Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

GWAWR HEDDWCH.

News
Cite
Share

GWAWR HEDDWCH. Yn ol pob hanes, y mae mudiad pwysig ar waith yn Neheudir Affrica. Mae arweinwyr y Bauwyr wedi cael caniatad i gyfarfod ac i ymgynghori a'u gilydd gyda'r amcan o geisio am heddwch a dywedir fod y bobl yn gyff- redinol yn awyddus am i'r helynt presenol ddarfod am byth. Nid oes wiw celu y ffaith fod yr ychydig fanylion hyn wedi rhoddi bodd- had neillduol i bleidwyr heddwch yn y wlad hon, a hyderir yn gyffredinol y cytunir ar ryw gynllun y tro hwn a fydd yn dderbyniol i'r Bauwyr, ac yn foddhaus i Brydain ar yr un pryd. Gwnaed amryw geisiadau cyn hyn i gael rhyw fath o gytundeb, ond ar yr awr olaf yr oedd pob pelydryn o obaith yn diflanu, a'r rheswm am hyny mae'n debyg oedd fod y Bauwyr bob tro yn hawlio eu hanibyniaeth. Y mae'n eglur ddigon bellach nas gallwn ni eu llwyr orchfygu eithr y parhant i fod yn elyn- ion i ni am genhedlaethau os na ddeuir i ryw gytundeb buan, a goreu po gyntaf i'r wlad hon y ceir drws agored i ni ffoi o'r trybini yr ym ynddo. Y mae ein cyfrifoldeb arianol yn myned yn uwch, uwch, bob dydd, ac y mae'r gwastraff sydd wedi bod yn Affrica yn anhy- goel bron. Pe ceid heddwch y mis hwn, bydd y baich yn Ilethol i'w ddwyn; ond os mai parhau a wna y rhyfel am flwyddyn arall, bydd tynged dinystr Prydain wedi ei selio.

[No title]

!SALMYDDIAETH YR ALMAEN.