Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Bwrdd y g Celt* 9

News
Cite
Share

Bwrdd y g Celt* 9 Machreth, onite, oedd yn son dro yn ol fod angen am safon lenyddol newydd yng Nghymru heddyw. Oes, y mae angen ar i'r lienor newid ei safon yn ddiau, end y peth pwysicaf i ni yn awr yw fod mwy o angen newid cywair ein beirdd. Y nos o'r blaen aethum drwy eu cynyrchion er ceisio rhai llinellau priodol, desgrifiadol o fis Mai. Eisteddwn wrth dan mawr yn yr ystafell wedi fy lapio o'm pen i'r traed mewn hen hugan dew fawr er ceisio cadw yr oerfel draw. Rhuai yr oerwynt o gylch fy nrws a churai yr eirwlaw ar y ffenestr nes gwneyd i'm danedd grynu gan ofn, ac fel yr oeddwn yn troi am gydymdeimlad gan y beirdd, dyma fel y canent. Mor deg a hyfryd ydyw Mai Pob peth heb drai sy'n ddedwydd. Y ddaear rwydd sydd oil yn wres A glan yw tes y glenydd. Mae Mai mewn braint uwch unrhyw Y goreu fis i feusydd. [bris Er mai cyfrol Daniel Ddu ydoedd, cafodd ei thafiu i'r gornel, a'r un fath gyda phob bardd arall. Mynai yr holl haid ganmol mor deced oedd Mai, mor dyner ei heulwen, ao mor deg oedd pob peth ynddo. Gwarchod pawb, lie y cawsont y fath ddychymyg ? Mis y rhew a'r eira yw Mai, a goreu po gyntaf i'r beirdd gydnabod hyny, a throi, ys dywedai Wil Bryan gynt, i fod yn true to nature. Nid oeddwn ond prin wedi taflu yr hen feirdd o'r neilldu pan y daeth Trebor Aled i fewn, ac wele hwnw yn canu fod y gwcw wedi dod. Mae'n rhaid fod y bardd hwn eto wedi gwneyd camsynied ac mai gwdi- hw a glywodd. Dyna'r unig aderyn sy'n crochfloeddio ar nosweithiau oerion fel hyn, ond gadawer i Trebor gael ei ffordd am mai hogyn ieuanc yw, ond rhaid e igynghori i fod yn fwy "tymhorol" y tro nesaf:— CANODD Y GOGI Mae'r gog wedi canu, Cyffyrdder pob tant, I'w theilwg groesawu Ar lechwedd a phant. Mae'r gog wedi canu, Dewch adar rhowch gerdd! Mae'r wybren yn glasu, Mae'r goedwig yn werdd. Mae'r gog wedi canu, Chwareued y plant, Mae'r briall yn gwenu Ar wefus y nant. Mae'r gog wedi canu, Daeth Ebrill a Mai Mae'r blodau'n persawru Yn ymyl ein tai. Mae'r gog wedi canu, Mae'r haf wrth y drws, Yn gwylaidd ddynesu, A'i wyneb yn dlws. Mae'r gog wedi canu, Rho'wn ninau gan frwd IMae'r egin yn tyfu, Daw digon o gwd! Mae'r gog wedi canu, 'Rwyf finau'n cael dweyd, A nghalon yn llamu Mewn gobaith wrth wneyd. Mae'r gog wedi canu, Daeth heibio drachefn Mae Duw yn gofalu Pod pobpeth mewn trefn. Xilansannan." TREBOR ALED. Mae Trebor yn eitha reit" ebe Glan-dwyffrwd, M oherwydd y mae'r gwanwyn wedi dod. Dyna'r tymhor, wyddooh, y mae pob aderyn yn cymeryd 'cydmar, ao mi welais ina hen dderyn y dydd o'r blaen a brofai ya eglur drwy y gydmares oedd "ganddo fod dyddiau hafaidd wedi dod," ac yna aeth .ymlaen i ganu am:— BRIODAS MR. A MRS. BONNER THOMAS. Fel 'roeddwn un bora' Yn hwylio fy nghamra' Er anfon llythyra' at gywir hen ffrynd Pwy welwn er syndod Yn dod i'm cyfarfod Ond' Bonner' heb wybod i lie 'roedd yn myu'd. Ac iddo gofynas Rho dipyn o'th hanas, Ni che's dy gymdeithas nis gwn i pa bryd. Yn wir,' meddai ynta' Dan wenu yn smala, Fy nghyfaill, er's dyddia', newidiais fy myd. Pa beth meddwn ina' 'Doedd neb fedra'th hela O gongl fel yna, taw bellach a'th son! Ond ow! ces fy nhwyllo Pe gafodd ei rhwydo, ■Do, daliwyd y cono gan fenyw o Fon. I I Bonner a Hanna Boed hirfaith fiynydda' o londer a. moetha' a thyaid o blant I'w dysgu yn weddus Gyd-fyw yn gariadus Ac ymladd yn rymus yn erbyn drwg chwant. Orrell, Bootle. GLAN-DWYFFRWD. A chydunai beirdd Llundain yn y chorus gan obeithio cael gweled y bardd Bonner etoyn ol yn y Brifddinas yn fuan. Fe geisiai nifer ereill o feirdd a llenorion gtiel cyfle i ddyweyd eu barn ar bethau cyffredinol ac ar y tywydd yn arbenig, ond nid oedd y Gol. mewn hwyl i wrando arnynt. Y mae'r ystafell yn rhy fach ebai, a rhaid i chwi aros dros y gwyliau, ac yna, feallai y ceir peth heulwen a'n galluoga i agor y ffenestri a derbyn rhai awelon tyner Mai i fewn i'r lie.

EISTEDDFOD (ST. PADARN) NEUADD…

Advertising