Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

GOGLEDD CYMRU A'R MESUR ADDYSG.

News
Cite
Share

GOGLEDD CYMRU A'R MESUR ADDYSG. Mae arweinwyr Ymneullduol Gogledd Cymru wedi dihuno i'r gad, a dydd Iau cyn y Sulgwyn caed cynhadledd fawr yng Nghaer- narfon i drin y Mesur Addysg Eglwysig sydd ar hyn o bryd o flaen ystyriaeth pobl Ty'r Cyffredin. Paeth dros bedwar cant o gyn- rychiolwyr ynghyd, a Ilywyddwyd gan y Parch. Ishmael Evans, gynt Llundain. Pasiwyd nifer o benderfyniadau condemniol o'r mesur, a chaed areithiau brwdfrydig gan nifer o weinidogion dylanwadol y gogledd. Yn yr hwyr yr un dydd cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn neuadd y dref, o dan lywydd- iaeth y Parch. D. Rees, cyn-gadeirydd Cyngor Sirol Mon. Wrth agor y gweithrediadau, dywedai y Cadeirydd fod cefnogaeth yn cael ei roddi i'r Mesur gan bobl oeddynt wedi profi eu hunain yn hynod o anghyson. Yr oedd egwyddorion Rhyddfrydol yn aros yr un, er fod rhai o'r arweinwyr wedi myned gyda'r gwynt. Teim- lai ef yn falch fod Cymru yn cael ei chyn- rychioli yn y Senedd gan wyr mor alluog ac -mor fedrus. Yr oeddynt wedi dangos eu gallu drwy wrthwynebu y Mesur anghyfiawn a datgan yn groew beth oedd barn pobl Cymru ar y mater. Yr oedd yn hen bryd i Ymneullduwyr Cymru ddywed wrth yr offeir- iaid am fyn'd. Fe wnaed hebddynt yn y gorphenol, ac yr oedd yn bosibl gwneyd heb- ddynt eto yn y dyfodol. Os methai y Saeson a gorchfygu y Mesur, yna rhaid fyddai i Gymru geisio rhwystro ei osod mewn gweith- rediad yn y Dywysogaeth. Y Parch. J. E. Hughes, M.A., a gynygiodd benderfyniad yn condemnio y Mesur. Dywed- odd fod y mesur yn golygu troi y cloc yn ol haner can' mlynedd. Ni ddygwyd Mesur mor chwyldroadol o flaen y Senedd er's dydd- iau y Frenhines Anne. Nid oedd gan y Llywodraeth hawl i ddwyn y Mesur ym mlaen, oherwydd nid oedd yr etholwyr wedi rhoddi iddynt awdurdod i wneyd hyny. Os y pesid y Mesur byddai blwyddyn Coroniaid y Brenhin Iorwerth y Seithfed yn un o'r rhai tywyllaf yn hanes Anghydffurfwyr. Yr oedd yn mawr obeithio y byddai i Mr. Lloyd George ac ereill ei lindagu pan y deuai o flaen y pwyllgor. Y Parch. Hugh Jones, Bangor, a eiliodd y cynygiad. Dywedodd mai y rheswm dros ddwyn y Mesur ym mlaen ydoedd fod y Llywodraeth yn dymuno gwneyd y wlad yn dduwiol (chwerthin). Yr oedd hynyn bwysig, ond pa dduwioldeb a fyddai ? Nid dysgu pobl i garu Duw- a charu eu gilydd. Ni fuasai ganddo wrthwynebiad pe dyna yr addysg grefyddol a fwriedid roddi. Ond ei swm a'i sylwed ydoedd mai hereticiaid ydoedd yr Ym- neullduwyr i gyd, ac mai athrawon a phrophwydi gau ydoedd holl bregethwyr Cymru. Un o'r peryglon mwyaf a wynebodd y wlad erioed ydoedd y Mesur, cefnogwyr yr hwn oeddynt yn ceisio hau cyfeiliornadau yn meddyliau plant, y rhai oeddynt yn analluog i'w deall. Nid yr amcan oedd ceisio gwneyd Cristionogion o'r plant; ac yr oedd yn apelio at Ymneullduwyr i ddefnyddio pob moddion i wrthsefyll pobpeth oedd mewn cyfathrach a'r Mesur. Os oedd yr offeiriaid yn dymuno dysgu eu hathrawiaethau hwy eu hunain i'r plant, na fyddai i'r Ymneullduwyr dalu trethi yn wirfoddol nac yn anwirfoddol i ddwyn hyny o amgylch. Os yr elai y Mesur drwy y Senedd byddai Ymneullduaeth y wlad mewn perygl mawr. Credai y byddai i'r Mesur gael ei ddyrysu ychydig pan o flaen y pwyllgor, oherwydd byddai Mr. Lloyd George yno. Beth bynag allai fod gallu Balfour a digywil- ydd-dra Chamberlain yr oedd yn aros ddigon o nerth yn y wlad (cymeradwyaeth). ARAETH MR. D. LLOYD GEORGE. Mr. D. Lloyd George, A.S., yr hwn a dder- byniwyd gyda brwdfrydedd, a ddywedodd fod yna atebiad i'r hyn a ddywedid gyda gwawd fod Ymneullduwyr eisoes yn talu trethi i gynal ysgolion enwadol. Yr atebiad oedd nad oedd gan y wlad syniad o gwbl beth oedd yn cael ei dalu. Pe buasai Ymneullduwyr wedi sylweddoli fod pum' miliwn yn cael ei dalu yn flynyddol tuagat gynal ysgolion enwadol buasent wedi gwneyd gwrthdystiad cyn hyn. Yr oedd y cytundeb a wnaed yn 1870 yn annheg tuagat Ymneullduwyr. Y pryd hyny yr oedd Mr. Chamberlain mor gryf yn erbyn y cytundeb ag yr oedd yn awr o'i blaid. Yr oedd yr Ymneullduwyr wedi sefyll at y fargen, er eu bod yn ei hystyried yn annheg; ond yr oedd y blaid boliticaidd a ymffrostiai mai hi oedd yr unig blaid grefyddol yn y wlad wedi bod mor anfoesol a thori y fargen hono. Ni wnaed hyny ar y dechreu yn agored. Na, yr oedd cochl addysg rydd yn cuddio dagr sectyddiaeth. Drwy y Mesur Addysg pres- enol yr oedd y wlad yn gallu gweled beth oedd eisoes wedi cael ei wneyd gan y Toriaid i gynorthwyo ysgolion enw; dol, ond un peth a wnai y Mesur ydoedd dysgu Ymneullduwyr i roddi terfyn ar gyfundrefn addysg oedd a'i thuedd i roddi y flaenoriaeth i blant Eglwys- wyr. Paham yr oedd eisieu dysgu Catecism Eglwys Loegr yn yr ysgolion ? Ni chai y Cyffes Ffydd" fyned yn nes na drws yr ysgolion. Buasai ef yn cadw y ddau allan. Ni ddylai yr ysgolion gael eu gwneyd yn lle- oedd i ddysgu dim o'r fath; ond os am ddysgu cyffes paham y dylid dethol cyffes y sect leiaf, mwyaf dinod, a mwyaf diwaith yn y wlad? Yr oedd rhai plwyfi yng Nghymru nad oedd- ynt yn mwynhau yr un gradd o ryddid ag ereill, oherwydd yr oedd rhai plwyfi yn llywodraethu eu hunain, tra mewn ereill y clerigwyr a'r offeiriaid oeddynt yn llyw- odraethu. Cyfundrefn ydoedd a elai yn erbyn pob egwyddor o lywodraeth dda. Nid dysgu y Beiblond eu hathrawiaethau gwahan- iaethol hwy eu hunain yr oedd yr Eglwyswyr eisieu. Os felly raham na wnaent hyny ar eu cost eu hunain? Gellid dysgu gwersi o'r Beibl i'r plant heb ddigio yr un sect yn y wlad-er engraifft, gonestrwydd, gwirionedd, hunan-barch, hunan-lywodraeth. Wrth ddysgu plentyn i wneyd ei waith a pheidio ei esgeu- luso fe ddysgent iddo fwy nag oedd mewn Catecism. Drwy hyny fe'i dysgent i wynebu dyleds-vyddau bywyd pa mor gas bynag y byddent ganddo, Yr oedd y Mesur gerbron y Senedd yn anghyfiawnder a rhan helaeth o'r boblogaeth, y rhan fwyaf llafurus, diwyd, a darbodus oedd yn gysylltiedig a'r eglwysi Ymneullduol, ac fe welai yr Ymherodraeth hyn yn nydd ei chyfyngder. Dyma'r dynion y byddai yn rhaid i'r wlad ddibynu arnynt ac nid y mob a glywid yn gwaeddi yn yr heolydd (cymeradwyaeth). Byddai i'r hyn oedd oreu yn y wlad wrthwynebu y Mesur, yr hwn oedd wedi ei ddwyn ym mlaen trwy dwylJ. Y Proffeswr Morris Jones a gynygiodd bleidlais o ddiolchgarwch i Mr. Lloyd George, a dywedodd iddo ar un achlysur wneyd iddo yr englyn canlynol:— Of na fae i minnau fot—ie, fil, Neu fwy, i'w rhoi drosot; Y gwirionedd geir ynot, A thi yw'r gwr na thry 'i got." Eiliwyd gan Mr. J. Lewis, Llanllibio, a phasiwyd yng nghanol cymeradwyaeth.

[No title]

[No title]

GWRAIG YN COSPI EI GWR.

YR OLYGFA ODDIAR BONT DOLBENMAEN.