Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
CWMNI YSWIROL Y PRUDENTIAL.
CWMNI YSWIROL Y PRUDENTIAL. Yr wythnos hon cyhoeddir adroddiad blyn- yddol y cwmni enwog hwn. Fel y gwelir oddiwrth ei ffigyrau, parhau i fyned ar gynydd y mae, flwyddyn ar ol blwyddyn; ac y mae'r daflen flynyddol hon yn deilwng o Ganghell- ydd y Trysorlys gan mor aruthrol y symiau a fantolir mor ddi-draffeith. Cwmni Prydeinig yn hollol yw'r cwmni yswirol hwn, a gwyddom ni yng Nghymru pa- mor eang ei gysylltiadau a pha mor gyflfredim ei ddeiliaid; ac am hyny y mae'r wlad wedi; glynu yn rhagorol wrtho gan y gesyd y fatfe delerau mor fanteisiol gerbron y cyhoedd. Mae llawer i wlad ar gyfandir Ewrop yn Ilai ei derbyniadau a'i threuliau blynyddol na'r cwmni hwn, ac y mae gweled rhyw gynydd c dres dair miliwn a chwarter yng ngwerth eit eiddo yn golygu ei fod wedi eangu ei ddal- iadau a'i gefnogaeth yn aruthrol. Cyfnfir ar hyn o bryd fod un rhan o dair o'r boblogaeth- yn yswirio dan Gwmni y Prudential. Gan fod nifer fawr o'n cyd-ddinaswyr wedi? yswirio ynddo, y mae'n galondid iddynt weled1 y wedd lewyrebus a diogel sydd ar holl ad- ranau y cwmni, a phrawf fod ei drefniadau rhesymol yn ei wneyd yn berffaith ddiogel h gyfarfod a phob gofynion eithriadol. Gall pawb sydd yn awyddus am ragor c" fanylion ynglyn a'r cwmni gael pob hysbys- rwydd ond ymohebu a'r goruchwyliwr lleol,, Mr. G. H. Heap, i, Argyle Square, yr hwrc fel ei ddiweddar gyd-lafurwr, Mr. E. Jones7, Myddeiton Square, sydd wedi dal safle an- rhydeddus o dan y cwmni am flynyddaxa lawer.
Y LLONGWR CYMREIG A'I HELYNTION.…
Y LLONGWR CYMREIG A'I HELYNTION. Bu achos dyddorol o flaen y Llys yn Llun- dain yr wythnos ddiweddaf. Yr achwynydd oedd hen gabten Hong o Gymro a'r diffynydd oedd prif heddwas y ddinas. Cwynai y capten, un Evan Morris, o Borth- madog, ei fod wedi cael ei gymeryd i'r ddalftt- yn Llundain, yn mis Mawrth diweddaf, fel person allan o'i bwyll. Aed ag ef i'r tyloty.,
CYMRY ENWOG LERPWL.
CYMRY ENWOG LERPWL. Myn thai mai Lerpwl yw prif ddinas Gog- kdd Cymru. Mae yno nifer lucsocach o'n cydgenedi, meddir, nag yng Nghaerdydd. Er hyny, y mae'n hynod nad yw y ddinas wedi cynyrchu ond nifer fechan o Gymry byd- enwcg. Yn hyn o beth, y mae Llundain gryn dipyn ar y blaen, oherwydd nid oes un cyfnod yn y ddwy ganrif ddiweddaf nad oes yma Gymry dylanwadol wedi bod yn preswylio ar lan y Tafwys. Un noson, yr wythnos ddiweddaf, bu un o hen Gymry parchus Lerpwl yn adrodd ei ad- gofion o flaen Cymdeithas Gymreig y dref hono, ac yn ystod ei sylwadau, dywedai, mai un peth sydd yn taro dyn a syndod wrth roddi trem dros hanes Lerpwl yn ystod y ddwy ganrif ddiweddaf ydyw dinodedd ein cenedl yn y byd cyhoeddus, a'r ychydig enwau Cym- reig sydd i'w cael ar restr y dynion a fuont yn gweithredu yn flaenllaw i wneythur Lerpwl, o'r pentref cydmarol fychan ar lan y Ferswy ar ddechreu y ddeunawfed ganrif, i'r hyn ydyw yn awr. Nid oedd yn y cyfamser rifedi y trigolion Cymreig yn ddinod i'r gwrthwyneb, cydnabyddir yn gyffredin fod tuag un o bob deg o'r boblogaeth yn Gymry. Pan wnaed y cyfrifiad olaf ond un, yr oedd gynifer a 17,000 o bersonau wedi eu geni yng Nghymru. Y mae yn ddiau fod adegau wedi bod pryd yr oedd c>fartaledd cyfanrif y Cymry yn y dref yn llawer mwy na deg y cant. Y rhesymau roddai y derlithydd dros y dinodedd ydoedd (a) Ein diffyg meistrolaeth ar yr iaith faiii-y feistrolaeth arni yn gyntaf oil fel y defnyddir hi gan y cyffredin, yn sathredig; ond hwyrach yn fwy na hyny, ei medru yn ddiacen Gym- reig-acen sydd, oherwydd rhyw ragfarn af- resymol yn Sais Lerpwl, nad oes iddi le mewn dinasoedd mwy gwareiddiedig, megis Llundain, sydd yn fwy anerbyniol na brog y Gwyddel ac na gerwinder aflafar yr Ysgotyn (b) y ffaith mai gweithwyr cyffredin a merched gweini oeddynt yn cyfansoddi y rhan fwyaf o lawer o'r elfen Gymreig a ymfudai i'r dref (c) yr oedd yr absenoldeb o'r Gymraeg o eiriau i ymdrin a materion masnachol a gwyddonol yn cyfansoddi anhawsder ac yn wir rwystr ar ffordd y Cymro i gyrhaedd tir nod a chyhoeddusrwydd yn y dref. Y mae yn debyg mai y peth olaf sydd yn rhoddi cyfrif am fod ei ymdrechion i lwyddo yn y byd wedi eu cyfyngu gan mwyaf i linellau neill- duol ar ba rai yr oedd llethrau llai i'w dringo. Er hyny, yr oedd rhai eithriadau disglatr. Eto, ychydig yw'r Cymry fuont yn farsiandwyr yno, ac nid llawer fu yn sangu llawr y gyfnew- idfa. Yn hytrach, hyd ffyrdd llai cyhoeddus y cerddasant i safle a meddianau. Eu tuedd oedd gwasgu arian allan o goed, cerig, a phriddfeini. Yr oedd un rhesvm arall am ddinodedd y Cymro. Bu Lerpwl bob amser yn gryf yn ei Thoriaeth a Hawn o sel dros yr Eglwys Wladol, tra yr cedd y Cymry fel rheol yn Rhyddfrydwyr ac yn Ymneillduwyr. Nid yw yr holl achcsion hyn ond effeithiau un achos mawr, gwreiddiol a sylfaenol, yn natur y Celt. Boed ef Gymro neu Frython, Gwyddel neu Fficht, dadansoddwr a dadgysylltwr ydyw, ac y mae'r elfen hon yn sefyll ar ei ffordd. Ni anfonodd Lerpwl ond un Cymro i Dy'r Cyffredin yn ystod dwy ganrif, sef Richard Pennant yn 1767, yr hwn oedd o deulu yn sir Fflint, a henafiaid yr Arglwydd Penrhyn pre- senol. Y Cymro cyntaf gawn a lwyddodd ac a anrhydeddwyd a'r swydd o faer yn y Cyngor Trefol ydoedd John Buck Lloyd, brodor o sir Feirionydd. Tori aiddgar ydoedd. Tori oedd y Cymro nesaf hefyd, sef John Hughes, y twrne, ond ni anghofiodd yn ei ddyrchafiad mai Cymro ydoedd. Cymro arall fu yn faer ydoedd J. P. Morgan 1890, ond ni fedrai siarad ein hiaith. Yn ystod y ddarlith, caed amryw hanesion difyr am hen gymeriadau Cymreig hynotaf y ganrif ddiweddaf.
EISTEDDFOD MORLEY HALL
EISTEDDFOD MORLEY HALL (MAWRTH 13EG 1902). Y BEIRNIADAETHAU. I. Dau Englyn, 11 Goleuni Trydanol." Tri chyfansoddiad sydd wedi dyfod i law, yn dwyn yr enwau, Unodl Union, "Ap Gwilym" ac Ajax." 1. "Unodl Union." Nid yw yr awdwr hwn yn deall y gynghanedd nac anhebgorion englyn. Wrth geisio ameanu at rywbeth nas gellir dyweyd yn iawn beth, y mae wedi peri fod y llinellau yn ddiystyr, yn gystal ag yn ddi-gyngbanedd. 2. Ap Gwilym." Y mae'r gwr bwn yn gynghan- eddwr di-fai; ond y mae yn euog 0 abertbu synwyr er mwyn cynghanedd. Ei linell gyntaf ydyw— Dof alltud had y fellten ac nis gwn pa beth y mae yn feddwl: os mai ceisio dyweyd y mae fod y fellten wedi ei dofi er mwyn rhoddi goleuni at wasanaeth dyn, nid yw wedi llwyddo i ddyweyd hyny yn y llinell fel y mae. Ei linell olaf ydyw- A'i naws boena nos beunydd ac y mae'r gynghanedd yma eto wedi yspeilio'r llinell o'i chenadwri briodol. Y mae'r gweddill yn well, ond yn hollol amddifad o darawiadau byw a desgrif- iadol. 5. "Ajax." Dau englyn gweddol sydd ganddo yntau. Nis gellir cymeradwyo cyrch yr englyn cyntaf— -lywir Ar alwad peirianydd." Pur ddi-ystyr yw y ddwy linell olaf yn yr ail englyn, ac nid oes reswm, ond galwad y gynghanedd, dros roi'r lamp" yn y rhyw wrywaidd. Gyda'r eithr- iadau a nodwyd, y mae y rhai hyn yn ddau englyn glan a chywir. Er nad yw y desgrifiad yn wefrol, y mae yn gymeradwy. Ajax yw y goreu o ryw gymaint, ac ar yr amod- fod iddo wella y pethau a nodwyd, dyfarnwn ef yn haeddianol o'r wobr. 11. Pedwar penill, u Yr Iesu yn rhyfeddu," Nid oes yma ond un ymgeisydd ar y testyn swynol a barddonol hwn. Pa le y mae'r beirdd tybed? Y mae gan Disgybl benillion syml, tyner, a chymer- adwy. Nid ydynt yn ameanu at ddim mawr; ao nis gellir dyweyd eu bod yn feiddgar nac yn farddonol iawn ond y maent yn ddesgrifiadol ac yn llawn werth y wobr. III. Traethawd, "Y modd goreu i wneyd Cartref Cysurus." Y mae'r traetbodwyr wedi bod yn fwy effro na'r beirdd. Y mae cynifer a saith wedi cynyg ar y testyn hwn; a rhaid i mi ddyweyd am y saith, eu bod, ar y cyfan, yn seitbwyr da eu gair." Nid oes cym- aint ag un o honynt yn hollol ddi-amcan. 1. Chwaer Moses." Traethawd syml, wedi ei ysgrifenu yn weddol gywir. Y mae'r prif elfenau angenrheidiol er gwneyd cartref cysurus yn cael eu benwi; ond y mae yn fwy o gynghor nao 0 draeth- awd ac yn fwy o amlinelliad nac 0 waith gorphen- edig a chyflawn. Er yn gynyg da eto nid- yw ond gwaith an-addfed. 2. "Meirionferch." Y mae gan y chwaer hon draethawd pur ymarferol a gwir ddarllenadwy. Y mae'r iaith a'r orgraff weithiau yn hynod wallus. Nid yw Meirionferch wedi amcanu at ddim mawr ac eto y mae yn cynwys, mewn amlinelliad, y prif betbau at wneyd cartref cysurus. Y mae'r ymdrin- iaeth yn rby fer; ac y mae yn aros braidd yn or- modol gyda rhan y wraig yn y gwaitb. Y mae'r traethawd er byny yn waith addawol, yn gall, ac ymarferol iawn. 3. "Brefi." Traethawd meddylgar a da; ond nid yw mor drefnus a glan ag ciddo rhai o'i gydymgeis- wyr. Dengys yr awdwr gryn fesur 0 allu a thuedd at atbronyddu, ac at fod yn wreiddiol; ond nid yw yn feistr ar ei waith ac eto, y mae yma rywbeth a boffwn yn y traethawd. Y mae'n cynwys addewid 0 bethau gwell. Os ieuanc yw yr awdwr, gall, gydag ymarferiad a llafur, ddisgwyl rhagori. 4. "LIef o'r DiffRethwch." Y mae gan yr awdwr hwn draetbawd gwreiddiol a gwir ddyddorol, er ei fod yn fwy o hanes nac o gynllun. Nid oedd raid i'r awdwr wneyd ymddiheurad am roddi i'r beirniad y drafferth o'i ddarllen," oblegid nid trafferth fu ei ddarllen, ond boddhad mawr. Ar yr un pryd buasai yn dda genyf pe byddai yr awdwr wedi cael amser i'w ail ysgrifenu a'i dacluso. Drwy hyny, mae'n ddi- amheu y cawsid mwy o gyd-bwysedd ynddo, ao y dygasid i fewn rai pethau nad ydynt wedi eu cyff wrdd. Fel y mae, y mae hanes y crwt" yn myn'd a gor- mod o Ie, a phethau ereill yn cael eu hesgeluso. Y mae yn ddyddorol iawn, er hyny, ac yn profi y medr yr awdwr ysgrifenu yn dda. 5. "Gymro." Nis gwn yn iawn pa beth i'w wneyd o draethawd "Oymro." Y mae, mewn un ystyr, yn gyfansoddiad manwl, llafurfawr, a galluog ac y mae hefyd yn gyfanwaith helaeth a threfnus, wedi ei ysgrifenu mewn saith o adranau ond yr anffawd yw nad ydyw wedi ei ysgrifenu ar y testyn rhoddedig. Addysg y teulu" ac nid I I Y modd goreu i wneyd cartref cysurus yw pwno y traethawd hwn o'r dech- reu i'r diwedd. Heblaw hyny, y mae'r traethawd yn fritho wallau siliebol; ac y mae yn anesboniad- wy i mi sut y gall cyfansoddwr mor dda fod mor anfedrus mewn sillebiaeth. Rbaid i mi ychwanegc- hefyd fod rbanau o'r traethawd yn dwyn tebygol- rwydd mawr i rai o'r traetbodau ereill; ac eglur yw fod amryw o'r cystadleuwyr wedi bod yn pori yr un borfa. Pe buasai Cymro wedi cadw at ei destyn, ac wedi ysgrifenu yn lanach, buasai yn sicr o berl gofid i'r holl gystadleuwyr. 6. "Morleyad." Dyma draethawd sydd yn dangosr- cryn lawer 0 fedr a gallu. Y mae'r awdwr yn galltt meddwl; ond nid yw yn glir a gorphenol. Y mae: rhanau o'r traethawd yn well na dim yn y gystadleu- aeth; ond y mae rnanau ereill 0 hono yn fratiog, ac yn llawn gwallau mewn orgraff a. gramadeg. Y mae cryn lawer o ol brys a difrawder yn nodweddu'r cyf- ansoddiad. Credaf fod yn ngallu "Morleyad" i wneyd llawer gwell gwaith na'r traethawd hwn; a chyda gofal ac ymroad gall wneyd cystadleuydd per- yglus mewn unrhyw gylch. Er cydnabod mestnr helaeth o allu naturiol yn yr awdwr hwn, y mae yn rhaid i mi osod yn ei erbyn-ddiffyg gofal, diffyg: meddwl yn drwyadl, a diffyg ysgrifenu yn glir a gor- phenedig; mae'n eglur oddiwrth ei waith y gallasafc wneyd yn well. 7. Meiriona." Y mae gan Meiriona draethawd. glan a chyfansoddiad destlus yn mhob ystyr. Y mae o ran iaith ac arddull yn rhagorol, ac y mae'r syn- iadau yn glir a phwrpasol. Y mae yn cynwys deg c raniadau, a'r cyfan, yn hollol ar y pwnc, yn cynwye. cyfarwyddyd diogel sut i wneyd cartref cysurus. Nid yw yr ymdriniaeth yn helaeth ar bob adran, ac nv, amcenir at ddim mawr; ond y mae nerth y traeth- awd yn ei symledd clir a di-rodrea. O'r tri thraethawd olaf a enwyd, y mae eiddc "Cymro" yn fwy 0 gyfanwaith cyflawn; ond yn anffodus nid yw yn draethawd ar y pwnc. Y mae eiddo Morleyad," mewn rhyw bethau, yn dangos mwy o allu ond y mae yn colli yn ddirfawr mewn gofal, a gorphencdd. Y mae Meiriona' o'r tu aral1 yn meddwl yn glir, yn ysgrifenu'n lan, ac yn llwyddc- i ddangos sut y mae gwneyd cartref yn gysurus, ym well na'r un o'r lleill. Meiriona gan hyny biau y wobr; o'r hon y mae? yn fwy na theilwng. Ydwyf yn bur, JOHN E. DAVIES.