Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Gan Pedr Alaw. CHWAETH MEWN CERDDORIAETH. Ymddangosodd yn y Daily News, yn ddi- weddar, erthygl gan y gantores enwog— Madame Nordica-ar y testyn dyddorol uchod. Dywed y gantores hon ei bod yn credu fod chwaeth gerddorol yn beth y gellir ei feithrin, ei ddadblygu, ond nas gall person ddyfod i feddiant o hono (it cannot be acquired). Yn ol ei barn hi, rhaid i'r chwaeth gerddorol fod yn reddfol yn ei pherchenog. Ymddengys i ni, modd bynag, mai nid peth greddfol yn y person ydyw chwaeth gerdd- orol, ac, oherwydd hyny, ei bod yn beth i'w meddianu. Addefwn fod yn rhaid wrth ryw sylfaen i adeiladu'r chwaeth ami. Gwelir fod Madame Nordica yn dal mai y sylfaen yw y chwaeth gerddorol, tra y daliwn ni mai yr adeilad ydyw. Gwif fod yna y berthyras agosaf rhwng y sylfaen a'r adeilad nis gellir eu gwahanu, er y rhaid eu gwahaniaethu. Y mae chwaeth yn amrywio rriewn graddau. Fel y dywed Madame Nordica y mae yr hwn all fwynhau cerddoriaeth o'r eiddo Schumann, Schubert, Beethoven, Handel, a Wagner, &c., yn meddu chwaeth o'r fath uchaf, tra nas gall yr hwn sydd yn methu mwynhau y cyfryw gerddoriaeth fod mewn meddiant o chwaeth gwerth yr enw. Dywedir fod gan berson chwaeth at gerddoriaeth ond nid yw hyn yn teilyngu yr enw chwaeth," yn ol ein barn ni. Byddai yr enw tueclcl at gerdd- oriaeth yn enw priodol a chywirach. Sylwasoch ar faban yn cael ei swyno gan gerddoriaeth. Nid am ei fod yn meddu chwaeth i'w alluogi i fwynhau, ond am fod yna deimlad greddfol ynddo tuagat gerddor- iaeth. Nis gall y baban weled a'i lygaid heb fod yna allu yn ei lygaid i dderbyn goleuni. Nid yw eto yn gwybod ddim am na llygaid na goleuni. Edrych, fe ddichon, ar liwlau, a swynir ef ganddynt; ond rhaid iddo wrth ddadblygiad, wrth addysg, wrth brofiad er ei alluogi i'r eithaf brydferthion y lliwiau. Pan y cyrhaeddo'r ystad hono, y gellir dyweyd fod ynddo chwaeth. Y mae chwaeth, felly, yn golygu defnydd- iad o allu meddyliol yn y person wrth ol- rhain, wrth gymharu, wrth sylweddoli gwerth y naill gerddoriaeth yn gyferbyniol i gerdd- oriaeth arall y dangosir chwaeth. Mater o addysg ydyw felly. Ie, yn sicr, canys y mae chwaeth yn newid-yn gwella neu waethygu, yn ol profiad ac addysg. Paham, er engraifft, y mae gwr sydd yn hoffi cerddoriaeth yn ddirfawr, ond sydd ar hyd ei oes mewn rhyw gongl o Gymru wedi troi yn myd y don gynulleidfaol-paham nas gall ddirnad rucheledd symphonies Beethoven a'r cewri ereill ? Yr ateb yw, am nad ydyw wedi ei ddysgyblu yn adranau uwchaf y gel- fyddyd gerddorol. Nid yw wedi cael neb i'w gyfarwyddo pa fodd i ddringo i'r uchelion-y man lie y mae y cewri yn sibrwd eu cyfrinion! Felly, y mae'r chwaeth yn fach neu fawr, yn bur neu amhur, yn ol mesur ac ansawdd yr addysg a'r profiad. Pwy sydd i benderfynu safon chwaeth ? Y mae hwn yn gwestiwn pwysig, canys ceir fod safon chwaeth gerddorol yn wahanol mewn gwahanol ranau o'r byd. Cymerer cerdd- oriaeth Siam, er engraifft, y mae wedi ei hadeiladu ar reddfau hollol wahanol i'r eiddom ni; ac mewn canlyniad y mae ei hedmygwyr -y Siameaid-mor barod i ddibrisio ein cerddoriaeth ni ag ydym ni i fychanu eu cerddoriaeth hwy I Ond yr ydym o'r farn pe dygid i fyny blentyn o Siam o dan ddylanwad cerddoriaeth Europeaidd yn gyfangwbl; pe'i addysgid ef yn egwyddorion ein cerddoriaeth ni yn unig, y deuai i hoffi ein cerddoriaeth ac i arddangos chwaeth gerddorol fel yr eiddom ninnau. Byddai yr addysg gerddorol hon yn gyfeiriad newydd i'r duedd oedd yn y plentyn hwn at gerddoriaeth-codid adeilad o ffurf Europeaidd ar y sylfaen, adeilad y byddai ei pherchenog yn gallu ymhyfrydu ynddo. Felly, gwelir fod safon chwaeth yn cael ei phenderfynu yn ol mesur a natur yr addysg a geir: yn ol gallu person i fwynhau y gerdd- oriaeth a elwir y clasurol "-clasurol oblegid ei bod yn arddangos gwybodaeth o gyrhaedd- iadau uwchaf celfyddyd y cerddor. Y mae hyn yn golygu y rhaid i'r cyfryw gerddoriaeth -os yn lleisiol-fod wedi ei chysylltu a geir- iau o nodwedd bur. Y mae yr hwn sydd yn ymhyfrydu mewn cerddoriaeth felly yn meddu chwaeth goeth, tra mae'r hwn nas gall godi uwchlaw swyn caneuon digrifol, disynwyr, yn meddu chwaeth isel. Dyna o leiaf a ddywedwn, wrth edrych ar y mater drwy wydrau Europeaidd ac nid oes argoelion y bydd i ni ddefnyddio gwydr- au Dwyreiniol i benderfynu teilyngdod safoncl cerddoriaeth. Ymddengys hyny yn amhosibl.

Advertising