Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Oddeutu'r Ddinas* m

News
Cite
Share

Oddeutu'r Ddinas* m Noson y cwpanau arian fydd hi yn Mile End nos Iau nesaf. Disgwylir yno gystadlu brwd am danynt. Gyda chyngherdd uwchraddol y bwriada Cymdeithas Jewin ddirwyn ei thymhor i ben, a chymer hwnw le nos Wener nesaf o dan lywyddiaeth Mr. Rees Williams yn neuadd y capel. r Ynglyn a dyddiau y coroniad a'r deuddydd gwyliau a geir yn Llundain, awgryma un Eis- teddfodwr pybyr i gynhal cynulliad yn yr awyr agored-dyweder ar ben Primrose Hill neu rhyw lanerch gyfagos i'r ddinas, a rhoddi coronau yn wobrwyon am wahanol gystadleu- aethau. Byddai yn eisteddfod goronog mewn gwirionedd wedyn. <t Fel y gwelir y mae'r Anibynwyr yn trefnu i gael nodachfa fawr un o'r dyddiau nesaf yma yn nghapel y Tabernacl, King's Cross. Mae parotoadau helaeth yn cael eu gwneyd, ac os oes rhywrai yn teimlo awydd i gynorthwyo gydag arian neu anrhegion o nwyddau, an- foner hwyntynddioedi Mrs Rees, 3, Carthusian Street, a chydnabyddir hwy yn ddiolchgar. » Nos Iau nesaf, 17eg, traddodir anerchiad gan y Parch. Tudno Williams, Walham Gree", o flaen Cymdeithas y Brythonwyr, yn 63, Chancery Lane. "Tri bardd o'r ddeu- nawfed ganrif" fydd pwnc yr ymdrafodaeth. Yr wythnos ddiweddaf yn Nghymdeithas y Sairi Rhyddion (Cangen Gymreig, rhif 2867), etholwyd y Brawd E. R. Cleaton yn arglwydd am y flwyddyn ddyfodol, fel olynydd i Syr John Puleston, ei llywydd cyntaf. Y mae Mr. Cleaton yn foneddwr adnabyddus yn mysg y Cymry Llundeinig, ac wedi cymeryd rhan flaenllaw mewn amryw o symudiadau o ddydd- ordeb i'n cydwladwyr yma ac yn Nghymru. » Yn ystod gwyliau'r Pasg aeth Mr. William Jones, A.S., am dro i'r Cyfandir-i Ian M6r y Canoldir-er rhoddi tro am yr hen aelod pob- logaidd dros Fflint, Mr. Samuel Smith. Y mae iechyd Mr. Smith wedi tori i lawr, a rhaid yw iddo aros yn hinsawdd dyner glan mor Ffrainc hyd nes y daw yr hin yn fwy cynes yn y wlad hon. # » Mewn coiofn arall gwelir hysbysiad am gyfarfod te a chyngherdd blynyddol ein cyf- eillion yn Falmouth Road. Mae eu rhaglen yn novel, ac yn sicr o dynu; ac y mae enw Madame Clara Novello Davies yn ddigon o sicrwydd am safon y cyfarfod. # < Nos Iau diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod difyr ac adeiladol gan gyfeillion Stratford, yn eu capel, yr hwn a gymerodd y ffurf o ganu ac adrodd a chwpanaid o de. Yr oedd y cyfarfod hwn yn terfynu y lliaws cyfarfodydd llenyddol a gafwyd yn ystod y gauaf, y rhai a brofasant eu hunain yn wir fendithiol. » Cymerwyd y gadair nos Iau gan Mr Morgan, Seven Kings, yr hwn a wnaeth ei ran yn ganmoladwy. Cafwyd caneuon gan y Mri. Meth Jones, Ilford, Dewi Thomas, Henderson Road, Misses Edith Parry, Plaistow Road, a Jennie Thorras, Jewin. Cafwyd adroddiadau gan Misses Lottie Jenkins (Jewin) a Thomas, Leytonstone Road. Gwasanaethwyd wrth yr offeryn gan Miss Sarah Jones, Freemantle Road, yr hon, mewn undeba Miss Edith Parry, J A fu yn gofalu am y te a fwynhawyd mor fawr yn ystod y cyfarfod. w Cafwyd ychydig eiriau calonogol gan y Parch. J. Wilson Roberts, llywydd y Gym- deithas Lenyddol. Teimlid ar y diwedd fod gwledd ardderchog wedi ei harlwyo, a dym- uniad pawb ydoedd am gael y cyffelyb yn fuan eto. Cynhaliwyd cyngherdd mawreddog yn Neuadd Drefol Fulham, nos Iau wythnos i'r diweddaf, i'r diben o ysgafnhau ychydig ar y ddyled anferth sydd yn gorwedd ar y capel newydd yn Walham Green. Darfu i un o edmygwyr yr achos yn y lie hwn ymgymeryd a'r gwaith o ffurfio cyngherdd, ac y mae yn dda genym allu dwyn tystiolaeth i'r ffaith fod ei ymdrechion wedi troi allan yn llwyddiant. Yr oedd ton y cyngherdd o'i ddechreu i'w ddiwedd o chwaeth uchel; ac enillodd y can- torion iddynt eu hunain boblogrwydd yn y rhan hon o'r dref. Agorwyd y cwrdd mewn dull rhagorol gydag unawd ar y berdoneg gan Mr. Merlin Morgan. Cafwyd dadgan- iadau da gan y cantorion canlynol :-Miss Edith Trew, Miss Bessie Woodward, Meistri Gwilym Richards, John Walters a William Rees. Cawd adroddiadau rhagorol gan yr ad- roddwr adnabyddus, Mr. Rowland A. Davies. Rhoddodd ysbryd y darnau yn fyw ger bron y gwrandawyr. Dangosodd Mr. Handley Davies, hefyd, fedr gyda'r crwth, a chafodd y gynulleidfa gryn fwynhad wrth wrando arno. Yn absenoldeb y maer (Timothy Davies, Ysw.), caieiriwyd yn ddeheuig gan y Cymro gwladgarol a'r masnachwr eang, Mr. Phillip Walters, Brompton Road, yr hwn, yn ystod ei sylwadau, a ddywedodd fod y maer (Mr. Davies), er mwyn tipyn o adgyfnerthiad, wedi cymeryd ychydig seibiant yn Hastings; ond er ei fod yn Hastings o ran ei gorph, yr oedd yn y cyngherdd o ran ei ysbryd. Yna aeth y cadeirydd ymlaen i son am ragoriaethau a chynydd y Methodistiaid, &c. Yr oedd yn eglur fod pawb wedi cael eu llwyr foddloni yn y cyngherdd hwn. Yr oedd y neuadd yn llawn hyd y drysau ac yr ydym yn hyderu fod elw sylweddol wedi ei sicrhau oddiwrth yr anturiaeth.

Advertising