Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Byd y fan, t)

TEYRNGED AWEN.

News
Cite
Share

TEYRNGED AWEN. I Lewis Philip Griffiths, anwyl febyn Mr a Mrs Griffiths, 79, Goldhawk Road, Shepherd's Bush, yr hwn a fu farw Mai lleg, yn 15 mis oed, ac a gladdwyd yn Myn- went Tooting, dydd Gwener, Mai 16, 1902. Y blodyn hardd A aeth ei hun, I loni gardd Paradwys gun. Mae heddyw'n iach A lion ei wedd, Yn angel bach Ar feuaydd hedd. Mae'r Beibl byw Yn d'weyd ar g'oedd I'w riaint gwiw, Mai benthyg oedd. Yn ol yr aeth At Dduw Ei Hun, Efe a'i gwnaeth Mae'n Awdwr dyn. Trist ydyw gwedd Y fam a'r tad, Yn ymyl bedd Eu Lewis mad, Ow t siomiant hy' A ddaeth yn syn, Maent hwy'n eu du Ac yntau'n wyn Gwyn oedd ei arch Ond ber ei daith, A gwyn ei barch Trwy'r dyffryn llaith. jf Daearol bla Yw galar blin, Mae'r nef yn ha' I enaid dyn. Mor hardd yw gwedd Y mebyn syw Yngwlad yr Hedd, Anwylyn byw. Rieni mad, Er maint eich siom, Mae'r Dwyfol Dad Mewn calon drom. Na wylwch mwy Mae'r nef uwch ben, A gwlad ddi-glwy' Tu draw i'r lien. Yn dod mae'r dydd Cewch fyn'd yn iach Drwy nerth eich ffydd At Lewis bach. Willesden. LLINOS WYRE.

PWLPUD FY NGWLAD.

BYW FYTH A FO'R ANWYL GYMRAEG.