Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Oddeutu'r Ddinas.
Oddeutu'r Ddinas. Nos Fercher nesaf ceir araeth gan y bar- gyfreithiwr ieuanc, Mr W Llewelyn Williams, o flaen Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrod- orion yn 20, Hanover Square. Y noson ddilynol, sef nos lau y 29am, bydd y meddyg twymgalon (Dr. Morgan Davies, Goring Street), yn traddodi araeth o flaen Cymdeithas y Brythonwyr yn 63, Chancery Lane, ar Gymreigaeth mewn Barddoniaeth.' m m Hwn fydd cyfarfod olaf y Brythonwyr am y tymhor, a rhaid addef fod y Gymdeithas Gymreig hon wedi bod yn hynod o fyw yn ystod y gauaf, a sicr yw y daw yn ddylan- wadol ymysg sefydliadau addysgol ein cenedl oherwydd y mae eisoes wedi cyhoeddi nifer o bamphledau ydynt yn sicr o fod yn agoriad Ilygaid i'r dosbarth hyny na chredant fod dim gwerth mewn pethau Cymreig. Ar waethaf yr hin aeth tyrfaoedd o Gymry gyda'r pleserdeithiau i'r wlad dydd Llun diweddaf. Yr oedd ardal Brickett Wood wedi troi yn hoIlol Gymreig am y prydnawn oherwydd aeth nifer fawr iawn gydag Ysgol Jewin, ac yr oedd ysgolion ereill yno hefyd. Yr un modd gyda phobl y Tabernacl, yr oedd y cynulliad yn gystal ag y gellid dymuno o dan yr amgylchiadau. # Y GLOYN BYW. Plentyn gwawl swynawl y sydd-yn hofian Is nefoedd ar hafddydd, Moeth ei fant ac esmwyth fydd Ar dyner aur adenydd.—Gwynfbyn. » ♦ • Cafwyd cymanfa ragorol yn y Boro eleni, fel arfer, ar y Sulgwyn. Pregethwyd gan y Parchn. D. Adams, B.A., Lerpwl, a H. M. Hughes, B.A., Caerdydd. Hwy yw pregeth- wyr yr Undeb eleni yng Nghaernarfon yn Mehefin. Cydymdeimlir a Mr a Mrs Richard Griffiths, 79, Goldhawk Road, Hammersmith, yn eu hiraeth ar ol eu baban, Lewis Philip, yr hwn a fu farw boreu Saboth, Mai yr ueg, yn bymtheng mis oed. Claddwyd ef y dydd Gwener canlynol wrth ochr ei hen-daid yng Nghladdfa Gyhoeddus Tooting, pryd y gwas- anaethwyd gan weinidog y teulu-y Parch. D. Charles Jones, Boro. Cysured Duw y rhieni trallodus. Yr oedd adroddiad calonogol iawn ynglyn a'r Cyfundeb Methodistaidd yn Llundain wedi ei drefnu i'r Gymanfa Gyffredinol yn Lerpwl y dydd o'r blaen. Fel y gwyddis, y mae'r "Hen Gorffwedi llwyddo yn hynod yn y ddinas yma yn ystod yr ugain mlynedd sydd wedi myned heibio, ac y mae pob argoelion y pery i gynyddu eto yn y dyfodol. Mae'r eglwysi bychain sydd wedi eu sefydlu yn ddiweddar eisoes yn dechreu dod yn gryfion, ac y mae'r bugeiliaid ieuainc sydd wedi ym- sefydlu yn y gwaith yma yn graddol esgyn i anrhydedd yn y Cyfundeb. Gydag ychydig o gydweithrediad ac egni cyffelyb eto yn y dyfodol, gall Cymry Llundain ddod yn gylch pwysig yn hanes yr enwad. CYMDEITHAS DDIRWESTOL HEOL-Y- CASTELL. Hi ddaeth fal angyles i'n mysg i gartrefu, Ei gwisg sydd brydferthwch, a. lion yw ei gwedd. Mae'n nefol-anedig, a'i gwaith yn dyrchafu A phuro dynoliaeth, o'u llygredd dihedd. Llifeiriant erch meddwdod, sy'n bygwfch celanedd Gan fathra dynoliaeth fel Ilaid dan ei droed Ond hon, yn ei chariad a'i thyner ymgeledd, A gyfyd y truan, bob gradd a phob oed. Os ydyw cymdeithas yn cael ei dolurio Wrth weled plant dynion yn isel eu gwedd, Mae pelydr gobaith er hyn, yn disgleirio Tra duwies dirwestiaeth a geidw ei sedd Am hyny cydunwn bob oedran a graddau I godi glan faner dirwestiaeth i'r nen, Boed bendith y nefoedd ar famau a thadau, Gwyryfon a llanciau dirwestol, Amen. C.D.O. <t Nos lau cyn y diweddaf cafwyd cyfarfod dyddorol iawn ynglyn a Chapel y Wesleyaid Cymreig yn City Road. Fel y gwyddis y mae yn arferiad gan y cyfeillion ynglyn a'r eglwys hon i gael swperau coffi ynghyd a chyrddau adloniadol yn ystod tymhor y gauaf, a hon ydoedd gwledd derfynol y tymhor. Yr oedd yr adran i'r corph yn flasus, yn ad- fywiol ac wrth fodd pawb. Pan aed i loni'r meddwl, yr oedd pawb mewn cywair priodol; ac o dan lywyddiaeth cadeirydd fel y Cyng- horwr Howell J. Williams, nid oedd dim i ddisgwyl ond noson hwyliog a threfnus. Cymerwyd rhan gan y rhai canlynol:- Misses Mary Jenkins, Lucie Alexander, Evelyn Brothers, a'r Mri. Harrison Davies, David Evans, Tim Evans, a H. S. Jones (Ap Caralaw). Ar ol talu y diolchgarwch arferol, terfynwyd y cwrdd gyda "Hen Wlad fy Nhadau," Mr. David Evans yn arwain. Aeth pawb i'w ffyrdd wedi eu mwynhau yn fawr.
Advertising
D. J. TRUSCOTT & Co. DAIRY AGENTS. &c. 11, BOND COURT, WALBROOK, B.C. CLOSE TO MANSION HOUSE. MR. HENRY MORGAN, SURGEON DENTIST, 10, TAVISTOCK PLACE, W.C. Artificial Teeth from 5/- to 10/- Complete Sets (upper and lower) from 24 TEETH EXTRACTED UNDER GAS AND ETHER SPRAY. OLD SETS OF TEETH REMODELLED. NO CHARGE FOR CONSULTATION. "Siaredir Cymraeg os yn fwy dymunoi." CAPEL MILE END ROAD. CYNHELIR Cyfarfod Cystadleuol y Plant NOS LUN, MAI 26, 1902. Beirniaid- Cerddoriaeth—Mr. LLOYD JAMES, A.C. Amrywiaeth-Mr. R. A. DAVIES (Ymdeithydd). Mr. TOM JENKINS (Tom Park). Testynau y Plant allan o Raglen Cymanfa y Plant yn Jewin, Mai 29ain, 1902. Yn ychwanegol gwobrwyir y goreuon ar y Testynau canlynol- 1. Baritone, "Y Glowr" (The Collier), D. Emlyn Evans. Gvvobr, 5/- 2. Tenor, Llwybr y Wyddfa" (W. Davies). Gwobr 5/- 3. Soprano, Down the Vale" (in F), (F. L. Moir) Gwobr 5/- 4. Deuawd, "Lie Treigla'r Caveri" (R. S. Hifghesl. Gwobr, 7/6. 5. Canu, Darn a roddir ar y pryd. Gwobr 1/- Amrywiaeth- 6. Adroddiad, Arwerthiant y Caethwas," (Rirouethogl Gwobr 5/- 7. Darllen, darn a roddir ar y pryd. Gwobr, 1/- 8. Dadl, testyn roddir ar y pryd. Gwobr 1/- AMMODAU.—1. Cystadleuaethau y plant YI1 gyfyngedig i aelodau Mile End, Morley Hall, a Stratford. 2. Rhif 1-8 yn agored. 3. Ffugenwau i'w hanfon i'r Ysgrifenydd ar Mai 23ain. Ysgrifenydd-EV AN MORRIS, 138, Well Street, Hackney- MR. PHILIP LEWIS (WELSH VIOLINIST) FOUNDATION Scholar Royal College of Muaic, (1896-1901), Solo Violin at Queen's Hall, Sfc. James's Hall, and Albert Hall Con.cert&-81. St. Augustine's Road, N.W.
MRS. JANE EDWARDS, MAESDULAS,…
MRS. JANE EDWARDS, MAESDULAS, MACHYNLLETH. Hunod 1 y wraig rinweddol uchod yn yr Iesu ddiv. = dd yr wythnos cyn y ddiweddaf yn nhy ei merch a'i mab-yng-nghyfraith, 43, Red Lion Street, Clerkenwell, yn 80 mlwydd oed. Genedigol ydoedd o Ddolgellau, a'i henw morwynig oedd Jane Roberts. Chwaer iddi oedd Mrs. Ann Evans, Dolgellau, mam Mr. Nathan Wyn Jones, gorsaf-feistr y dref. Claddwyd Mrs. Ann Evans yn Nolgellau ar yr 28ain o Ebrill diweddaf. Priododd Jane a Mr. Edward Edwards, a bu iddynt bump o blant, sef Sarah, Jane, Ann, Edward a Mary. Yr oeddent yn deulu ffydd- Ion a gweithgar yn eglwys Soar lie yr oedd Mr. Edwards yn flaenor parchus hyd ddydd ei farwolaeth yr hyn gymerodd le diwedd Gorphenaf 1889. Claddwyd ef ddechreu Awst ym Machynlleth. Yr oedd Mrs Edwards er yn ieuarc wedi arfer cymeryd rhan gy- hoeddus mewn cyfarfodydd crefyddol. Dar- llenai a gweddiai yn y teulu bob boreu a I hwyr pan na fyddai ei phriod gartref i wneyd hyny. Nid ydyw yr arferiad ragorol yma mor flodeuog yn awr ag ydoedd yn nydd- iau ein tadau. Gwledd i enaid newynog oedd clywed Mrs, Edwards, Maesdulas, yn cadw dyledswydd yn ei theulu hwyr a bore, ac hefyd yn y capel pan fyddai galwad am hyny. Cyfarfyddodd Mrs. Edwards a llawer storom arw-gwelodd gladdu ei mhab Edward a'i mherch Jane-priod Mr. David Jenkins—a'i phriod parchus, Mr. Edward Edwards; ond cafodd drigo yn nirgelwch y Goruchaf ac yng nghysgod yr Hollalluog drwy y stormydd i gyd. Daeth i fyny, i aros, at ei merch rhyw dair blynedd a haner yn ol, a bu Mr. a Mrs. Ed- ward Owen a'u mab—Albert Edward-yn hynod garedig wrthi, yn ogystal a Mr. a Mrs. D. Davies, Central Street. Nos Fawrth, Mai I3eg, hebryngwyd ei gweddillion marwol yn y gerbydres o Euston i Fachynlleth lie y claddwyd hi y dydd Mercher dilynol yn meddrod y teulu. Daeth torf fawr i Euston ac i Machynlleth i ddangos eu cydymdeimlad a'r teulu yn eu galar, a'u parch dwfn i goffadwriaeth y wraig rinweddol —Mrs. Jane Edwards, Maesdulas. Gweinyddwyd yn y cynhebrwng gan y Parchn. D. Charles Jones, Llundain; Josiah Jones, Machynlleth, ac ereill. Nawdd y I Goruchaf Dduw fyddo dros y teulu.