Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

RHAMANT ADDYSG CYMRU.

News
Cite
Share

RHAMANT ADDYSG CYMRU. GAN MR. T. MARCHANT WILLIAMS. "Rhamant Addysg Cymru" oedd testyn papyr dyddorol a draddodwyd gan ynad cyflogedig Merthyr—Mr. T. Marchant Wil- iams—o flaen Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion yn Llundain yr wythnos cyn y diweddaf. Yn y blynyddau diweddaraf hyn, nid oes neb wedi cymeryd mwy o ddyddordeb yn mhynciau addysgol Cymru na Mr Williams, a tharawiadol o hapus felly oedd ei gael i roddi 'chydig o hanes ei hoff bwnc o flaen aelodau Cymdeithas sydd wedi gwneyd y fath waith rhagorol o blaid addysg Gymreig yn ystod y ganrif sydd newydd derfynu. Dangosai Mr. Williams yn ei bapyr yr elfen ramantus a nodweddai hanes dadblygiad pob cangen o'r gyfundrefn addysg bresenol yn y Dywysogaeth. Desgrifiodd gcdiad addysg Gymreig o'r flwyddyn 1843 yn mlaen gan roddi darlun o honi y pryd hwnw ac o'i sefylifa yn bresenol. Parodd mesur Llywodraeth Syr R. Peel yn 1843 tuagat wella addysg plant mewn parthaullaw-weithfaol anfoddlonrwydd mawr yn mysg yr holl enwadau Ymneillduol yn Lloegr a Chymru. Er iddo gael ei ddes- grifio yn swyddogol fel mesur yn amcanu at hyrwyddo cyfundrefn addysg unedig ar sail goddefiad crefyddol, condemnid ef gan Ym- neillduwyr fel mesur y toriad mwyaf pen- dant ar egwyddorion cydraddoldeb crefyddol, a'r hwn, pe gwneid ef yn ddeddf, a g'ai yr effaith o dori i fyny yr ysgolion (ansectaraidd) Gwirfoddol presenol ac o osod addysg y dos- barth gweithiol dan reolaeth hollol ac unig Eglwys Loegr." Parodd y gwrthwynebiad a wnaeth yr Ymneillduwyr i'r mesur hwn iddo gael ei dynu yn ol yn ddioed. Ei werth i'r Cymry fu iddo agor eu llygaid i weled yr ystad res- ynus yr oedd addysg ynddi yn y Dywysogaeth. Os dechreuodd penod gyntaf rhamant addysg Gymreig gydag ymdrechion Griffith Jones, Llanddowror, a Madame Bevan, gan ddi- weddu gydag eiddo Thomas Charles, Bala, gorchuddia ar ail benod y cyfnod a ddech- -reua gyda 1843 gan ddiweddu gyda 1881, pan y gwnaeth y Pwyllgor Adranol ei ad- roddiad. Yr oedd gwelliant addysg yn mysg y dosbarth gweithiol dan fesur cynygiedig Llywodraeth Peel i gael ei effeithio yn hollol drwy ymdrechion gwirfoddol, neu, ynte, drwy ymdrech o'r fath gyda chynorthwy o'r Llyw- odraeth. Dyma y ddau ddewisiad oedd o flaen yr Ymneillduwyr, yr hyn a achosodd iddynt ymranu i ddwy blaid wrthwynebus. Cynwysai y gwirfoddqlwyr hollol yn Lloegr Edward Baines, Edward Miall, John Bright, &c., ac yn Nghymru Henry Richards, David Charles (Caerfyrddin), Caleb Morris, David Rhys Stephen, David Rees (Llanelli), Ieuan Gwynedd, &c. Daliai y rhai hyn fod yr ysgol yn sefydliad crefyddol, ac yn ffurfio rhan o beirianwaith yr Eglwys Gristionogol, ac nad oedd gan y Wladwriaeth, gan hyny, fwy o hawl i ymyryd a'i rheolaeth mwy nag a rheolaeth yr Eglwys ei hun. Ar y llaw arall, daliai llawer o Ymneillduwyr megis Dr. R. Vaughan, yn Lloegr, a Hugh Owen, Lewis Edwards (Bala), William Williams (A.S. dros Coventry), Henry Griffiths (Aberhonddu) Kilsby Jones, a John Phillips (Bangor), yn Nghymru, mai dyledswydd y Llywodraeth oedd hyrwyddo addysg boblogaidd, ac nad oedd derbyn cynorthwy oddiwrth y Wladwr- iaeth i amcanion addysg mewn un modd yn anghyson ag egwyddorion sylfaenol Ymneill- duol. Dilynodd llawer o groes ddadleu rhwng y pleidiau, yr hyn a rwystrodd lawer ar gynydd addysg yn Nghymru. Rhoes Mr. Williams sylw helaeth i ymdrechion Hugh Owen a John Phillips gyda Chymdeithas Ysgolion Brytan- aidd a Thramor, yr hyn a arweiniodd i gyn- hadledd o bleidwyr addysg wirfoddol gael ei chynhal yn Llanymddyfri Ebrill 9 a 10, 1844, y Parch David Charles yn y gadair. Pender- fynwyd i sefydlu ysgol i athrawon jn Nghjmru ac i wneyd pcb ymdrech i gyfarfcd anghenicn yr Ymneillduwyr htb gymhcrth o'r Wladwr- iaeth; ffurfio)d pwyllgor parhaol, ac yn Ion- awr, 1855, egoiw3d ccleg Komalaidd i'r amcan hwn mevn adeilad tjmhcrol, gyda Dr. Evan Davies yn Brifathraw sjmudwyd y coleg wedi hyny i Abertawe, daeth yn eiddo preifat i'r Prifathraw, jr hwn cedd yn un o athrawcn gcreu y genhcdlaeth o'r bleen. Yn y cyfncd hwn ihanedig cedd yr Ym- neillduwyr, ac felly aflwyddianus tra yr oedd yr Eglw) s yn un ac yn derbyn cymhcrth y Llywcdraeth, a llucsogwyd eu bysgolion dydd- iol yn fawr. Er 1856 y symudwyd i sefydlu coleg hyfforddiadol i athrawon jsgolionPry- deinig yn Ngc-gledd Cymru. Casglodd y Parch John Phillips 11 JOCOp mewn dwy flyredd i'r amcan hwnw. Agorwyd y coleg yn 1862, gyda Mr. Phillips fel ei Brifathraw cyr taf. Yr oedd ef (Mr. Williams) yn efrydydd yn y coleg hwnw yn 1S64-'5, ac yno y gwelodd Hugh Owen gyntaf. Yn 1854 cynhaliwyd cyfarfod yn nhy Mr. Thomas yn Llundain, yn mha un y CyflWjDOdd Hugh Owen gynllun i sefydlu yn Nghymru golegau cyffelyb i gol- egau y Frenhines a sefydlasid yn ddiweddar yn Iwerddon. Yn y cyfarfod hwnw yr oedd Samuel Roberts, Llanbrynmair, a Lewis Ed- wards, Bala. Yr oedd y wlad ar y pryd yn mhenbleth rhyfei y Crimea, ac ofer fuasai gofyn sylw na chymhorth y Llywodraeth at bwnc addysg. Yn 1863—wedi cryn ymdrafodaeth rhwng Dr. Nicholas, Mr. W. Williams, A.S., a Hugh Owen-penderfynwyd sefydlu Prifysgol i Gymru, a phenodwyd pwyllgor i gario allan y penderfyniad—Dr. Nicholas yn gadeirydd, Hugh Owen a'r diweddar Osborne Morgan yn ysgrifenyddion, W. Williams yn drysor- ydd, a Mr. Morgan Uwyd yn is-drysorydd. Collodd Hugh Owen luaws o'i gyfeillion mwyaf pybyr, ond daliodd ef yn mlaen. A glynodd un hen wron gydag ef, sef Mr. Stephen Evans, yr hwn sydd eto, ar waethaf nifer ei flynydd- oedd, yn dal yn liawn sel dros addysg ei gyd- wladwyr. Yn yr ymdrech ddilynol dros addysg uwchraddol Arglwydd Aberdare a Syr Lewis Morris i lanw y bylchau, ac fel ffrwyth ei ymdrechion cafodd weled Coleg y Brifys- gol yn cael ei agor yn Aberystwyth yn 1872, ac yn 1881 bu farw, wedi bod agos i ddeugain mlynedd yn ganol wr, ac yn ysbryd cynhyrfiol y symudiad addysg yn Nghymru. Syrthiodd mantell Syr Hugh Owen, yr hwn a wnaeth gymaint dros addysg genedlaethol Gymreig, ar Dr. Isambard Owen. Ystyriai mai dau o'r moddion addysgol grymusaf yn y genhedl- aeth ddiweddaf oedd y deffroad drwy Gymru perthynol i Gymdeithes Cymmrodorion Llun- dain a sefydliad Cymdeithas Genedlaethol yr Eisteddfod. Dyma, ynte, amlinelliad o gynydd cyfun- drefn bresenol addysg yn Nghymru. Cenedl fechan ydym, a thylawd, ond balch. Nid heb achos yr oeddem yn falch o'n" gwlad bryd- ferth a'n hiaith swynol, ac, yn wir, nid yn ddiachos yr ymhyfrydem yn ein cyfundrefn addysg. Yn yr hen amser dywedid mai Y Ddraig Goch a ddyry gychwyn." Hi a'n blaenorai yn mrwydrau Cressy a Bosworth yn y dyddiau enwog gynt, a hi eto sydd yn blaen- ori pob cynllun addysg yn Whitehall heddyw. Onid oedd yr oil yn taro ar ein clustiau megis "rhamant" y dyddiau a fu.

EISTEDDFOD CAPEL HOLLOWAY.