Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

LLYFRAU NEWYDDION.

News
Cite
Share

LLYFRAU NEWYDDION. Erbyn hyn y mae Llenyddiaeth, a hanes Cymru yn dechreu cael sylw y byd Seisnig ac y mae'r derbyniad croesawgar a roddwyd yn ddiweddar i lyfrau Mr. O. M. Edwards, Mr. Bradley, a'r Proffeswr Rhys wedi profi yn eglur fod gwledydd ereill yn cymeryd peth dyddordeb ynom wedi'r cwbl. Deallwn fod yn mwriad dau gyhoeddwr Llundeinig i gy- hoeddi ar fyrder lawlyfrau bylaw ar y Mabin- ogion a llenyddiaeth Gymreig arall, ac y'mae y Proffeswr O. M. Edwards wedi gofalu am rai o honynt i'w golygu a'u cyfaddasu i ddar- llenwyr Seisnig. Yr wythnos hon y mae cyfrol arall, yn ymdrin a rhan o hanes ein cened!, wedi ym- ddangos. Ei phenawd yw:— [MEDIEVAL WALES, gan Proffeswr A. G. Little, M.A., cyhoeddedig gan Mri. T. Fisher Unwin, Paternoster Square. Pris 2s. 6c.] Proffeswr mewn Hanes yng ngholeg y Brif- ysgol, Caerdydd, yw'r awdwr, a thraddodwyd sylwedd y gyfrol mewn nifer o ddarlithiau yn y coleg yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Cipdrem sydd yma ar rai o brif gymeriadau Cymreig ac arferion y genedl yn y canol oes- oedd, a rhaid dyweyd fod Mr. Little wedi llwyddo yn hynod dda i roddi portread lied gywir o'n gwlad ar yr adeg hono. Nid ydym yn cyturo ag ef mewn amryw o'i gasgliadau ond efallai mai am ein bod yn edrych ar Gymru o wahanol safleoedd y dylid priodoli hyn. Ceisia ef roddi y gwleidyddol tra, i'n tyb ni, y personol oedd fwyaf nerthol yn y dyddiau hyny, nid yn unig yng Nghymru ond mewn gwledydd ereill. Ond nid ydyw yr hanesydd yn dis- gwyl cael manylder dyddiadau a ffeith- iau mewn cyfres o ddarlitboedd fel y desgrifir yn y gyfrol hon, eto, y mae'n eglur fod yr awdwr wedi bod yn ymchwilgar iawn yn hanes ein cenedl cyn desgrifio mor drylwyr y gwa- hanol droadau cenedlaethol ag a wna. Yn hanes Sieffry o Fynwy, edrycha Mr. Little yn dyner ar ei haeriad mai cyfieithu Hanes y Brytaniaid a wnaeth, ac er y rhaid addef mai Sieffry ei hunan oedd yr awdwr dylid cofio iddo roddi cychwyniad rhagorol i ysgrifenwyr dilynol. Rhoddir penod yn Hawn craffder ar hanes Gerallt Gymro, ac y mae cydmaru y ddau hanesydd hyn yn werth i bob efrydydd yn hanes Cymru. Yn ei ysgrifau ar gestyll ac abattai Cymru mae'r awdwr yn cael man- tais i fanylu ar wleidyddiaeth a chrefydd y wlad, ac ar y cyfan rhaid addef fod ei ffeith- iau yn lied gywir. Gorpbena gydag adrodd hanes Llewelyn ap Gruffydd ac i bwy bynag sydd am gael gwelediad swynol i hanes ein pobl yn y cyfnod hwn, anogwn hwynt i brynu y gyfrol hon. Mae wedi ei hargraffu yn dda a'i throi allan yn ddestlus gyda mapiau i egluro rhai o'r penodau. Y Cylchgronau. Rhyfedd y gwahaniaeth sydd rhwng cylchgronau Cymreig a'r rhai Seisnig y dyddiau hyn. Y coroniad a'r rhyfel yw'r pynciau a flinant ein cymydogion, ond am danom ni, a barnu oddiwrth ein cylch- gronau, awn ymlaen yn dawel yn ol ein harfer. Er hyny y mae ysgrif amserol yn Y Dysgedydd, gan Mr. Beriah G. Evans, ar y Mesur Addysg, sydd yn rhoddi cywair iachus a chlir i'r hyn ddylai llais Ymneillduwyr Cymru fod ar yr ymgais bresenol o waddoli yr Eglwys, a hyderwn y bydd i ddarllenwyr y cylchgrawn hwn godi fel un gwr o blaid eu hegwyddorion gan wneyd eu goreu i atal y Bil. Yn yr un rhifyn, ceir ysgrif afaelgar ac amserol gan yr Hybarch Owen Evars, D.D. (gynt Llundain), ar tl Dywalltiad yr Ysbryd Glan," a gwnelai les calon i bob Cristion i'w darllen. Y Cerddor. Ysgrifena Mr. D. Jenkins erthygl fer yn y rhifyn presenol ar Y critics yn y dafol," a dywed nad yw'r beirniaid new- yddiadurol yma i gael eu ffordd eu hunain i gyd yn y dyfodol. Mae yn cydfyned a geir- iau Dr. Cummings, y dylai pob llith feirniadol gael ei chyhoeddi o dan enw y beirniad, gan y cred, yn ddiau, y byddai pobl wedyn yn fwy gochelgar beth i ddyweyd. Ond y mae per- ygl i hyna hefyd. Gwyddom mai rhai o'r beirniadaethau casaf a wnaed yn ein hiaith oedd o dan enw yr awdwr. Er hyny, y mae'n eglur fod angen am well safon o feirniadaeth yng Nghymru heddyw. Edrychir gormod ar y personol-y dyn neu'r ferch ieuanc-pupil i bwy yw, a phethau cyffelyb. Boed i'r ysgrif hon fod yn foddion i gael gwell ysbryd beirn- iadol yn ein cerddorion o hyn allan. Yn yr un rhifyn ceir ysgrif fywgraffyddol a darlun da o Mr. Ivor Foster, y canwr-gwr y dylai beirniaid Cymru fod wedi ei weled cyn hyn. Y Geninen. Rhoddasom yn ein rhifyn o'r blaen ddarn o un o erthyglau darllenadwy y rbifyn presenol. Y mae'r oil yn werth ei ddarllen drwyddo, a chynwys yr ysgrifau yn llawn dyddordeb ac addysg i lenorion Cym- reig. Mae'r cynwys mor amrywiol fel mai afraid fyddai dechreu enwi; yr unig beth a ddywedwn yw, mai gwr tylawd iawn yw'r neb a geidw y cylchgrawn hwn allan o gylch ei ddarlleniad. Cymru'r Plant am Mai sydd yn dal i fod mor hoyw ag erioed, ac yn llawn darluniau a hanesion prydferth. Dylai plant Cymru wneyd yn fawr o'r lienor sydd yn gweithio cymaint ar eu rhan.

HYN A'R LLALL.

Advertising