Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

CYFARFOD MAI UNDEBOL CHWIORYDD.CYMREIG…

HYN A'R LLALL.

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL. Fel y gwelir oddiwrth ein colofnau hysbys- iadol, y mae pwyllgor cyngherdd Mr. R. A. Davies wedi llwyddo i gael addewidion am nifer ragorol o gantorion i ymddangos yn Neuadd Holborn tr yr 22ain o'r mis hwn. Da genym ddeall hefyd fod y tocynau yn gwerthu yn dda, gan y dylid rhoddi cefnogaeth i'r adroddwr y waith hon. Yn ein rhifyn nesaf ceir rhestr o noddwyr y cyngherdd ynghyd ag enwau y pwyllgor. Yr ydym oil yn gwybod am wyl y banciau, ond peth newydd i ni yw "Gwyl y Llanciau," ac i Gymdeithas Shirland Road y perthyn yr anrhydedd o'i sefydlu. Ar y cyntaf, credem mai math o gyfarfod brodyr ydoedd, ond wedi myn'd yno gwelsom ar unwaith ei fod yn rhy gymdeithasol a llawen i hyny. Cwrdd dydd- anus y bechgyn ifenc ydoedd, ynglyn a. Chym- deithas Lenyddol y Met fel math o ddiweddglo i gyrddau'r tymhor a chynhaliwyd ef ar y iaf o Fai. Llywyddwyd yn dda a doniol gan Mr. Ben James, a chaed nifer o ganeuon swynol gan amryw frodyr; a rhoddwyd caniatad, os gwelwch yn dda, i un neu ddwy o'r rhianod i ganu hefyd. Ar derfyn y canu caed dan- teithion melus, a phrofiad pawb oedd mai gwyl go dda wedi'r cyfan yw gwyl y llanclau." Bydd yn chwith gan laweroedd glywed am farwolaeth Mrs. Jane Roberts, gweddw y di- weddar h/glod Ieuan Gwyllt, yn 73 mlwydd oed. Buasai yn glaf er ys dwy flynedd, yn ei phreswylfod, Ash Mount, St. David's-Road, Caernarfon, ond daeth y diwedd yn bur sydyn ac anisgwyliadwy boreu Sul. Yr wythnos nesaf, cynhelir Cymanfa Fawr y Methodistiaid yn Lerpwl o dan lywyddiaeth y Parch. J. Cynddylan Jones a'r Parch. T. J. Wheldon—y Cymedrolwr am y flwyddyn ddyfodol. Disgwylir yno gynulliadau mawr- on a chynrychiolwyr o bob rhan o Gymru.

Advertising