Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Fel Goleuni Mab y dyn.

News
Cite
Share

Fel Goleuni Mab y dyn. Rhaid i'r dywell nos naturiol Ffoi y'ngwydd y danllyd wawr, Ac mae'n rhaid i'r caddug moesol Gilio'n ngwydd yr Iesu mawr Tra bo'i ddylanwadau'n teithio Yn y Gair, a'r Ysbryd gwyn, Bydd eneidiau yn goleuo Y'ngoleuni Pen y Bryn. "Wedi'r nos, myn haul y boreu Godi llawer blodyn gwyw, Ac adfywia'r Dwyfol Oleu Galon farw dynol ryw. Ddwyfol Haul I rhaid i'r cyfanfyd Deimlo'i bresenoldeb hyf, Teithia grymusderau'r ysbryd Allan yn ei wenau oryf: Teifl ei wen trwy dir marwolaeth, Llwyd-rew hwnw lyag a'i dân, A cheir Dwyfol-feddyginiaeth Yn Ei egyll llydain, glan. Dyma'r Goleu mawr, llewyrchus, Ddaw a'r byd yn oleu wyn, A'r Goleuni gogoneddus Deithia drosodd drwy y glyn Ynddo Ef y'ngole'i aberth, Ynddo Ef ar Ben y Bryn, Mae'r Goleuni sanctaidd-brydferth Sy'n goleuo'r byd yn wyn Torodd cynes oleu cariad } Atom yn un llanw rhad, A chynydda mewn dylanwad Cyffredinol y'mhob gwlad; Gweithia'r Nef y'mhob daioni Wrth wneyd gwaith Efengyl wen, I hyrwyddo'r pur Oleuni Ar ei dirion daith i ben: "Cerdda llawer arwr allan I oleuo'r tywyll fyd, 4"ê;;¡ A sancteiddrwydd Duw ei hunan Yn goleuo trwy ei fryd Ceir trwy'r tywyll dir paganaidd v Wawr y Nef yn llifo'n dlos ¡ Ac yn agor gwynddydd sanctaidd Drwy'r lygredig drymaf nos. "Iesu sy'n goleuo dynion, Gwna hwy'n oleuadau tar, •Ceidw'i danllyd weinidogion Yn y byd fel gloywon ser Yfant o'i oleuni'n wastad, Ymlonyddant yn Ei hedd, Gorfoleddant yn Ei gariad A disglaeriant yn Ei wedd. Mae'r dysgyblion duwiolfrydig Yn parhau i'r byd yn wawl, Mae eu Hathraw bendigedig Iddynt wedi rho'i yr hawl: Pan oedd oriau gado'r ddaear A'i biinderau, yn neshau, D'wedai y ca'ent gwmni dengar Y Diddanydd i barhau Fel bu Ef ei hun mor dirion Tra'n sefydlu 'i deyrnas gre', Oyfarfyddai Ei ddisgyblion I oleuo yn ei Ie I Megis halen trwy ddaioni Hawliai iddynt buro'r byd, Ac fel dinas o oleuni Ar y bryn i'w gwel'd 0 hyd: Yn y golwg i bererin Grwyda'n llawn o boen a braw Wedi colli ei gynefin Yn y pellder tywyll draw: Yn y golwg i'w gyfeirio Tua'i gartref llawn, a chlyd, I folianu ('r Duw sy'n llywio) Am Oleuni Mawr y Byd. Bydd tywyllwch Gethsemane Ac ofnadwy nos y Bryn, Wedi troi yn Ddwyfol Ole' I fyrddiynau yn y glyn: Bydd holl hanes dwfn y dioddef Wedi myn'd trwy'r Nef mewn bri 1 Yn cyilawni 'i ddiben adref Wrth oleuo'r daith i ni. Ddwyfol Ole' tyr'd i wenu Ar fy mywyd llwfr yn Hi, .Boed dy lewyrchiadau'n llathru Drwy fyd dwfn fy enaid i: Ynot Ti o hyd mae'r Gole', • Ynot Ti mae'r gwir fwynhad, Ynot Ti mae'r llwybr adre', I wynfydedd rhydd a rhad: Bur Oleuni di-frycheulyd I Gole'r nos a gole'r dydd, Gole'r corph a gole'r ysbryd, Gole'r caeth a gole'r rhydd Gole' i fyw a gole' i farw, Gole'r byd a gole'r bedd, Gole' drwy yr anial garw Hyd i gariad-wlad y wledd; Yn dy Ole', Iesu anwyl! j Dringir yno draw'n ddi-nam, 1 A bydd bendith ar ein gorchwyl Pe b'ai'r byd a'i glod yn fflam. (BUGAIL-Y-LILI), Sef j Hansannan. TREBOR ALED.

Advertising