Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
SALE BY TENDER. T. J. HARRIES & Co. FOR SALE BY TENDER, As a going concern, THE WELL-KNOWN DRAPERY AND MILLINERY BUSINESS NEAR OXFORD CIRCUS, carried on successfully 1\ for many years by the late Mr. T. J. HARRIES, under the above style. Also the Goodwill of the said business, together with the very valuable LEASE- HOLD SHOPS, being lis. 258, 260, 262, 264, nn and 266 OXFORD STREET, Where the business is carried on, and Nos. 246 and and 248, OXFORD STREET, now in the occupation of Mr. Alfred Stedall. Also the Lease of the FIRST and UPPER FLOORS of Nos. 51A, 51, 53, 55, 57, 59. and 61, WIGMORE STREET, recently acquired for the purposes of the said business.) Tenders to be sent in so as to be received not later than the 25th April, 1902. Forms of tender, together with condi- tions of sale, and any further information, may be obtained from Mr. JOHN T. LEWIS, Solicitor, -54, Chancery Lane, London, W.C. ivi I T-i ovists APPRENTICE-MADE HALF-PINTS ONLY Per 4/6 Dozen. I These are made of the very best materials and are quite as strong and durable as the best cans. They are properly shaped, but the soldering is not up to our usual standard of neatness. UNEXCELLED FOR STRENGTH AND DURABILITY. ————— Prompt Deliveries. ————— Price Lists of all Dairy Appliances, Post Free. DAIRY OUTFIT CO., LTD., KING'S CROSS, LONDON.
Y BYD A'R BETTWS.
Y BYD A'R BETTWS. Treth ar fara dyna symudiad diweddaraf y Weinyddiaeth Doriaidd bresenol! Yn ystod y tair blynedd diweddaf, y mae dros 160 miliwn o bunau wedi eu gwario gan Loegr ar ryfel. Er chwilio am fisoedd am De Wet methodd ein milwyr a dod o hyd iddo; eto, pan aeth cenhadcn heddwch i'w chwilio caed ef yn union, ac y mae yn Pretoria, ond nid fel car- charor. Os ceir heddwch, ai nis gellid cael De Wet drosodd i lywyddu yn un o gyfarfodydd yr Eisteddfod yn Mangor. Byddai yn debyg o gael cystal cynulliad a neb o'r gwyr da sydd wedi eu penodi hyd yn hyn. Y mae Dr. Talmage wedi marw yn Wash- ington, yn ei 70 mlwydd o'i oedran. Efe oedd Dr. Parker yr Unol Dalaethau. Bwriada pobl Bangor godi pabell gyfaddas i ddal wyth mil o bobl erbyn yr Eisteddfod eleni. Bydd y draul ynglyn a'r adeilad yn £ 1133- Deg punt yw'r swm a gynygir i Cynonfardd am arwain yn yr Eisteddfod Genedlaethol am wythnos ond telir deugain punt i ganwr am bresenoli ei hun mewn un cyngherdd. Mae'n bryd i arweinyddion eisteddfodol i gael' trade union," a chyflogau addas. Ni chaed toll ar fara oddiar y flwyddyn 1869. Diddymwyd ef yn llwyr y pryd hyny. Yr oedd pedwar swllt y chwarter o dreth ar yr yd yn 1846, ond gostyngwyd ef i swllt y chwarter yn 1849, a diddymwyd hyn yn 1869. Yn awr, y mae'r Llywodraeth Doriaidd bre- senol am ail osod y dreth yn ol, a diau ei gwelwn yn lied drom cyn pen ychydig iawn o flynyddau. Dyma fel y mae Syr Michael Hicks Beach wedi trefnu i sicrhau arian eleni gyda'i dollau newyddion:— Ceiniog ychwanegol ar Dreth yr Incwm 2,000,000 Ceiniog ychwanegol ar cheques a warrants 500,000 Treth ar yd a lffwr 2,650,000 Felly, gwelir mai treth yr yd sydd i ddwyn haner y gost. u Y mae'r Barnwr Cymreig enwog-R. Vaughan Williams-wedi cydsynio i draddodi araeth o flaen Undeb Cymdeithasau Diwyll- iadol Cymreig Llundain ar y 3ydd o Fai. Cymerir y gadair gan y bargyfreithiwr Mr. Llewelyn Williams, a disgwylir nifer luosog o wyr da ereill i gymeryd rhan yn y gweithred- iadau. Nid yw helynt Coleg Bala-Bangor a Choleg y Brifysgol eto wedi llwyr ddiffodd, er hyny, credir nad el coleg y pregethwyr mor bell a thori ei gysylltiad a'r sefydliad arall. Ond y mae un peth yn foddhaol, gwelir fod enw y Prifathraw Rhys wedi ei osod ar y pwyllgor ymweliadol yn lie Dr. Fairbairn—un o achos- wyr y cweryl, ac hwyrach y ceir heddwch mwy. A oes gormod o de yn cael ei yfed yn ein gwlad ? Dyna bwnc teilwng o sylw ein hawdurdodau iechydol. Dywed un llwyrym- wrthodwr pwysig o ardal Aberystwyth ein bod fel cenedl yn myn'd yn fath o debot, ac nad ydym agos mor gryf a golygus ag oedd ein tadau-y rhai a ymyfent ychydig yn gymhedrol o ddiod gartref. Os yw hyn yn wir, mae perygl arall o flaen y titotal Ffrwydrodd magnel mawr ar fwrdd y rhyfel-long Mars ddechreu yr wythnos hon gan wneyd galanas ofnadwy. Lladdwyd un- arddeg o'r milwyr ar amrantiad, ac anafwyd amryw ereill. Os yw ein megnyl yn myn'd i ffrwydro fel hyn adeg heddwch, beth a ellir ddisgwyl oddiwrthynt pan eu gweithir ar adeg rhyfel ? Y mae'n eglur fod yn rhaid cael ymchwiliad manwl i'r anffawd ddifrifol hon. Wrth fyn'd i farchnatta yn Aberaman dydd Gwener diweddaf, collodd mam ei phlentyn bychan pum' mlwydd oed. Mae'r amgylch- iad wedi creu cyffro mawr yn ardal y glowyr, ac yn ystod y Saboth diweddaf gwelid miloedd o fobl ar hyd y cwm poblog hwn yn chwilio pob ciifach am y bychan. Cofus gan y dar- llenydd am y plentyn bach a aeth ar goll dro yn ol ar Fanau Brycheiniog, yr hwn a gaed yn farw yn mhen rhai dyddiau mewn lie unig a diarffordd ar y Banau, felly nid rhyfedd y cyffro a'r pryder presenol. Bu'r Cynghorau Sirol Cymreig a'u hachos o Ymreolaeth i Gymru ger bron llywydd y Bwrdd Llywodraeth Leol dydd Mawrth. Ceisient ganddo i roddi gwrandawiad i gais Cymru i uno y Cynghorau Sirol er ymdrin a materion Cymreig; ond nid oedd Mr. Long yn barod i addaw dim. Mae gan y Llyw- odraeth bresenol ormcd ar law heb feddwl am wrando ar gwynion Cymru. Mae Rhyddfrydwyr Penfro mewn helbul. Yr oeddent wedi dewis Mr. Terrell i ymladd y frwydr Ryddfrydol nesaf, ond y mae yn awr wedi troi i fod yn gynffonwr i Rosebery, felly gelwir arno i roddi ei hawl i fynu. Gwrthoda yntau wneyd, ac felly bydd raid cael cyfarfod tua'r Sulgwyn. Nis gwyddom beth a gym- hellodd pobl Penfro i ymofyn Terrell o gwbl, a dylai ei ymddygiad presenol ddangos iddynt yn ddigon eglur fod yn rhaid cael gwell gwr nag efe i gynrychioH Penfro. Am gamdrin geneth ieuanc o forwyn anfon- wyd ffermwr a'i wraig o ardal Llandilo, sir Gaerfyrddin, i garchar yr wythnos ddiweddaf. Cafodd y gwr ddau fis a'r wraig fis, a hyderwn y bydd y gcsp hon, yn wers i ereill gan fod merched Cymru yn cael eu gor-weithio yn ami yn y dyddiau hyn. Oddiar y cychwynodd pla y frech wen yn Llundain, y mae 1015 o bersonau wedi meirw. O'r nifer yma yr oedd y mwyafrif mawr yn bersonau heb eu buchfrechu o gwbl. Yn ol yr adroddiad swyddogol profir yn eglur nad oedd un person wedi rrarw os wedi ei fuch- frechu o fewn y deng mlynedd diweddaf. Ffaith bwysig ydyw hon. Bu cynhadledd yn Llandudno y dydd o'r blaen ynglyn a chadwraeth y Saboth yn Nghymru. Cwynir fod ein Sabothau yn myn'd yn llai cysegredig gan y werin, ac fod pob math o chwareuon yn cael eu cynhal ar y dydd. Gwnaeth yr hen dadau y Saboth yn llawn o brudd-der, ond y mae'r oes hon eta am fyned i'r eithafbwynt arall; ac ond i'n harweinwyr crefyddol ofalu mewn pryd gellir I dwyn y cyfan i drefp a boddhad.