Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

CYMRU YN HEPIAN.

News
Cite
Share

CYMRU YN HEPIAN. Nid yw awyrgylch wleidyddol Cymru ar hyn o bryd yn rhyw addawol iawn. Y mae'r wlad wedi dal yn ffyddlon ar hyd y blynyddau i egwyddorion Rhyddfrydol, ac wedi aberthu llawer cyn enill iddi ei hunan y rhyddid cref- yddol presenol a fwynheir ganddi; ond y mae arwyddion nad yw y dO presenol yn cyflawn werthfawrogi y breintiau hyn nac ychwaith yn sylweddoli y peryglon sydd yn awr yn dechreu codi eu penau ar ein taith wleidyddol. Ar amryw achlysuron yn ddiweddar y mae bygythion cas wedi eu cyhoeddi yn y Senedd i'n herbyn, ac y mae rhai o'r bygythion hyn eisoes wedi eu sylweddoli. Gwelir hyn yn eglur yn y Mesur Addysg presenol sydd o flaen Ty'r Cyffredin. Y mae un o gredoau mwyaf cysegredig pcbl Cymru yn cael ei sarnu dan draed ynddo, eto y mae'r wlad fel pe'n hollol ddifraw yn gadael yr oil yn Ilonydd gydag eithriad o basio ambell i bleidlais o gondemniad yma ac acw yn erbyn y Mesur. Nis gwyddom yn iawn pa fodd i gyfrif am y difaterwch presenol. Y mae, feallai, nifer o achosion paham nad ydym yn cyfodi fel un gwr dros ein hawliau; ond, yn sicr, dylid ar bob cyfrif gael allan yr achosion hyn. Pan fo egwyddorion mwyaf cysegredig yn cael eu herlid, ein dyledswyddau cyntaf yw gwneyd yr oil a allom i'w diogelu a'u hamddiffyn; ond yn hyn o beth y mae Cymru wedi llacio dwylaw yn waradwyddus yn ddiweddar. Es- gusodir ein tawelwch gan rai ar y tir nad oes genym arweinwyr digon craff a chadarn, wedi colli Thomas Gee a Tom Ellis; ond, yn sicr, nid yw'r genedl wedi myned mor dylawd fel y rhaid llechu y tu ol i'r fath sylw cloff. Yr oeddem yn meddwl mai arweinwyr y genedl oedd ei chyfarwyddwyr ysbrydol, a phe bae y rhai hyn yn fyw i'w galwedigaethau a'u dyled- swyddau, buasai Cymru cyn hyn wedi ei thanio â dygasedd o un pen i'r llall yn erbyn y cynllun presenol o waddoliadau ychwanegol i'r Eglwys Wladol. < <t Yn ei phwlpud y dylai iachawdwriaeth Cymru orphwys, ac os yw ei phwlpud yn wan a difater, yna fe aiff y genedl i hepian yn wir. Ofer yw codi'r hen esgus mai nid pobl i greu terfysgoedd yw cenhadon hedd, ond yn sicr, eu gwaith blaenaf yw codi terfysg o blaid uniondeb ac egwyddorion rhyddid. Pethau mwy cysegredig i'r bywyd hwn nid oes; ac os na ellir ymwroli o blaid y rhai hyn, ofer yw disgwyl y codir byth un gwrthwynebiad yn .1 erbyn gallu y tywyllwch. Os gadewir i'r gweledig a'r profedig gael yr oruchafiaeth, ofer y dysgir cenedl y gellir enill brwydr ar yr anweledig a'r ysbrydol. Na, rhaid i weinidogion Cymru ddihuno o ddifrif a chym- eryd at arwain y bobl eto, fel y gwnaeth eu tadau mor fuddugoliaethus yn y dyddiau gorthrymus gynt. <tt Am ein harweinwyr Seneddol, y maent yn hollol ddiwerth. Mae yr un neu ddau sydd | genym, wedi eu llyfetheirio gan gysylltiadau pleidiol. Wedi ffurfio eu hunain yn blaid yn y Ty, y maent o dan rwymedigaethau i gyd- fyned a'r blaid, a'r canlyniad naturiol yw fod y rhai a ddylasent fod ar y blaen yn cael eu gwthio o'r neilldu tra y gosodir y rhai mwyaf difywyd a mwyaf llwfr ar y blaen gan wneyd yr oil fod mor ddiles a phwyllgor gwledig- rhyw gynghor plwyf. Rhaid addef ein bod wedi gwerthu ein hawliau wrth benodi y fath nifer o Sais-Gymry a Saeson i'n cynrychioli yn y Senedd, a thra y parhao y genedl i wneyd hyn yna ofer y disgwylia byth am arweiniad priodol oddiwrth ei haelodau Seneddol. Rhaid i'r bobl ddihuno o'u cysgadrwydd, ac ond iddynt wneyd hyn, ni fyddis yn hir hir cyn taro ar y gwyr neu'r arwyr sydd i'n harwain ni i oruchafiaeth eto. Os collir y frwydr hon, bydd gorthrwm y do nesaf o'n cenedl yn gorwedd wrth ddrws ein Seneddwyr bradwrus a'r gweinidogion difater presenol.

! Ty'r Gfeber.