Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

CYFARFOD MAI UNDEBOL CHWIORYDD.CYMREIG…

News
Cite
Share

CYFARFOD MAI UNDEBOL CHWIOR- YDD.CYMREIG Y DWYRAIN. [GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] Prydnawn dydd Llun diweddaf cafwyd cyfarfodydd hynod o ddyddorol ynglyn a cenhadaeth Silver Street a'r Memorial Hall, Kerbey Street, Poplar. Yr oeddid wedi trefnu er's tro yn ol i'r aelodau uno i gynal un cyfarfod mawr yn y neuadd eang yn Poplar, a'i alw yn gyfarfod mis Mai, a gwnaed hyny nos Lun. Credaf na chynhaliwyd cyfarfod erioed ym mysg Cymry Llundain o'r un natur-yn meddu ar yr un nodweddiou dwys a theyrn- garol. Mamau a gweddwon Cymreig oedd yr ugeiniau chwiorydd oedd yn gwneyd i fyny y gynulleidfa luosog a ddaeth, a golygfa oedd na welir ei chyffelyb yn ami. Hawdd oedd wylo wrth sylwi ar eu gwynebau gwelw, ystormydd geirwon bywyd wedi gadael eu marciau arnynt oil. Os am wybod am yr heroic, ewch i mewn i'w hanes; a gwnai les i lawer un hunanol ddod i gyssylltiad a hwy. Mae mwy o wir Gristionogaeth yn eu mysg na liawer sydd yn cymeryd arnynt fod felly. Daeth nifer da o foneddigesau sydd yn llawn cariad a thosturi at eu chwiorydd aflwyddianus yn eu gyrfa dymhorol; sef Mrs. Timothy Davies (Maeres Fulham), Mrs. Ffoulkes Jones, Mrs. Green, Mrs. Phillips (Brodawel), Mrs. Roberts (Willesden), Mrs. Adams (Hampstead), Miss Teify Davies, R:A.M., Mrs Jones (L. & W. Bank), Mrs. Thomas (Aberteifi), Miss Rees, Miss James, Miss Thomas a Miss Jenkins (Fulham)-hefyd Parch. Richard Roberts, Dr. Phillips, Mr. T. Armon Jones, R.A.M., a Mr. Jones, y Banc. Rhoddwyd gwledd o'r fath oreu ar y dechreu gan Mr. a Mrs. Ffoulkes Jones, a mawr ganmolwyd y darpariaethau gan y mamau a'r cyfeillion, a siriol wenai pawb wrth eu mwynhau nes anghofio eu cwynion. Ar ol cael eu digoni, yr oeddynt mewn hwyl neillduol i siarad-gan roi eu hunain mewn trefn ar gyfer yr wyl oedd yn dilyn. Yn absenoldeb ei phriod, 'rhwn a rwystrwyd gan alwadau y gyfraith ar y munud olaf i fod yn bresenol, cafwyd gan Mrs. Ffoulkes Jones i gymeryd y gadair, ac fel y dywedodd un, It ni welwyd neb mwy swynol yn llywyddu erioed. 'Roed ei gwyleidd-dra a'i gwen yn ein swyno oll, a theimla pawb mai braint oedd iddi ateb i alwadau y cyfeillion. Canwyd i ddechreu yr hen don ar y geiriau 0 fryniau Caersalem," a theimlem na chlyw- som erioed mwy o ddwysder ysbryd yn y canu -a chydweddiwyd, yn cael ein harwain gan Mr. Roberts. Yna cododd Mrs. Timothy Davies, a chanodd yn hynod o swynol; dilyn- wyd hi gan Mr. Armon Jones gyda ù The mistakes of my life have been many," nes llenwi ein llygaid, a gwlychu ein gruddiau gan ddagrau; a dyma yn ei ddilyn yntau, Miss Teifi Davies gyda'r Pilgrim of life" yn ardderchog; wedyn cafwyd anerchiad llawn o dan ac ysbryd yr Efengyl—ie, yn llawn o Iesu Grist" fel gwaredwr a chyfaill dynolryw. Canwyd wedyn yn felus gan Mrs. Roberts, Willesden Green, a chafwyd araeth fach bert a theimladwy gan Mrs. Phillips, yna can gan y boneddigesau a enwyd eisoes, a chafwyd anerchiad llawn o gydymdeimlad gan Dr. Phillips. Canodd Armon Jones, Efe a'm h'arwain i nes dwfnhau y teimlad oedd erbyn hyn uchel iawn. Ar gais y Cen- hadwr, canwyd Yn y dyfroedd mawr a'r tonau er cof am yr hen chwiorydd tylawd o ran pethau y byd hwn, ond cyfoethog mewn gras a fu farw yn ystod y flwyddyn a chododd pawb ar eu traed, a chanwyd y geiriau gyda theimladau cyssegredig. Felly terfynwyd cyfarfod ni anghofir am dano yn fuan. Cyn- ygiwyd diolchgarwch mwyaf gwresog i Mr. a Mrs. Ffoulkes Jones am y wledd; ac i'r boneddigesau a'r boneddigion eraill am eu hunanaberth yn dod i lawr i'n cysuro ar ein taith trwy'r byd. Hefyd diolchwyd yn gynes i Mrs. R. S. Williams am ei llafur tawel, a di- ildio yn gofalu am y trefniadau.

HYN A'R LLALL.

Advertising