Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Byd y fan, t)

News
Cite
Share

Byd y fan, t) Gan PEDR ALAW. [",PENDENNIS," LOUGHTON.] Mawr ydyw nifer y darnau cerddorol a wthir ar y cyhoedd ynglyn a'r Ccroniad Bren- binol a gymer le yn fuan. Nis gwyddom pa nifer o anthemau Cymreig sydd wedi eu cyhoeddi ac yn bwrpasol i'r amgylchiad a enwyd. Ond, o bob math, gellid dod o hyd i baner cant neu ragor o ddarnau Seisnig. Hynod o ffodus ydoedd enillydd y wobr ar yr Ymdeithgan Goronog, sef Mr. Percy Godfrey. Daeth y cerddor ieuanc i sylw mewn enyd. Nid ydym eto wedi clywed y darn hwn, ond clywsom gan ereill nad yw yn ddarn hynod iawn wedi'r cyfan. Gobeithio fod ynddo fwy nac a gafwyd yng ngherddoriaeth Syr Arthur Sullivan i'r "Absent minded beggar." Synem lawer gwaith, pa fodd y gallai cerddor o'i safle ddodi ei enw uwchben cerddoriaeth o'r fath. Wedi'r cwbl, y mae rhywbeth mewn enw! Ac eto, nid enw yw pobpeth, canys nis cofiwn ddarllen, yn y papurau Seisnig, feirn- iadaeth lemach ar ddarn diweddar gan gerddor amlwg, na'r eiddo y Musical Stand- ard ar ymdeithgan goronog o waith Syr A. Mackenzie. Wele ddyfyniad o boni "There is apparently a little fiend up aloft that looks after the poor composers of coronation music. Sir Alexander Mackenzie is a cultured musician, but the new Corona- tion March might have been written by a student of scoring after a course of Sousa and Tchaikovsky. The march itself has some amiable melody and on the top of this drawn-out breadth we have some fanfares of approved Imperial spirit. Only why did Sir Alexander use six cornets and six side-drums for this fanfarronade? The effect at the Alhambra was ear-splitting and nowhere would it be noble. Besides, these cornets take all the tone out of the rest of the orchestra, so that the strings sounded quite weak and ineffective. This ill-considered scoring injures the march In other respects, the march is weak in sentiment, thematically thin and monoton- ous in treatment. And (Shade of Purcel!) it is to be played at Westminster Abbey!" Os yw hyn oil yn wir, gwelir nad oes gan y wasg Seisneg ofn datgan ei barn gerddorol, ac y mae hyn yn arwydd led dda ei bod mewn ystad obeithiol. Tybed y traethid fel hyn yng Nghymru ar ddarn gan un o brif gyfansoddwyr y genedl ? Na wneid yn ddiau. Nid am fod cerddoriaeth Gymraeg yn llai pur na'r eiddo ein cymydogion, ond byddai siarad rhy blaen yn debyg o effeithio ar y dyfyn- iadau oddiwrth y golofn hysbysiadol; ac y raae'r cylchrediad, fel rheol, yn rhy fach i'w adael allan o ystyriaeth. Clywsom gan un aeth drwy un o'r ysgolion cerddorol yn y ddinas hon fod cyfansoddwr Cymreig yng Nghymru yn ceisio dod drosto mewn ymgom gyfeillgar, dro yn ol. Yr oedd gan y cyfansoddwr eisio gwybod pa lodd y dysgid yr efrydwyr i leisio ac i ym- berffeithio yn eu celfyddyd; ond yn ei fyw nis gallai gael y rnanylion ynghylch y cwrs yr eid drwyddo, Ac yn y tywyllwch y mae ein brawd yng Nghymru o ran hyny o eglurhad a gaffai gan y cantor. Meddyliasom am hyn pan yn darllen ysgrif o waith Karleton Hackett yn ddiweddar ar y 4' Sylfon yn Niwylliant y Llais." Dywedef, yn ddigon gwir, fod un peth—un ffaith sylfaenol-ac y mae pob awdurdod lleis- iol yn cytuno ami, sef a ganlyn Wrth iawn gynyrchu ton, rhaid i'r gwddf fod mor rydd ag i fod heb ymdeimlad (sensation). Sylfaen holl ymdriniad y llais ydyw dadblygiad prydferthwch ton (tone), fel ag i beri ei bod yn bur. Y mae y moddau drwy ba rai y llwydda athrawon mewn lleisiadaeth i gael eu disgybl- ion i gynyrchu y gyfryw don yn bur amrywiol, a dibynant, i raddau, ar y defnyddiau sydd i'w darparu. Dywed yr ysgrifenydd a enwyd uchod nad yw y don o ansawdd bur yn rhodd natur, fel y credir yn gyffredin, eithr peth wedi ei feithrin drwy lafur caled ydoedd, Cymerer, er engraifft, Campanari—na'r hwn nid oes gantor perffeithiach. Dywedir gan bobl ei fod yn ganwr am nas gallai beidio bod, tra yr atebir ganddo ef ei hun nad yw wedi cyrhaedd ei berffeithrwydd Ueisiol heb astudiaeth galed am ysbaid o ddeuddeng mlynedd. Gwyddis hefyd rywbeth am yr astudiaeth faith yr aeth yr enwog Jean de Reszke drwyddi, er cael ymreolaeth berffaith ar ei lais godidog; a hefyd am yr anhawsderau a orchfygwyd gan David Bispham i gyrhaedd y safle y mae ynddi yn ein plith. Ac nid bob amser yr oedd Marcella Sembrich-y gantores fwyaf berffaith a wyr y genhediaeth am dani-y fath gelfyddydes ag y mae yn bresenol. Wrth orphen y llith hon, maddeuer i ni am ddyfynu yn fyr yn Saesneg y mae yn werth peidio cyfieithu'a ganlyn What is the secret that these artistes have mastered; what is the underlying principle by which they learned the art of song ? It is that production of tone which leaves the throat free, which does away with all muscular tension, all rigidity, so that the tone floats out with the breath in perfect beauty. How is this to be obtained ? That is the work for the studio." Hyderwn y caiff y geiriau hyn ystyriaeth ddyladwy gan ein dadganwyr ieuanc ac y byddant yn foddion i'w cymhell i astudio llawer a chystadlu ond ychydig.

TEYRNGED AWEN.

PWLPUD FY NGWLAD.

BYW FYTH A FO'R ANWYL GYMRAEG.