Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

---CYMREIGAETH MEWN MASNACH.

News
Cite
Share

weddau. Ydyw, y mae yr anianawd Gymreigyn gryf neu ni fuasai wedi mordwyo tymhestloedd yr oesau mor llwyddianus, ac oni bae fod gen) f liyder ei bed yn ddigon cryf, o dan arweiniad doeth, i wynebu llawer tymhestl eto, buasai ein tasg yn ofer-waith, a'r mudiad cenedl- aethol yn anobeithiol. Ond nis gall yr an- ianawd, yr anianawd Gymreig, wneyd yr amhosibl. Rhaid ei gwrteithio, ei noddi, a'i harwain. A'r cwestiwn ydyw a all y Cymro ymddiried i'w reddfau cenedlaethol, y gwnant ei amddiffyn yn ddi-graith pan yn cyd-ffuifio a chydsynio a chyfundrefn fasnachol sydd yn dyfiant cryf a naturiol o anianawd y Sais heb unrhyw hunan-ymwybyddiaeth o'i harbenig- rwydd a'i thueddiadau. Ymddengys i mi ei fod yn beth amhosibl iddo gadw ei arbenig- rwydd cenedlaethol pan y mae yn adeiiadu rhan helaeth o'i fywyd ar sylfeini Seisnig— mor amhosibl ag ydyw iddo gadw y teimlad Cymreig a'r syniadaeth Gymreig yn ddilych- wyn, tra yn meddwl, yn siarad, ac yn synied yn iaith y Sais. Fel mater o ffaith, onid yr un yw y rhai a broffesant fod eu cariad at Gymru fel gwraig Cesar uwchlaw drwgdybiaeth (er na wnant siarad yr hen iaith na chynorthwyo yr hen wlad), ag sydd hefyd yn honi y gall y Cymro aros yn Gymro tra ar ei oreu yn efelychu y bywyd Seisnig fel ei gwelir mewn masnach heddyw ? Ond i gadarnhau fy ymresymiad mai di- rywiad cenedlaethol ydyw canlyniad naturiol y dylanwadau yma os na wneir ymdrech hun- anymwybodol (self-conscious effort) i'w gwrth- wynebu, gadewch i mi wneyd dyfyniad neu ddau i fod megis Aaron ac Ur i gynhal fy mreichiau yn yr ymgyrch. Dyma ddywed y deddf-ysgolor byd-enwog Puffendorf Lie yr unir un wladwriaeth ag un arall yn y fath fodd fel y ceidw un y Llywodraeth ao y newidia deiliaid y llall eu gwlad ac eu derbynir i iawnderau a breintiau y wladwriaeth estronol, y mae yn amlwg y llyncir ac y collir y naill yn y llall." Dyna ddesgrifiad cywir o'r modd yr unir Cymru a Lloegr heddyw, a'm daliad ydyw ei bod yn gymharol eglur mai drwy linellau masnachol y mae y dirywiad cenedlaethol yn fwyaf amlwg heddyw; mai yn yr ardaloedd hyny y mae masnach fwyaf ei dylanwad y mae yr arbenigrwydd Cymreig leiaf ei barch, a'r cydffurfiaeth a'r cydsynied a'r gol- ygiad Seisnig yn fwyaf ei fri. Sylwer ar y gefnogaeth roddwyd i'r rhyfel presenol gan y porthladdoedd hyny dder- byniodd y budd enfawr drwy brysurdeb y fasnach lo oherwydd y rhyfel. Awn gam yn mhellach i gael un darncdiad arall i ategu yr ymresymiad. Dyma ddywed Proffeswr Ritchie-un o'r meddylwyr mwyaf craffus ac awgrymiadol ar gwestiynau cym- deithasol: ar ddylanwad arddull bywyd a gwareiddiad un wlad ar genedlaetholdeb a bywyd deiliaid gwlad arall:— If no descendant of the Pilgrim Fathers sur- vived on the American continent, the main characteristics of the New England type of civilization might still predominate over the vast multitudes from all lands which that type of civilization is assimilating. To the biologist, the dwindling number of births in France and the rapid increase of the German people are the sole significant factors; they are not the only factors of which the sociologist should take account. Nearly every foreign immigrant into France is, if he settles there, assimilated by the French nation. On the other hand, nearly every emigrant of the overcrowded population of Ger- many is lost to German nationality, and is in a few years speaking the English tongue, and be- coming an heir to the institutions and traditions of the United States or of some British Colony." Felly, gwelir mai nid peth difater a dihwys i genedl fechan fel y Cymry ydyw derbyn yn ddigwestiwn ac yn ddiymholgar gyfundrefn fasnachol—a'r gyfundrefn gymdeithasol sy'n grogedig wrthi-cenedl gref y Saeson, heb yn gyntaf wreiddio eu syniadau yn ddwfn mewn hunan-ymwybodaeth eglur o'i deithi cenedlaethol a chael gweledigaeth glir o'r llinell y mae i gymeryd. Gallwn feddwl i Oronwy Owain gael rhyw gip o olwg ar y ffaith hon pan oedd agwedd bresenol masnach a chymdeithas yn Llcegr yn ei babandod. Pan yn ysgrifenu at Richard Morris yn Llundain, fel gwr oedd yn gwneyd ei oreu drcs y bywyd Cymreig, dywedai:— Oni bae am danoeh chwi a'ch bath, nis gwn beth ddelai o'r Gymdeithas (y Cymmrt dorion), na'n hiaith ychwaith. Am ein cenedl hono ym- darawai drosti ei hun gan dcliryivio ac ymollwng yn ei chrynswth i fod yn un a chenedl fawr yr Eingl, ac yna ni pharhai ei hiaith oddiar can' mlynedd ar wyneb y ddaear." Gyda mewn-welediad bardd rhoddodd yr achos a'r effaith yn ei iawn drefn. Y mae dirjwiad y genedl i ddullweddau Seisnig yn blaen-redeg difodiant yr iaith. Ysgrifenwyd hyn yn y flwyddyn y gwnaeth Adam Smith- seren foreu y cyfnod masnachol—gyhoeddi gwir Feibl y Sais. Y mae y genedl eto heb ymollwng a dirywio, ond y mae'r Gymdeithas wedi gwirebu darogan Goronwy, er's llawer dydd. Ar draul bed yn feichus, gadewch i mi ddwyn un engraifft arall o ddylanwad golyg- iadau buddianol a materol masnach ar syn- iadaeth y Cymro am ei genedlaetholdeb a'i genhadaeth. Bu Rhagluniaeth a'i llygaid ar fy anheilyngdod i'n ddigon caredig i ysgogi rhywun i ysgrifenu gyda true artistic fitness I yn yr iaith Seisnig i golofnau Young Wahs ar Wales as a neglected Imperial Asset." Dyma ddywed:— "Yr egwyddor fawr sydd wrth galon y syniad ymhercdrol ydyw, fod undeb budd- ianau ag elw yn ddigon cryf i ddwyn i undeb boddhaol a pharfcaus y gwahanol genedloedd yn yr ymhercdraeth. Nod pob cenedl ydyw dwyn ei chyfran i adeiladu yr ymherodraeth." Dyna syniad Seisnig heb grys i guddio'i noethni. Dyna esiampl ragorol o Gymro wedi cydffurfio mewn syniadaeth a'r genedl Seisnig. Dyma'r egwyddor sydd wrth wraidd ewyllys Cecil Rhodes yn trefnu ei ysgoloriaethau i atdynu pigion pob gwlad i'w defnyddio a'u cyfaddasu i adeiladu yr ymherodraeth Seisnig, Y mae y cenedloedd bychain y Celtic Fringe i grynhoi eu diliau mel a'u dwyn i gwch y Sais. Ai dyma olygir ydyw dyfodol Cymru ? Os mai, dyna ddiwedd am y peth. Nid oes eisieu rhagor o glebran am ein cenedlaetholdeb. Oferwaith ydyw ein hymdrechion dros yr iaith. Ein dyledswydd eglur ydyw gwneyd ein cymod a'r bywyd Seisnig ac ymgolli yn ngwareiddiad rhagorach Lloegr. Ond os ydwyf yn deall anianawd y Cymro yn gywir, gwell fyddai ganddo weled un plwyf yn blaguro gyda'r bywyd Cymreig na symud lied troed i ddwyn careg i adeiladu yr Ym- herodraeth. Paham ? Am nad ydyw y bywyd Seisnig yn gydnaws a'i natur, edrycha arno fel ymgorphoriad cenedlaethol hunan- gais, trahausder ac ariangarwch, ac adeilada iddo ei hun ei Gymdeithas Gymreig yn mhob lie y gallo i fod yn noddfa dawel i ymneillduo iddi yn awr ac y man allan o'r byd anghyd- naws a'i cylchyna. A bywyd Seisnig, hyd y earn, ydyw y bywyd masnachol heddyw. Gobeithio, erbyn hyr, fy mod wedi dangos yn weddol eglur fod. yna resymau dros ddy- weyd fod perygl i'n cenedlaetholdeb oddiwrth ddylanwadau masnachol yr oes, ac y gall y Brythonwyr wneyd gwaith defnyddiol drwy ymgydnabyddu'i haelodau a theithi'r genedl fel ei gwelir yn ein hanes, a thaflu allan awgrym- iadau o'r hyn olygir wrth Gymreigaeth yn nghylchoedd gwahanol bywyd. Beth ynte, ydyw Cymreigaeth mewn mas- nach ? A oes genym fel cenedl safbwynt arbenig i edryci ar le masnach yn ein bywyd ? A oes genym ryw syniad beth ddylai fod dylanwad yr arbenigion gwahaniaethol nod- wedda ein cenedl ar fasnach yr oes ? A oes genym ddelfryd Gymreig i'n harwain yn y cyfeiriad yma ? Ymddengys i mi nad oes genym yr un. Nas gallwn ddyweyd ein bod yn ymwybodol o unrhyw syniad clir ar y mater. Ein bod yn ddifeddwl wedi derbyn y syniad Seisnig heb ond ychydig ystyriaeth. Ond credaf y gallwn ddyweyd fod yna duedcliadau pe bae genymn yr hyder cenedlaethol i'w meithrin a'u gwr- teithio wnaent ddatblygu y ffeithiau ymarferoi yn mywyd y genedl. Yn awr ac yn y man cyfyd gwyr fel Rob- ert Owen, Golden Rule Jones, William Morris- a Burne Jones, sydd fel pe yn awgrymu fod yna rywbeth yn y cymeriad Cymreig pan wedi ymgorphori mewn personoliaeth ddigon cryf i ysgwyd ymaith syniadau a dylanwadau Seisnig, ag sydd a'i duedd i gymeryd golwg newydd ar y trefniant cyrndeithasol, rhyw awgrym o'r hen deimlad llwythgarol a syn- iadau mwy teg o gyfiawnder rhwng dvn a dyn. Ond ar y cyfan y mae y genedl yn pendwmpian heb arweinydd ac yn llithro bellach bellach bob dydd i'r bywyd Seisnig. Absenoldeb o unrhyw syniad clir ar y pwncr sydd yn fwy na thebyg yn esbonio y ifaith salaf yn mywyd y Cymro heddyw, ei ymar- weddiad gwasaidd tuagat y dyn llwyddianus, Buasai yn chwerthinllyd oni bae ei fod yn cyn- wys y fath berygl-i weled cenedl sydd yn ym- ffrostio yn ei hetifeddiaeth ysbrydol yn talu y fath deyrnged o barch i apostolion llwyddianus duw'r farchnad. Bydded ini ddyweyd yn eofn fel rhai sydd yn adnabyddus o ffeithiau masnachol fod mwyafrif o'n gwyr llwyddianus yn fwy o warth nag o glod i'n cenedl. Y maent wedi troi y rhinweddau cenedlaethol o ddarbodaeth, cynildeb, a gweithgarwch-- rhinweddau allent, ac a ddylent, fod yn gym- horth i fyw bywyd syml, anfoethus a dirodres, roddai iddynt hamdden a gallu i I I godi'r hen wlad yn ei hoi,"—y maent wedi eu troi yn fantelii duon i guddio thai o bechodau gwaethaf y gyfundrefn fasnachol heddyw, Y mae y clod a'r parch ddangosir i'r rhai hyn; gan ein harweinwyr yn y pwlpud, ac yn y wasg, yn dirywio ac yn anfoesoli safonau y bywyd Cymreig, ac yn rhoddi esiamplau isel a dichwaeth o flaen y genedlaeth sydd yn cy- fodi. Y mae hyn yn ddywediad cryf, ond yr ydwyf yn berffaith sicr ei fod yn fynegiad cywir o deimlad pob gwir Gymro. Nid am nad ydyw y Cymro twymgalon yn ymhyfrydu ac yn ymfalchio yn llwyddiant ei gydwladwr yn ogystal ag unrhyw wr, ond am. y teimla ei holl anianawd yn dyweyd fod y types yma a fawrygir genym (er, efallai, ym, siarad ein hiaith), wedi trefnu eu holl fywydi ar linellau Seisnig. Gwel yn eglur mai nid yn y cyfeiriad yma, y mae gobaith Cymru yn gorwedd, a theimia. a'i holl natur fod yn rhaid i ni fel Antaeus gynt ddychwelyd i'r ddaear i gael adgyf- I I nerthiad newydd i'n bywyd cenedlaethol. rhaid dyfod i lawr i blith y werin-bobl sydd eto yn byw y bywyd syml Cymreig. Teimlst fod yr hen draddodiad yn berffaith wir. Mai y bachgen o'r wlad, perchen y ffon gollen,, wna ddihuno Arthur, ac nid yr ariangarwr sydd a'i lygaid ar yr aur. Wrth anturio awgrym neu ddau yn mhell- ach ar beth ydyw Cymreigaeth mewn mas- nach, dywedsf mai y peth pwysicaf yr ydyro yn sefyll mewn angen am dano ydyw, gwyh. odaeth gywir o dueddiadau naturiol ein cenedl; a hyder cryf eu bod yn cynwys posibilrwydd- syniadau uwch a gwell am fywyd a masnach,, nag eiddo'r Sais ynghyd ag amgyffred eglur o beth ydyw y bywyd Seisnig yn ei gyfanswm., yn ei drueni, ei dylodi a'i hagrwch, fel can- lyniad naturiol y gyfundrefn fasnachol. Nid damwain ydyw y ffaith fod prif arwyr ein cenedl—goreugwyr ein gwlad-wedi cael., eu hatdynu gan y gahvedigaethau hyny sydd ar y cyfan a'u tueddiadau i enill gwybodaeth neu i ledaenu gwybodaeth, yn hytrach na defnyddio eu talentau i bentyru golud ac i enill y dylanwad arwynebol y mae cyfoeth yn ddwyn i'w berchenog. Os cyfaddaswn y syniad cenedlaethol yma i'r unigolyn, ymddengys i mi mai y wers eglur ddysga ydyw, fod galluoedd goreu dyn, fef; cenedl, i'w rhoddi nid i'w fasnach a'i faterion bydol, ond i eangu ei feddw], i wrteithio ei ddeall, ac i brydferthu ei gymeriad fel y gall pawb a'i gwel ddyweyd, nid dyma fasnachwr llwyddianus, ond dyma ddyn-a hwnw yn Gymro.