harweinwyr gwleid- yddol yn ymwybodol o'r ffaith, ac y mae degau o fan bynciau pwysig y mae'r Cymro yn teimlo eu anhegwch mewn dull tra gwa- hanol i'r gwleidyddwr Seisnig cyffredin. Beth sydd yn cyfrif am hyn ? Dim ond fod pob cenedl yn edrych ar bethau o safbwyntiau gwahanol, ac hyd nes y daw Lloegr i weled- iad clir o'r gwahanfur cenedlaetbol hwn ni <!daw ei Senedd byth yn Senedd a gerir gan bob dosbarth yn yr Ymherodraeth. Hwyrach y ceisia rhywun esgusodi ein gwleidyddwyr drwy ddyweyd nad yw o un defnydd i ddwyn y cri cenedlaethol ar lawr Ty'r Cyffredin. Y mae'r Sais mor ymarferol does wiw ceisio ei argyhoeddi o un gorth- rwm os na fydd y baich yn gorwedd yn llawn mor drwm ar ei ysgwyddau ef hefyd. Nid yw hynyna yn un esgus, ac ni ddylai neb ei ddefnyddio ar ran pobl Cymru, oherwydd ar \bob achlysur ag y dodwyd achosion Cymreig ger bron y Ty, rhoddir gwrandawiad iddynt ar unwaith os llwyddir i'w gosod o safon y genedl, ac nid o safbwynt y dadleuydd sych. Arbob adeg ag y mae Cymru wedi liwyddo i ;;gael unrhyw fesur, fe'i cafodd am fod y wedd cenedlaethol wedi llwyr argyhoeddi y Sais ein bod ni yn edrych ar betbau o safbwynt hollol ^ahanol iddo ef. Ac os am lwyddo yn y dyfodol, rhaid i'r nod gael ei godi eto ynglyn <& phob peth a berthyn i ni fel pobl. # Y mae'r cwestiwn yma o roddi yr amlygiad dyladwy i anghenion pobl Cymru yn ei gwleidyddiaeth yn beth pwysig i Senedd Prydain. Y mae'n fwy pwysig fyth i ni fel cenedl. Dyma mewn gair yw ein Cymreig- aeth mewn gwleidyddiaeth, a rhaid i bwy bynag sydd am wasanaethu Cymru yn onest a chywir roddi y cwestiwn hwn o flaen pob dim. Pan gododd Cymru fel un gwr o blaid cael cyfiawnder i bleidleiswyr Cymreig ar ol ethol- iad 1868, caed amlygiad clir o beth yw Cym- reigaeth mewn gwleidyddiaeth, oherwydd aeth y Cymry yr adeg hono i edrych i fewn i'w neillduolion eu hunain. Gosodasant eu cwyn- ion eu hunain ger bron a chawsant arweinwyr priodol fel y diweddar Tomos Gee a Henry Richard, gyda'r canlyniad i'r wlad deimlo yn y diwedd fod genym rywbeth wedi'r cyfan oedd yn werth gwneud defnydd o hono, ac wedi defnyddio ein cenedlaetholdeb i'r iawn gyfeiriad, caed, fel y cofir, y fath fuddugol- iaethau yng Nghymru nes yr ysgubwyd pob Seneddwr gorthrymus o'r tir. Ond ar ol y llwyddiant hwnw yr ydym nawr fel pe am anghofio yr elfenau a roddasant i ni y fuddug- oliaeth, gan fyned yn ol at yr hen arferion o ddilyn y Sais yn ei geisiadau, a rhoddi spectol y Sais am eu trwynau er edrych or bob pwnc gwleidyddol drwyddynt. Ni wna hyn mor tro, ac yr oedd yn hen bryd i'r wlad gael ei dihuno o'r difrawder er mwyn iddi edrych ar y pynciau gwladol presenol nid yn ol dull y blaid hon neu'r blaid arall eithr o safon cenedlaetholdeb Gymreig, ac os gweithreda ar y safon hono, yna daw pob peth i drefn. Yr ydym yn diolch i Mr. George am ei ddad- ganiad, a gwyddom ei fod ef er's blynyddau bellach wedi cael y gwelediad cywir ar fater- ion Cymreig, a dyna sydd i gyfrif am ei Iwyddiant ysguboI ar lawr Ty'r Cyffredin y dyddiau. hyn.

GWIBDAITH Y SULGWYN.

[No title]

Advertising