Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Byd y fan, t)

TEYRNGED AWEN.

PWLPUD FY NGWLAD.

News
Cite
Share

PWLPUD FY NGWLAD. Hen bwlpud ansymudol—a'i wyn ben Yn y byd ysbrydol Hwn, i dangnef nef yn ol Dry ein daear andwyol. Uchel dwr, a chlod Aaron-ar hanes Ei wroniaid ffyddlon Gosgordd hardd gysegrodd Ion I'w ddinasoedd yn weision. Gwyr fynent gario'i faner-yn wynion Frenhinoedd cyfiawnder; Eneidiau'n llawn o hyder- Dynion Duw o anian der. Seraphaidd tanbaid ein tir-yn cyneu Gan amcanion cywir; Udgyrn gwlad—a'u geiriau'n glir Drwy fynwent oeraf anwir. Dadau hen I daw daioni-am oesoedd O'u grymusol wersi; Mawrhawn lor am roi i ni Breiff awdwyr 0 brophwydi. Pwlpud Cymru, fu mor f awr-sy'n aros Yn heriol esgynlawr; Holl arfau y Fall erfawr Fu ry lesg i'w fwrw i lawr. Tywynion Puritanaidd—ynddo geir Yn hawddgarwch sanctaidd A'r dawn drud o hono draidd Sy'n felus a nefolaidd. Y gwir, yn llawn agored-a weddus Gyhoedda'n ddiarbed Efe'n olaf fyn weled Rhoi dawn y groes i'r down grade." Magwrfa diwygiadau," -ac oriel Gariad yr holl lwythau A mawr gwymp ameuwyr gau Barodd yr hen bwerau." Pa wlad a feiddia wadu—pwys talent Apostolion Cymru ? Ardderchog galonog lu, Trwm hollol, storm 0 allu. Edliwiwyd mewn chwedleuon—i'n gwerin Anfoesgarwch creulon; Ond uwch y brad iach yw bron Cenedl y menyg gwynion." Yr hen bwlpud drud a roes-ei bur lais I barlysu anfoes; Fe dry'n gryf drwy lawn y Groes, Addfwynaf reddfau einioes. Nid alawon Gwladlywiaeth-ac nid gwin 0 rawnwin Athroniaeth, I druan ddyn, drwy hwn ddaeth, Ond aeron iachawdwriaeth. Yn swn taranau Seina-ac heddwch Cyhoeddus Calfaria, Rhoi bwyd y nef i'r byd wna Digilwg bwlpud Gwalia. Arosed nawdd yr Iesu—i'r hen dwr, A'i dan i'w gynesu Boed ymhell o'i gafell gu, Bwnc amrwd yn boen Cymru.—Dyjed.

BYW FYTH A FO'R ANWYL GYMRAEG.